Mae’r cymhwyster hwn ar gyfer y rheiny sy’n gweithio mewn lleoliadau gofal plant rheoledig gyda theuluoedd a phlant dan wyth mlwydd oed a gwasanaethau plant y GIG ar gyfer y rheiny sy’n gweithio gyda theuluoedd a phlant 0-19 oed.
Cipolwg
Rhan Amser
18 mis
Campws Rhydaman
Nodweddion y Rhaglen
Mae hwn yn gymhwyster llawn amser sy’n seiliedig ar weithdai ac ymarfer.
Bydd hi’n ofynnol cwblhau o leiaf 720 o oriau lleoliad.
Cynnwys y Rhaglen
Bydd y cymhwyster yn cwmpasu’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth graidd sy’n ofynnol ar gyfer gweithio yn y sectorau gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant. Trwy astudio’r cymhwyster hwn, bydd dysgwyr yn:
Datblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r egwyddorion a gwerthoedd craidd sy’n sail i ymarfer gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant.
Deall sut mae deddfwriaeth, polisïau cenedlaethol, arweiniad a fframweithiau’n cefnogi gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant.
Gwerthfawrogi ffactorau sy’n effeithio ar iechyd, lles, dysgu a datblygiad plant.
Ystyried rolau, cyfrifoldebau ac atebolrwydd gweithwyr blynyddoedd cynnar a gofal plant a deall pwrpas deddfwriaeth, polisïau cenedlaethol, gweithdrefnau a chodau ymddygiad ac ymarfer mewn perthynas â diogelu plant.
Caiff yr holl ddysgwyr eu cefnogi gan ymgynghorydd hyfforddi/aseswr a fydd yn monitro cynnydd tuag at gyflawni targedau yn rheolaidd.
Bydd yr ymgynghorydd hyfforddi/aseswr yn cysylltu'n agos â'r cyflogwr i sicrhau bod y cymwysterau yn cael eu cyflawni o fewn y raddfa amser.
Bydd yr aseswr yn asesu’r dysgwr yn y gweithle yn ôl yr angen
Dilyniant a Chyflogaeth
Bydd y cymhwyster hwn yn caniatáu i ddysgwyr symud ymlaen i gyflogaeth o fewn rôl lefel tri neu symud ymlaen i ddysgu pellach trwy'r cymwysterau consortiwm* canlynol:
Diploma mewn Gwaith Chwarae (Lefel 3)
Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant gydag arbenigedd (Lefel 4)
Arweinyddiaeth a Rheolaeth (Lefel 4)
Asesu'r Rhaglen
Caiff yr elfen graidd ei hasesu drwy gyfres o dasgau a asesir yn fewnol y gellir eu sefyll trwy gydol y cymhwyster neu ar ei ddiwedd. Yn ogystal, bydd un papur cwestiynau amlddewis wedi’i farcio’n allanol.
Bydd yr elfen ymarfer yn cael ei hasesu gan ddefnyddio portffolio o dystiolaeth sy’n cynnwys arsylwi ymarfer.
Gofynion y Rhaglen
Bydd angen geirda cadarnhaol ar bob ymgeisydd. Caiff addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn ei asesu yn y cyfweliad.
Rhaid bod dysgwyr yn gyflogedig yn y sector gofal plant a bod ganddynt gontract parhaol am o leiaf 16 awr yr wythnos.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.