Skip to main content

Cefnogwyd

Mae Mentoriaid Lles ar gael i chi ar draws pob campws ar gyfer gwaith grŵp neu gymorth un i un sy'n fwy ymlaciol a chyfrinachol.  Hefyd mae gennym ni adnoddau
ar-lein rhagorol y gallech eu cael yn ddefnyddiol iawn.

Mae Mentor Lles ar gael i'ch helpu a'ch cynghori ar ystod eang o bethau a bydd yn eich cefnogi cymaint ag y gallant er mwyn goresgyn rhwystrau sy'n effeithio ar eich astudiaethau.

Gallwch chi wneud apwyntiad gyda mentor yn hawdd a gellir gwneud hyn mewn amrywiaeth o ffyrdd sy'n gyfleus i chi.  

Naill ai galwch heibio eu swyddfeydd a gofyn i gael trefnu amser sy’n gyfleus ar eich cyfer, gofynnwch i’ch tiwtoriaid i drefnu’r apwyntiad, neu gallwch anfon e-bost atynt yn uniongyrchol.    

Weithiau mae cyfeiriadau’n cael eu gwneud i’r tîm gan asiantaethau allanol sy’n eich cefnogi, neu gan eich tiwtor yn y coleg. Y naill ffordd neu’r llall, byddwn yn gwneud asesiad cychwynnol gyda chi a byddwn yn sicrhau bod y lefel gywir o gymorth ar waith i chi, a gyda’r person iawn.

Mae pob dysgwr yn gallu cael mynediad i'r cymorth, a chyhyd â bod y mentoriaid yn gwybod beth all y broblem fod, byddant yn gwneud eu gorau i helpu.  Maen nhw hefyd ar gael i siarad â’ch tiwtoriaid ar eich rhan os nad ydych yn ddigon hyderus eto, ac yna byddant yn gweithio gyda chi i ddatblygu'r hyder a'r gwytnwch i symud ymlaen mewn amgylchedd diogel a chyfeillgar.  

Rydym hefyd yn cynnal digwyddiadau cymdeithasol, gweithgareddau pontio a gweithdai wythnosol ar amrywiol bynciau i helpu adeiladu hyder a gwytnwch. 

Gall y gefnogaeth hon gael effaith bositif ar eich profiad yn y coleg, felly beth am alw heibio a dweud helo a dod i wybod beth gall y Mentoriaid Lles wneud i chi.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.