Skip to main content

Diploma Estynedig Cenedlaethol Lefel 3 mewn Hyfforddi a Datblygu Chwaraeon

Cipolwg

  • Llawn Amser

  • 2 Flynedd

  • Campws y Graig 

Mae'r sector chwaraeon yn ddiwydiant sy'n tyfu'n gyflym.  Ar hyn o bryd mae'n werth £39 biliwn i'r economi ac mae'n parhau i dyfu bob blwyddyn.  Hyfforddi a datblygu chwaraeon yw un o feysydd pwysicaf y diwydiant hwn ar hyn o bryd, gan sicrhau bod iechyd a datblygu sgiliau yn digwydd o lawr gwlad i lefelau perfformiad elît.

Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer dysgwyr sy'n dymuno gweithio ym maes hyfforddi chwaraeon, datblygu neu'r sector addysg chwaraeon.  Fel myfyriwr ar y cwrs cewch fynediad i gyfleusterau a chyfarpar o safon y diwydiant megis ein cae chwarae 4G, neuadd chwaraeon, campfa ffitrwydd, swît ddadansoddi a hwb perfformiad.  Cewch brofiad uniongyrchol o’n cyfarpar ‘Safon Aur’, sy’n cynnwys ‘Wattbikes’ Brigbŵer, Dadansoddwr Màs y Corff, synwyryddion Smartspeed a dadansoddwr anadl-wrth-anadl VO2max.  Hefyd cewch y cyfle i ymgysylltu â’n Hacademïau Chwaraeon sy’n anelu at ddatblygu athletwyr a chwaraewyr mewn ystod o chwaraeon.

Bydd myfyrwyr yn astudio dau gymhwyster dros gyfnod eu cwrs dwy flynedd, gan gwblhau cymhwyster Sylfaen Cenedlaethol lefel tri mewn Hyfforddi a Datblygu Chwaraeon ym mlwyddyn un a symud ymlaen i Ddiploma Estynedig Cenedlaethol lefel tri mewn Hyfforddi a Datblygu Chwaraeon ym mlwyddyn dau.

Nodweddion y Rhaglen

Mae'r gyfres hon o gymwysterau yn cynnwys achrediad gan y diwydiant, sy'n caniatáu i ddysgwyr symud ymlaen yn uniongyrchol i gyflogaeth yn y sector chwaraeon.

Bydd dysgwyr yn ennill gwybodaeth mewn meysydd fel technegau hyfforddi uwch, maetheg chwaraeon, dadansoddi chwaraeon, asesu ffitrwydd, tylino chwaraeon ac anatomeg a ffisioleg.

Ochr yn ochr â’ch cymhwyster craidd byddwch hefyd yn datblygu sgiliau hanfodol megis sgiliau rhifedd, llythrennedd a llythrennedd digidol trwy ein Twlcit Sgiliau Hanfodol Cymru ar-lein (WEST).

Cynnwys y Rhaglen

Mae'r cwrs 12 uned yn cyfuno theori â dulliau dysgu ymarferol.  Mae 1080 GLH yn gyfwerth o ran maint â thri phwnc Safon Uwch.

Blwyddyn 1:

  • Uned A: Gyrfaoedd yn y Diwydiant Chwaraeon a Hamdden Egnïol
  • Uned B: Iechyd, Lles a Chwaraeon
  • Uned C1: Datblygu Sgiliau Hyfforddi
  • Uned 1: Datblygu Chwaraeon
  • Uned 2: Hunangyflogaeth mewn Chwaraeon a Gweithgareddau Corfforol
  • Uned 5: Anatomeg a Ffisioleg mewn Chwaraeon

Blwyddyn 2:

  • Uned D1: Sgiliau Hyfforddi Cymhwysol
  • Uned E: Prosiect Ymchwil mewn Chwaraeon    
  • Uned 4: Maeth ar gyfer Perfformiad Corfforol
  • Uned 7: Tylino Chwaraeon Gweithredol
  • Uned 8: Profi Ffitrwydd
  • Uned 12: Cymhwyso Chwaraeon Ymarferol
Dilyniant a Chyflogaeth

Gall cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus arwain at gyfleoedd yn y sector chwaraeon, hamdden ac iechyd gan gynnwys cyflogaeth mewn canolfannau hamdden, campfeydd ffitrwydd, swyddogion hwb chwaraeon ysgolion, adrannau hyfforddi cymunedol lleol a chyrff llywodraethu.

Bydd y cwrs hwn hefyd yn galluogi myfyrwyr i symud ymlaen i gyrsiau addysg uwch yn y brifysgol mewn meysydd fel; Hyfforddi a Pherfformiad Chwaraeon, Therapi Chwaraeon, Maetheg Chwaraeon, Cryfder a Chyflyru, Addysg Gorfforol a/neu Seicoleg Chwaraeon i enwi ond ychydig.

Dull asesu

Caiff yr holl waith ei asesu’n fewnol trwy aseiniadau ysgrifenedig, asesiadau ymarferol, cyflwyniadau, llyfrau log, defnyddio tystiolaeth fideo, profion llyfr agored, taflenni/pamffledi, ac ati.  Caiff pob uned ei graddio fel Pas, Teilyngdod neu Ragoriaeth, gyda gradd driphlyg gyffredinol e.e. PPP i Rh*Rh*Rh* yn cael ei dyfarnu ar ôl cwblhau.

Mae'r cymhwyster hwn ar gael i'w asesu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.

Gofynion Mynediad

O leiaf pump TGAU graddau A*-C/9-4, gan gynnwys naill ai Saesneg iaith neu Gymraeg (iaith gyntaf) a mathemateg. Mae cael TGAU addysg gorfforol yn fanteisiol, ond nid yn hanfodol. 

Mae dilyniannau o lefel dau chwaraeon gyda phroffil TT yn dderbyniol. Mae meddu ar ddiddordeb brwd a chyfranogiad gweithredol mewn chwaraeon hefyd yn fanteisiol. Asesir pob dysgwr ar sail unigol trwy gyfweliad.

Costau Ychwanegol

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a phrynu cit chwaraeon y coleg i'w ddefnyddio mewn gweithgareddau ymarferol a theithiau coleg.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.