Skip to main content

BSc Hyfforddiant a Pherfformiad Pêl-droed

Cipolwg

  • Llawn Amser / Rhan-amser

  • 1 Flwyddyn yn Llawn Amser / 2 Flynedd yn Rhan-amser

  • PCYDDS Caerfyrddin

Chwaraeon yw un o feysydd pwnc mwyaf dynamig Coleg Sir Gâr ac rydym yn falch i gynnig rhaglenni gradd cyffrous, arloesol mewn chwaraeon.

Mae'r BSc atodol blwyddyn o hyd mewn Hyfforddiant a Pherfformiad Pêl-droed wedi'i gynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd eisoes wedi cyflawni Gradd Sylfaen neu 240 credyd mewn disgyblaeth gysylltiedig. Mae'r rhaglen hon wedi'i chynllunio i sicrhau profiad dysgu cyfredol ac academaidd trylwyr sy'n bodloni anghenion y diwydiant lleol.

Mae gan y rhaglen gysylltiadau cryf â thimau proffesiynol elît megis Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe, a thimau lled-broffesiynol fel Clwb Pêl-droed Tref Llanelli lle caiff myfyrwyr y cyfle i ennill profiad o’r diwydiant ar y lefel uchaf.

Hefyd mae’r radd yn elwa o gysylltiadau cymunedol a ddatblygwyd yn yr adran dros nifer o flynyddoedd, gan leoli myfyrwyr mewn ysgolion lleol a gyda swyddogion datblygu pêl-droed NGB sy’n rhoi cipolwg ar lwybrau cyflogaeth posibl.  

Mae’r cwrs yn un unigryw wedi’i leoli ym Mhrifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), Caerfyrddin a chaiff ei gyflwyno gan Goleg Sir Gâr felly byddwch yn fyfyrwyr ym Mhrifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant a Choleg Sir Gâr hefyd.

Nodweddion y Rhaglen

Mae'r meysydd astudio yn cynnwys hyfforddi pêl-droed, dadansoddi pêl-droed a chryfder a chyflyru. Hefyd byddwch yn datblygu sgiliau rhyngbersonol trosglwyddadwy fel sgiliau ymchwil uwch, datrys problemau, dysgu annibynnol a sgiliau meddwl yn feirniadol wrth baratoi at yrfa mewn pêl-droed a chwaraeon. Mae gan y rhaglen elfen dysgu’n seiliedig ar waith hefyd fel y gall myfyrwyr ennill profiad hanfodol yn eu maes diddordeb.

Mae'r maes pwnc yn elwa o gael cyfleusterau ardderchog sy'n cynnwys labordy chwaraeon o’r radd flaenaf, swît ddadansoddi, neuadd chwaraeon, swît cryfder a chyflyru ac arwyneb 3G bob tywydd.

Cynnwys y Rhaglen

Lefel  6

  • Arsylwi a Dadansoddi Perfformiad Pêl-droed 
  • Hyfforddi Perfformiad Uchel mewn Pêl-droed
  • Cryfder a Chyflyru 3
  • Dysgu Seiliedig ar Waith 3
  • Astudiaeth Annibynnol
Dilyniant a Chyflogaeth

Mae’r cwrs hwn yn anelu at baratoi myfyrwyr ar gyfer symud ymlaen i yrfa mewn pêl-droed, chwaraeon ac addysg gorfforol.

Gall llwybrau gyrfa posibl gynnwys Gweinyddwr Pêl-droed/Chwaraeon, Hyfforddwr Pêl-droed, Swyddog Datblygu Pêl-droed, Dadansoddwr Pêl-droed, Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru, Athro Addysg Gorfforol neu Ddarlithydd Coleg.

Gall llwybrau gyrfa amgen gynnwys y gwasanaethau brys, y lluoedd arfog a gwaith ieuenctid.

Dull asesu

Caiff modiwlau eu hasesu trwy gyfuniad o aseiniadau, astudiaethau achos, llyfrau log ac asesiadau o sgiliau ymarferol.

Gofynion Mynediad

Mae hwn yn gwrs blwyddyn sydd wedi'i gynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd wedi cyflawni Gradd Sylfaen neu 240 credyd ar lefel Addysg Uwch (120 ar Lefel 4 a 120 ar Lefel 5) mewn disgyblaeth gysylltiedig.

Costau Ychwanegol

Does dim ffi ychwanegol, fodd bynnag, mae’n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer cyfarpar personol/cit chwaraeon ac ar gyfer teithiau’n gysylltiedig â’r cwrs.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.