Mae athroniaeth y cwrs yn seiliedig ar ddysgu trwy wneud ac arbrofi gyda deunyddiau ynghyd â phwysigrwydd darganfod unigol, wedi’i lywio gan ymchwil bersonol. Cyflwynir gweithdai ymarferol, sy'n dysgu prosesau traddodiadol a chyfoes, lle mae myfyrwyr yn archwilio eu syniadau a’u potensial dylunio, trwy broses cerameg fynegiannol, dylunio a gwneud.
Mae myfyrwyr yn cael darlithoedd gan wneuthurwyr profiadol sydd â’u hymarfer proffesiynol eu hunain. Mae’r cyswllt â’r tiwtor heb ei ail. Mae’r tîm hwn o staff sy’n llawn cymhelliant yn canolbwyntio ar nodi doniau’r myfyrwyr, tra'n hogi sgiliau ymarferol a beirniadol hefyd er mwyn hwyluso llais creadigol unigol y myfyriwr. Yn Ysgol Gelf Caerfyrddin, credwn fod yr elfennau cyfunol hyn wrth wraidd dylunio a gwireddu da. Mae’r nodweddion hyn yn sylfaenol wrth wneud crefft gyfoes.
Erbyn y drydedd flwyddyn mae myfyrwyr yn gallu arbenigo mewn maes cerameg penodol neu ddatblygu gwaith ar draws ystod o sgiliau cerameg. Bydd yn arwain at y myfyrwyr yn gallu canolbwyntio ar farchnad cerameg benodol. Mae potensial cyffrous ar gyfer cynhyrchu arteffactau cerameg arloesol neu nwyddau cartref; o fewn cyd-destunau dylunio neu grefft.
Cipolwg
Llawn neu Rhan Amser
3 blynedd yn llawn amser; gellir astudio yn rhan-amser.
Campws Ffynnon Job
Nodweddion y Rhaglen
Trwy ddewis astudio gyda ni, nid rhif yn unig ydych chi. Rydym yn ysgol gelf fechan, gyfeillgar, bwrpasol sy’n cynnig ystod eang o gyfleusterau cyfoes, arloesol a thraddodiadol. Mae gan y staff y byddwch chi’n gweithio'n agos â nhw i gyd arbenigedd proffesiynol o fewn eu hymarfer eu hunain. Bob blwyddyn byddwch yn cael eich man gwaith unigol eich hun a mynediad i weithdai cerameg pwrpasol. Mae’r rhain yn cynnwys stiwdios wedi’u neilltuo ar gyfer taflu, llunio â llaw, castio slip, siop gwaith plastr a labordy gwydro. Mae gan yr adran amrywiaeth eang o odynau gan gynnwys rhai nwy, trydan, raku a man tanio mewn pydew, yn ogystal ag argraffydd decal ceramig o'r radd flaenaf a chyfleusterau torri â laser.
Mae’r cwrs astudio yn cefnogi datblygiad eich ymarfer stiwdio gyda phwyslais ar gelfyddydau cymhwysol, crefft a datblygu sgiliau. Ochr yn ochr â gweithdai ymarferol a datblygu sgiliau, mae darlithoedd a deialog gyd-destunol yn eich galluogi i leoli eich hun a’ch ymarfer o safbwynt hanes celf a meddwl beirniadol cyfoes. Felly bydd gennych yr offer i ymchwilio i’ch creadigrwydd a'ch diddordebau eich hun a’u mapio, gan sicrhau bod eich syniadau'n cael eu llywio gan ymchwil a methodoleg hefyd. Anogir deialog rhwng adrannau, gan gynnig cyfleoedd i weithio ar y cyd. Datblygir rhyngweithio cyffrous rhwng gwahanol ddisgyblaethau, gan eich galluogi i archwilio deunyddiau a phrosesau cwbl wahanol.
Mae myfyrwyr yn cymryd rhan mewn arddangosfeydd cyhoeddus, digwyddiadau a chystadlaethau arbenigol sy’n eu paratoi'n broffesiynol ar gyfer y dyfodol. Mae’r sgiliau hyn i gyd yn drosglwyddadwy ar draws ystod o gyd-destunau proffesiynol sy’n dysgu meddwl yn feirniadol a chreadigol. Yn draddodiadol cysylltir y sgiliau hyn ag ymarfer celfyddydol, ond mae galw cynyddol amdanynt ym myd masnach a busnes.
Cynnwys y Rhaglen
Blwyddyn 1 - Blwyddyn yn seiliedig ar sgiliau a gyflwynir drwy gyfres o weithdai dan arweiniad tiwtor ac astudiaeth annibynnol.
Blwyddyn 2 - Blwyddyn ddatblygiadol a ddyfeisiwyd i ganiatáu i chi gymhwyso'r sgiliau a enillwyd ym mlwyddyn un i nodi cryfderau personol a meysydd diddordeb o fewn ystod o gyd-destunau sy'n berthnasol i'r diwydiant.
Blwyddyn 3 - Briff personol a gyd-drafodwyd sy'n eich galluogi i atgyfnerthu eich ymarfer ac adeiladu portffolio er mwyn paratoi ar gyfer dilyniant ac uchelgeisiau personol yn y dyfodol, gan orffen gyda chyfle i arddangos eich gwaith mewn sioe radd derfynol.
Dilyniant a Chyflogaeth
Dylunydd-Wneuthurwr 3D annibynnol, artist neu ddylunydd cerameg a gemwaith, crochenydd stiwdio, gwneuthurwr modelau ar gyfer y theatr a ffilmiau, dylunydd ategolion, artist cymhwysol, addysgwr, curadur arddangosfeydd, prynwr adwerthu, gweinyddwr celfyddydau, gweithiwr celf cymunedol, therapydd celf, ymchwilydd, astudiaeth ôl-raddedig (MA, PhD), arloeswr ac ati.
Asesu'r Rhaglen
Asesir yn barhaus trwy sesiynau gweithdy llawn, trafodaethau beirniadol, asesu ffurfiannol a chrynodol gydag adborth clywedol ac ysgrifenedig.
Gofynion y Rhaglen
Gofynion mynediad
Derbynnir pwyntiau sgôr tariff: O leiaf 96 pwynt neu allu portffolio cyfwerth ar gyfer ymgeiswyr hyn.
Gweithdrefnau dewis
Mae angen i bob ymgeisydd wneud cais ar-lein trwy UCAS, ein côd Sefydliad UCAS yw C22, côd y cwrs WW27. Bydd y cynigion yn cael eu gwneud ar sail y cais UCAS, graddau a ragwelir (os yn berthnasol), geirda UCAS a chyfweliad un i un. Mae Cyfarwyddwyr y Rhaglen yn cyfweld pob ymgeisydd ac yn trafod eich portffolio gwaith celf a'ch uchelgeisiau gyda chi. Mae hyn yn rhan hollbwysig o'n proses ddewis i sicrhau bod y cwrs yn iawn i chi a'ch bod chi yn iawn i'r cwrs. O ganlyniad i'r ffaith ein bod yn meithrin perthynas gyda chi o'r dechrau mae ein cyfraddau gadael yn isel. Rydym yn ymdrechu'n barhaus i droi myfyrwyr yn ymarferwyr proffesiynol llwyddiannus.
Rydym yn croesawu ymgeiswyr hyn â phrofiad blaenorol perthnasol ac yn eu hystyried yn unigol. Bydd myfyrwyr rhyngwladol yn cael eu cyfweld trwy fideo-gynadledda.
Nid oes unrhyw ffi Stiwdio ychwanegol. Fodd bynnag, mae'n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer deunyddiau arbenigol, argraffu ac ar gyfer teithiau’n berthnasol i’r cwrs.
Fframwaith Priodoleddau Graddedigion
Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion. Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.