Skip to main content

Cipolwg

  • Llawn Amser

  • 1 Flwyddyn

  • Campws Pibwrlwyd

Mae’r cwrs celf a dylunio lefel un hwn gan Gorff Dyfarnu Prifysgol y Celfyddydau Llundain (UAL) yn gwrs rhagarweiniol lle mae gweithdai yn eich helpu i adeiladu eich hyder a’ch dealltwriaeth o gelf a dylunio. 

Byddwch yn arbrofi gydag ystod o ddeunyddiau a ffyrdd o weithio i fynegi a datblygu eich syniadau. Mae gweithio mewn grwpiau yn rhoi cyfle i chi feithrin cyfeillgarwch ac ymgysylltu ag eraill er mwyn archwilio ystod o gyfryngau celf a dylunio newydd a chyffrous. Nod y cwrs yw eich galluogi i gynhyrchu corff o waith creadigol wrth ddatblygu eich sgiliau creadigol a phersonol ar hyd y ffordd.

Mae mwyafrif y myfyrwyr yn defnyddio’r cwrs hwn fel cam ar y ffordd i ddiploma lefel dau mewn celf a dylunio, er gall eraill ddewis llwybrau astudio amgen neu waith llawn amser. 

Nodweddion y Rhaglen

Elfen ganolog o’r cwrs yw datrys problemau wrth weithio trwy dasgau cyffrous, cymryd risgiau, arbrofi a datblygu syniadau newydd. 

Bydd prosiectau ysgogol ac ymestynnol yn eich herio i feddwl ynghylch sut a pham rydych chi’n gwneud gwaith celf. 

Bydd trafodaethau stiwdio a llyfrgell gyda’ch tiwtoriaid a’ch cymheiriaid yn rhoi cyfle i chi edrych ar waith artistiaid a dylunwyr eraill, a fydd yn ei dro yn rhoi’r hyder i chi siarad am eich gwaith eich hun.

Cynnwys y Rhaglen

Mae’r cwrs hwn yn cynnwys wyth uned sy’n cwmpasu amrywiaeth o bynciau celf, dylunio a chyfryngau, gan gynnwys gwaith 2D, 3D a gwaith seiliedig ar amser, ymchwil, ymwybyddiaeth gyd-destunol, sgiliau datblygiad creadigol a sgiliau dilyniant.

Mae’r cwrs hwn hefyd yn cynnwys Sgiliau Hanfodol ynghyd ag uned iaith Gymraeg a sgiliau cyflogadwyedd.

Dilyniant a Chyflogaeth

Cwrs rhagarweiniol yw hwn, lle mae gweithdai yn eich helpu i adeiladu eich hyder a’ch dealltwriaeth o gelf a dylunio. 

Byddwch yn arbrofi gydag ystod o ddeunyddiau a ffyrdd o weithio i fynegi a datblygu eich syniadau. 

Mae gweithio mewn grwpiau yn rhoi cyfle i chi feithrin cyfeillgarwch ac ymgysylltu ag eraill er mwyn archwilio ystod o gyfryngau celf a dylunio newydd a chyffrous. Nod y cwrs yw eich galluogi i gynhyrchu corff o waith creadigol wrth ddatblygu eich sgiliau creadigol a phersonol ar hyd y ffordd.

Mae mwyafrif y myfyrwyr yn defnyddio’r cwrs hwn fel cam ar y ffordd i Ddiploma lefel dau mewn Celf a Dylunio, er gall eraill ddewis llwybrau astudio amgen neu waith llawn amser. 

Dull asesu

Caiff pob uned ei hasesu'n fewnol a'i dilysu'n fewnol ac eithrio'r prosiect mawr terfynol, sy'n cael ei gymedroli’n allanol gan y Corff Dyfarnu, Prifysgol y Celfyddydau Llundain (UAL).

Asesir pob uned ar waith portffolio’r myfyriwr.  Yn ychwanegol at hyn, mae’r prosiect mawr terfynol hefyd yn gorffen gydag arddangosfa sy’n cael ei hasesu.

Mae'r cymhwyster hwn ar gael i'w asesu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.

Gofynion Mynediad

Bydd angen i bob ymgeisydd ddod â phortffolio o waith celf, crefft a dylunio i’w cyfweliad.  

Bydd angen i ymgeisydd ar gyfer y cwrs lefel un hwn feddu ar naill ai: tri TGAU graddau A* - G mewn naill ai Saesneg/Cymraeg (iaith gyntaf) neu fathemateg neu gyfwerth, neu fod wedi cwblhau cwrs cyflwyniad i’r coleg Dechrau Newydd neu fod â phortffolio o waith celf, dylunio a chrefft.

Byddem yn annog dysgwyr nad oes ganddynt unrhyw gymwysterau neu brofiad blaenorol i gwblhau’r cwrs cyflwyniad i’r coleg Dechrau Newydd cyn y lefel un er mwyn datblygu sgiliau llythrennedd, cyfathrebu a chreadigol addas.  Fodd bynnag, caiff addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn ei asesu yn y cyfweliad.

Costau Ychwanegol

Mae yna ffi stiwdio o £100 ar gyfer y cwrs hwn a fydd yn darparu deunyddiau sylfaenol i chi ddatblygu gwaith ymarferol yn ein gweithdy a'n cyfleusterau stiwdio.  Fodd bynnag, mae’n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer deunyddiau arbenigol. 

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.