Rhaglen dysgu seiliedig ar waith ran-amser ar lefel tri yw hon lle mae'r dysgwr yn ennill cyflog wrth ddysgu.
Anelir y rhaglen at ddysgwyr sydd dros 18 oed sydd ar hyn o bryd yn gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol mewn rolau megis gweithiwr gofal cymdeithasol, gweithiwr cymorth gofal iechyd neu gynorthwyydd gofal iechyd.
Mae'r rhaglen yn ddelfrydol ar gyfer gweithwyr cyflogedig sydd â pheth elfen o gyfrifoldeb yn rôl eu swydd. Bydd y dysgwr yn gyflogedig a bydd yn dod i’r coleg yn rheolaidd.
Cipolwg
Rhan Amser
16 mis
Campws Rhydaman
Nodweddion y Rhaglen
Caiff yr holl ddysgwyr eu cefnogi gan aseswr a fydd yn monitro cynnydd tuag at gyflawni targedau yn rheolaidd.
Byddant yn cysylltu'n agos â'r cyflogwr i sicrhau bod cymwysterau’n cael eu cyflawni o fewn y raddfa amser a byddant yn asesu’r dysgwr yn y gweithle yn ôl y gofyn.
Cynnwys y Rhaglen
Bydd rhaid i ddysgwyr sy'n dilyn y brentisiaeth hon gyflawni fframwaith o gymwysterau a fydd yn cynnwys:
Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol Craidd
Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ymarfer - gydag Oedolion neu Blant a Phobl Ifanc
Sgiliau Hanfodol Cymru Cymhwyso Rhif (Lefel 2)
Asesu'r Rhaglen
Bydd prentisiaid yn mynychu sesiynau a addysgir naill ai ar-lein neu yn yr ystafell ddosbarth, i gwmpasu cynnwys craidd y lefel dau.
Caiff y craidd ei asesu drwy astudiaethau achos ac arholiad ar-lein.
Caiff yr ymarfer ei asesu drwy waith cwrs, aseiniadau, arsylwadau yn y gwaith a thystiolaeth yn y gwaith.
Gofynion y Rhaglen
Does dim gofynion mynediad ffurfiol. Fodd bynnag rhaid i ymgeiswyr fod mewn gwaith â thâl yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol gyda chontract o 16 awr yr wythnos o leiaf.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.