Skip to main content

Tystysgrif Lefel 2 Active IQ mewn Hyfforddi Campfa

Cipolwg

  • Rhan-amser

  •  4 awr yr wythnos am 16 wythnos

  • Campws y Graig 

Ydych chi am helpu pobl i gyflawni eu cyrchnodau ffitrwydd a helpu i'w cymell i ffordd iach o fyw?

Mae angen hwb i’w hyder ar rai pobl i fynd i’r gampfa ac yna efallai y byddant angen gwybod sut i wneud ymarfer corff yn iawn ac yn effeithiol, a dyna eich gwaith chi.

Bydd Tystysgrif Lefel 2 IQ Active mewn Hyfforddi Campfa yn datblygu gwybodaeth a sgiliau dysgwyr mewn hyfforddi yn y gampfa i'w galluogi i ddilyn gyrfa fel hyfforddwr campfa.  Bydd y cymhwyster hwn yn darparu cyfuniad o wybodaeth a sgiliau i ragnodi, cynllunio a chyflwyno rhaglenni ymarfer corff diogel ac effeithiol i ystod o gleientiaid.

Mae hwn yn gymhwyster a gydnabyddir gan y diwydiant a bydd ei gyflawni’n llwyddiannus yn rhoi mynediad i'r Sefydliad Siartredig Rheoli Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol (CIMSPA) fel aelod cyswllt (ymarfer corff a ffitrwydd).

Nodweddion y Rhaglen

Mae'r cymhwyster yn rhoi cipolwg da i ddysgwyr o'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt, nid yn unig ar gyfer gweithio yn y sector hwn, ond sgiliau cyffredinol, trosglwyddadwy y byddai pob cyflogwr yn eu croesawu.  Mae’r dewis o unedau a gynigir ar draws lefel dau yn rhoi cyfle i ddysgwyr ddangos amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.

Yn ystod y cymhwyster bydd dysgwyr yn cwmpasu'r canlynol:

  • Gwybodaeth am anatomeg a ffisioleg sy'n berthnasol i hyfforddi campfa.
  • Egwyddorion ymarfer corff, ffitrwydd ac iechyd.

Iechyd a diogelwch mewn amgylchedd ffitrwydd.

  • Gofal cwsmer.
  • Sgiliau cyfathrebu effeithiol ar gyfer ymgyngoriadau cleientiaid i gefnogi newid cadarnhaol mewn ymddygiad.
  • Y sgiliau sydd eu hangen i gynllunio a chynnal sesiynau ymarfer corff yn y gampfa gydag unigolion a grwpiau.
  • Gofynion cyfreithiol a phroffesiynol ar gyfer hyfforddi ffitrwydd.

Sut i reoli, gwerthuso a gwella eu perfformiad eu hunain.

Cynnwys y Rhaglen

Er mwyn cyflawni'r cymhwyster rhaid i ddysgwyr gwblhau'r pum uned orfodol:  

  • Egwyddorion anatomeg, ffisioleg a ffitrwydd
  • Proffesiynoldeb a gofal cwsmer ar gyfer hyfforddwyr ffitrwydd
  • Iechyd a diogelwch yn yr amgylchedd ffitrwydd
  • Cynnal ymgyngoriadau cleientiaid i gefnogi newid cadarnhaol mewn ymddygiad
  • Cynllunio a hyfforddi ymarfer corff yn y gampfa
Dilyniant a Chyflogaeth

Mae’r cymhwyster hwn yn darparu dilyniant i:

  • Diploma Lefel 3 Active IQ mewn Hyfforddiant Personol.
  • Diploma Lefel 3 Active IQ mewn Atgyfeirio Ymarfer Corff.
  • Dyfarniad Lefel 3 Active IQ mewn Cynllunio Rhaglenni Ymarfer Corff Cyn-enedigol ac Ôl-enedigol.
  • Dyfarniad Lefel 3 Active IQ mewn Cynllunio Rhaglenni Ymarfer Corff ar gyfer Oedolion Hŷn.
  • Dyfarniad Lefel 3 Active IQ mewn Cynllunio Rhaglenni Ymarfer Corff ar gyfer Cleientiaid Anabl.

Cymwysterau Lefel 2 a/neu Lefel 3 cysylltiedig eraill, er enghraifft:

  • Dyfarniad Lefel 2 Active IQ mewn Hyfforddi Ymarferion Cylchol.
  • Dyfarniad Lefel 2 Active IQ mewn Hyfforddi Pwysau Tegell (Kettlebells).
  • Dyfarniad Lefel 2 Active IQ mewn Hyfforddi Hyfforddiant Symudiadau Crog.
  • Tystysgrif Lefel 2 Active IQ mewn Hyfforddi Ffitrwydd (Ymarfer Corff Grŵp)
  • Tystysgrif Lefel 2 Active IQ mewn Hybu Iechyd a Lles Cymunedol.
  • Dyfarniad Lefel 3 Active IQ mewn Maeth ar gyfer Ymarfer Corff ac Iechyd.
Dull asesu

Cewch eich asesu drwy:

  • Waith Cwrs/Prosiect.
  • Arholiad Amlddewis.
  • Portffolio o Dystiolaeth.
  • Arddangosiad/Aseiniad Ymarferol.
Gofynion Mynediad
  • Rhaid i ddysgwyr fod yn 16 oed o leiaf. 
  • Argymhellir peth profiad o ymarferion corff yn y gampfa, gan gynnwys pwysau rhydd. 
  • Mae'r cwrs yn gofyn am ymdrech gorfforol, ac mae cyfranogiad unigol yn hanfodol; felly, mae angen rhywfaint o ffitrwydd corfforol. 
  • Mae’n cynnwys elfen o gyfathrebu (trafod, cyflwyno, darllen ac ysgrifennu) a dylai dysgwyr feddu ar sgiliau sylfaenol mewn cyfathrebu ar lefel 2.
Costau Ychwanegol

Grwp O. Cysylltwch am fwy o fanylion.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.