Skip to main content

Tystysgrif Estynedig Lefel 2 mewn Chwaraeon

Cipolwg

  • Llawn Amser

  • 1 Flwyddyn

  • Campws Y Graig

Cynlluniwyd y cwrs hwn i’ch ysbrydoli ac i ennyn brwdfrydedd ynoch i ystyried gyrfa yn y sector chwaraeon.

Trwy gydol y flwyddyn cewch y cyfle i ennill gwybodaeth a dealltwriaeth ehangach am y diwydiant chwaraeon, a fydd yn tanategu ac yn gwella eich sgiliau fel mabolgampwr uchelgeisiol. Ei nod yw eich paratoi ar gyfer cyfleoedd astudio pellach ac mae’n darparu cam ar y ffordd i L3 Chwaraeon, neu L3 Gwasanaethau Cyhoeddus.

Nod y cwrs yw cysylltu addysg â byd gwaith mewn ffyrdd sy’n ennyn diddordeb, sy’n berthnasol ac yn ymarferol, ochr yn ochr â datblygu sgiliau hanfodol megis llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol.  Cewch fynediad i gyfleusterau a chyfarpar o safon y diwydiant megis ein cae chwarae 4G, ein neuadd chwaraeon a’n swît ffitrwydd. Hefyd fe’ch anogir i ymgysylltu â’n Hacademïau Chwaraeon sy’n anelu at ddatblygu athletwyr a chwaraewyr mewn ystod o chwaraeon.

Nodweddion y Rhaglen

Mae meysydd astudio yn cynnwys cymryd rhan mewn chwaraeon, anatomeg a ffisioleg ymarfer, hyfforddi chwaraeon a datblygu ffitrwydd personol. Hefyd byddwch yn datblygu sgiliau rhyngbersonol trosglwyddadwy fel gweithio gydag eraill, datrys problemau, astudio annibynnol a sgiliau dysgu/meddwl. Bydd myfyrwyr hefyd yn datblygu sgiliau mewn trefnu, cynllunio dilyniant personol ac ymchwil ar lefel briodol.

Cewch eich gwahodd i redeg ac arwain digwyddiadau i’ch cymheiriaid a fydd yn datblygu sgiliau cynllunio, hyder a sgiliau cyfathrebu.

Cynnwys y Rhaglen

Mae’r cwrs yn cynnwys 7 uned a all gynnwys:

  • Cymryd Rhan mewn Chwaraeon
  • Anatomeg a Ffisioleg ar gyfer Ymarfer.     
  • Cyflwyniad i Ymarfer Iach a Maetheg
  • Hyfforddi Chwaraeon
  • Datblygu Ffitrwydd Personol Trwy Hyfforddiant
  • Cynllunio a rhedeg Digwyddiad Chwaraeon
  • Cynllunio, Cyflwyno a Gwerthuso Sesiwn Weithgaredd

Hefyd mae’r cwrs yn cynnwys sesiynau datblygu sgiliau a rhaglen diwtorial.

Dilyniant a Chyflogaeth

Cynlluniwyd y cwrs hwn i’ch ysbrydoli ac i ennyn brwdfrydedd ynoch i ystyried gyrfa yn y sector chwaraeon.

Trwy gydol y flwyddyn cewch y cyfle i ennill gwybodaeth a dealltwriaeth ehangach am y diwydiant chwaraeon, a fydd yn tanategu ac yn gwella eich sgiliau fel mabolgampwr uchelgeisiol. Ei nod yw eich paratoi ar gyfer cyfleoedd astudio pellach ac mae’n darparu cam ar y ffordd i L3 Chwaraeon, neu L3 Gwasanaethau Cyhoeddus.

Nod y cwrs yw cysylltu addysg â byd gwaith mewn ffyrdd sy’n ennyn diddordeb, sy’n berthnasol ac yn ymarferol, ochr yn ochr â datblygu sgiliau hanfodol megis llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol.  Cewch fynediad i gyfleusterau a chyfarpar o safon y diwydiant megis ein cae chwarae 4G, ein neuadd chwaraeon a’n swît ffitrwydd. Hefyd fe’ch anogir i ymgysylltu â’n Hacademïau Chwaraeon sy’n anelu at ddatblygu athletwyr a chwaraewyr mewn ystod o chwaraeon.

Dull asesu

Mae asesiad yn 100% aseiniadau ysgrifenedig wedi’u hasesu’n fewnol trwy asesiadau ymarferol, cyflwyniadau, llyfrau log, defnyddio tystiolaeth fideo, profion llyfr agored, taflenni/pamffledi, ac ati.  Caiff pob uned ei graddio fel Pas, Teilyngdod neu Ragoriaeth, gyda gradd  gyffredinol e.e. P, T neu Rh yn cael ei dyfarnu ar ôl cwblhau. Ceir 3 uned graidd a 4 uned opsiynol. Rhaid i fyfyrwyr fodloni meini prawf asesu penodol er mwyn cyflawni pob marc.

Gofynion Mynediad

Bydd angen o leiaf tri TGAU graddau A*-C arnoch, sy’n cynnwys naill ai Saesneg iaith, Cymraeg (iaith gyntaf) neu fathemateg. Derbynnir dilyniannau o lefel un chwaraeon yn ogystal.

Asesir yr holl fyfyrwyr ar sail unigol a chynigir cyfle iddynt i ddod am gyfweliad.

Mae Saesneg a Mathemateg yn rhan annatod o'r cwrs Bydd myfyrwyr nad ydynt wedi cael y graddau C neu uwch angenrheidiol hyd yn hyn yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio ar gyfer naill ai TGAU, Cymwysterau Agored neu Sgiliau Hanfodol yn dibynnu ar raddau TGAU blaenorol.

Costau Ychwanegol

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.

Oherwydd y gofynion ffitrwydd ar y cwrs, bydd yn ofynnol i ddysgwyr gael cit chwaraeon.  Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.