Skip to main content

Cipolwg

  • Llawn Amser

  • Blwyddyn (Llawn Amser 3 diwrnod yr wythnos)

  • Campws Jobs Well

Rhaglen lefel 3 yw hon sydd yn rhoi cyfle i chi astudio celf a dylunio mewn ffyrdd archwiliol, ymchwiliol ac arbrofol.

Mae'r cwrs wedi'i gynllunio ar gyfer y rheiny nad oes ganddynt o bosibl unrhyw gymwysterau ffurfiol blaenorol, ond sydd mewn cyfweliad portffolio yn arddangos brwdfrydedd, ymrwymiad i gelf a dylunio, a bod ganddynt y potensial i gwblhau’r cwrs a gwneud cais am le ar gyrsiau gradd creadigol.

Yn draddodiadol, mae'r rhaglen yn cynnwys ystod amrywiol o grwpiau oedran ac anogir chi i ddatblygu eich sgiliau creadigol a thechnegol trwy ddarlithoedd, gweithdai a phrosiectau.

Nodweddion y Rhaglen

Mae cynnwys y rhaglen yn cwmpasu lluniadu, peintio, astudiaethau dylunio 2D / 3D a Hanes Celf; unedau sydd yn darparu ymwybyddiaeth gyffredinol, gwybodaeth a dealltwriaeth o gelf, dylunio a’i gyd-destunau.

Mae'r unedau Celf yn golygu gweithio'n uniongyrchol o arsylwi i ddatblygu sgiliau dadansoddol, cofnodi a chyfansoddol y byddwch yn eu cymhwyso i waith creadigol, personol o fewn ystod o ddisgyblaethau.

Dilyniant a Chyflogaeth

Mae’r Cwrs Celf a Dylunio: Mynediad i Addysg Uwch yn cwmpasu cyfres o unedau sy’n rhoi cyfanswm o 60 credyd sy’n cynnwys unedau craidd ac academaidd. Mae’r unedau hyn yn orfodol.

Mae’r cwrs hwn hefyd yn cynnwys Sgiliau Astudio Craidd gan gynnwys Cyfathrebu, Sgiliau Meddwl a Pharatoi Portffolio.

Cynnwys y Rhaglen

Bydd y cwrs yn eich helpu i ddarganfod y maes celf penodol rydych yn frwd ynglŷn ag ef a bydd yn eich cefnogi yn eich cais UCAS ar gyfer astudio gradd.  Ar draws y flwyddyn, trwy raglen bwrpasol, byddwch yn datblygu sgiliau, gwybodaeth a phortffolio gweledol er mwyn mynychu eich cyfweliadau gradd. Mae hi’n rhaglen hynod feithringar ac anogol sydd wedi datblygu hyder a sgiliau mewn llawer o bobl sydd wedi symud ymlaen i fwynhau profiad prifysgol.

Mae llawer o’n myfyrwyr yn dewis mynd ymlaen yn uniongyrchol i raglenni gradd yn Ysgol Gelf Caerfyrddin, y byddwch chi’n gymwys i gael bwrsariaeth dilyniant mewnol o £1000 ar eu cyfer. 

Dull asesu

Rydych yn cyflwyno gwaith ar gyfer ei asesu ar ddiwedd pob uned astudio. Caiff pob uned arbenigol ei graddio. Mae'r gwaith yn ddarostyngedig i ddilysu mewnol ac allanol.

Costau Ychwanegol

Mae yna ffi stiwdio o £150.00 ar gyfer y cwrs hwn, a bydd hyn yn darparu deunyddiau sylfaenol i chi ar gyfer datblygu gwaith ymarferol.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.

Gofynion Mynediad

Bydd angen i bob ymgeisydd ddod â phortffolio o waith celf, crefft a dylunio i’w cyfweliad.

Caiff addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn ei asesu yn y cyfweliad. Er nad yw'n ofyniad mynediad, mae'n fuddiol cael TGAU mewn Mathemateg a Saesneg.

Cyfryngau cymdeithasol:

Facebook: https://www.facebook.com/CarmarthenSchoolOfArt

Instagram: https://www.instagram.com/feartanddesign_csoa/                    

https://www.instagram.com/carmarthenschoolofart/

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.