Diploma Estynedig Teithio a Thwristiaeth Lefel 3

Disgrifiad o'r Rhaglen



Mae’r cwrs hwn yn rhoi mynediad i addysg uwch ac i yrfa yn un o’r diwydiannau sy’n tyfu gyflymaf yn lleol ac yn genedlaethol.  Mae’r Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Teithio a Thwristiaeth yn ymestyn y Diploma L3 (90 credyd). Ar gwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, mae llawer o ddysgwyr yn dewis parhau i astudio teithio a thwristiaeth mewn sefydliad addysg uwch. Mae eraill yn symud ymlaen i gyflogaeth. Bydd y cwrs yn darparu cyfleoedd i ddatblygu ystod gyfan o sgiliau, technegau a phriodoleddau personol, sy’n hanfodol ar gyfer perfformiad llwyddiannus yn y diwydiant twristiaeth ac mewn bywyd gwaith.


Nodweddion y Rhaglen



Elfen ganolog o’r cwrs yw’r bartneriaeth agos gyda’r diwydiant twristiaeth lleol a’r cyfleoedd i deithio yn lleol a dramor. Byddwch yn cael golwg realistig ar ofynion gweithio yn y diwydiant teithio a thwristiaeth mewn amgylchedd ysgogol a chyffrous. Cewch y cyfle i archwilio’r diwydiant trwy ymweliadau ag atyniadau ymwelwyr gartre a dramor. Byddwch hefyd yn gallu rhoi theori ar waith trwy gefnogi digwyddiadau mewn partneriaeth â’r diwydiant twristiaeth lleol. 


Dilyniant a Chyflogaeth



Mae’r cwrs hwn yn rhoi mynediad i addysg uwch ac i yrfa yn un o’r diwydiannau sy’n tyfu gyflymaf yn lleol ac yn genedlaethol.  Mae’r Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Teithio a Thwristiaeth yn ymestyn y Diploma L3 (90 credyd). Ar gwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, mae llawer o ddysgwyr yn dewis parhau i astudio teithio a thwristiaeth mewn sefydliad addysg uwch. Mae eraill yn symud ymlaen i gyflogaeth. Bydd y cwrs yn darparu cyfleoedd i ddatblygu ystod gyfan o sgiliau, technegau a phriodoleddau personol, sy’n hanfodol ar gyfer perfformiad llwyddiannus yn y diwydiant twristiaeth ac mewn bywyd gwaith.


Cynnwys y Rhaglen



Ar gwrs Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Teithio a Thwristiaeth, byddwch yn astudio amrywiaeth o unedau. Mae’r pynciau’n cynnwys atyniadau ymwelwyr y DU, cyrchfannau teithio pell, adloniant ar gyfer pobl ar eu gwyliau, gweithio fel cynrychiolydd gwyliau, twristiaeth arbenigol, gweithrediadau teithiau, marchnata ac ymweliad preswyl.

Hefyd byddwch yn datblygu eich sgiliau llythrennedd a rhifedd ymhellach trwy TGAU Saesneg neu Fathemateg neu drwy Gymwysterau Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu neu Gymhwyso Rhif.


Asesu'r Rhaglen



Asesir yr holl unedau yn fewnol gan ddefnyddio asesiadau a gynlluniwyd gan y ganolfan. Gall y rhain gynnwys arsylwi mewn sefyllfaoedd cysylltiedig â gwaith, cyflwyniadau, prosiectau, neu ysgrifennu estynedig.


Gofynion y Rhaglen



Bydd angen o leiaf pump TGAU graddau A*-C arnoch i astudio’r cwrs hwn. Rhaid i un o’r rhain fod yn Saesneg, Cymraeg iaith gyntaf neu Fathemateg. Yn draddodiadol mae’r cwrs hwn yn ffurfio ail flwyddyn rhaglen dwy flynedd y mae angen arnoch chi i fod wedi cwblhau Diploma L3 mewn Teithio a Thwristiaeth (90 credyd) yn llwyddiannus.