Skip to main content

Disgrifiad o'r Rhaglen


Côd UCAS: C22

Côd Cwrs: W2H0

Mae gan Ysgol Gelf Caerfyrddin enw da sefydledig am hwyluso datblygiad creadigol myfyrwyr celf a dylunio.  Trwy ddewis astudio gyda ni, nid rhif yn unig ydych chi.  Rydym yn ysgol gelf fechan, gyfeillgar, bwrpasol sy’n cynnig ystod eang o gyfleusterau cyfoes, arloesol a thraddodiadol. Mae’r rhaglen ffasiwn hon sydd wedi ennill ei phlwyf wedi datblygu mewn ymateb i ymarfer cyfoes, dylunio ffasiwn, diwylliant a diwydiant. Mae’r rhaglen yn caniatáu i chi archwilio’r cylch dylunio cyfan o ragweld tueddiadau ffasiwn drwodd i’r dilledyn gorffenedig.

Nod y cwrs yw datblygu eich sgiliau creadigol a thechnegol gan ganolbwyntio ar ennill gwaith yn y diwydiant ffasiwn. Caiff myfyrwyr eu hannog i fod yn unigolion annibynnol, ymholgar sy’n gallu ymateb i brosiectau’r diwydiant a gwaith y byddant yn cychwyn eu hunain. Mae’r cwrs yn annog creadigrwydd ac arloesedd mewn amgylchedd gwaith bywiog.

Bydd gan fyfyrwyr fynediad i adnoddau diwydiant-benodol fel peiriannau diwydiannol, y technolegau uno Gerber a laser/uwchsonig diweddaraf a phecynnau meddalwedd digidol. 

Rhoddir cyfleoedd i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau ac archwilio rhagweld tueddiadau ffasiwn, dylunio, darlunio, torri patrymau, llunio, steilio a chyfryngau traddodiadol a digidol hefyd. Anogir unigolion i ddatblygu sgiliau entrepreneuraidd drwy ymwneud â phrosiectau byw yn y diwydiant a osodir gan frandiau ffasiwn.

Mae’r flwyddyn olaf yn cyrraedd ei hanterth gyda’r myfyrwyr yn arddangos eu  casgliadau rhodfa ffasiwn mewn sioe radd yn lleol ac yn Wythnos Ffasiwn y Graddedigion, Llundain. Mae ymarfer myfyrwyr yn cael ei ategu gan raglen theori integredig sy’n galluogi myfyrwyr i weithio’n hyderus ac yn broffesiynol o fewn y cyd-destun Ffasiwn. Mae Ysgol Gelf Caerfyrddin yn darparu amgylchedd cyfeillgar, cefnogol ac anogol i fyfyrwyr archwilio cyfleoedd a datblygu eu steil unigol a photensial.

Cipolwg

  Llawn neu Rhan Amser

  3 blynedd yn llawn amser, gellir astudio yn rhan-amser

  Ffynnon Job

Nodweddion y Rhaglen


Rhaglen radd ag adnoddau da sy’n cynnwys corff amrywiol o aseiniadau sy’n tynnu sylw at bwysigrwydd sgiliau technegol o fewn y diwydiant.  Tanategir y rhain gan gysylltiadau diwydiannol cryf sy’n darparu ymarfer diwydiannol hynod berthnasol i chi, gan weithio gyda brandiau fel: All Saints, River Island, Howies, Topshop, Burberry a Givenchy.

Yn ogystal, cynigiwn lefel uchel o arbenigedd tiwtoriaid mewn dylunio, torri patrymau a llunio.

Mae’r cwrs yn aelod-goleg o’r Cyngor Ffasiwn Prydeinig nodedig sy’n rhoi mynediad i’n myfyrwyr i brosiectau uchel eu parch yn y diwydiant, sgyrsiau, cystadlaethau ac interniaethau.

Mae maint dosbarthiadau yn fach sy'n caniatáu lefel uchel o gyswllt gyda thiwtoriaid a mynediad hawdd i adnoddau.

Mae blwyddyn olaf yr astudiaeth yn caniatáu i fyfyrwyr greu corff o waith annibynnol, personol ac unigryw, gyda chefnogaeth gan staff wrth greu  casgliad terfynol. Wrth baratoi myfyrwyr ar gyfer y diwydiant, mae staff yn gweithio'n agos gyda chi i greu portffolio terfynol o waith i'w arddangos i weithwyr proffesiynol y diwydiant.

Bydd y flwyddyn olaf yn rhoi cyfle i chi arddangos eich gwaith yn Wythnos Ffasiwn y Graddedigion, Llundain ochr yn ochr â graddedigion ffasiwn cenedlaethol a rhyngwladol.

Ein nod yw gwella unigoliaeth, creadigrwydd, arloesedd a dawn pob myfyriwr mewn amgylchedd cefnogol, cyfeillgar i fod yn barod ar gyfer cyflogaeth yn y diwydiant. 

Cynnwys y Rhaglen


Blwyddyn 1 - Blwyddyn yn seiliedig ar sgiliau a gyflwynir drwy gyfres o weithdai dan arweiniad tiwtor ac astudiaeth annibynnol.

Blwyddyn 2 - Blwyddyn ddatblygiadol a ddyfeisiwyd i ganiatáu i chi gymhwyso'r sgiliau a enillwyd ym mlwyddyn un i nodi cryfderau personol a meysydd diddordeb o fewn ystod o gyd-destunau sy'n berthnasol i'r diwydiant. 

Blwyddyn 3 - Briff personol a gyd-drafodwyd sy'n eich galluogi i atgyfnerthu eich ymarfer ac adeiladu portffolio er mwyn paratoi ar gyfer dilyniant ac uchelgeisiau personol yn y dyfodol, gan orffen gyda chyfle i arddangos eich gwaith mewn sioe radd derfynol.

Dilyniant a Chyflogaeth


Dylunio ffasiwn, darlunio ffasiwn, prynu ffasiwn, rhagweld gogwyddion, steilio, marsiandïaeth weledol, dylunio gwisgoedd ar gyfer ffilmiau/teledu, torri patrymau, technoleg dillad, cynorthwy-ydd samplo, athro/darlithydd ac astudiaeth ôl-raddedig (MA, PhD).

Asesu'r Rhaglen


Asesir yn barhaus trwy sesiynau gweithdy llawn, trafodaethau beirniadol, asesu ffurfiannol a chrynodol gydag adborth clywedol ac ysgrifenedig.

Gofynion y Rhaglen


Gofynion mynediad

Derbynnir pwyntiau sgôr tariff: O leiaf 96 pwynt neu allu portffolio cyfwerth ar gyfer ymgeiswyr hyn.

Gweithdrefnau dewis

Mae angen i bob ymgeisydd wneud cais ar-lein trwy UCAS. Ein côd Sefydliad UCAS yw C22 a chôd y cwrs yw W2H0. Bydd y cynigion yn cael eu gwneud ar sail y cais UCAS, graddau a ragwelir (os yn berthnasol), geirda UCAS a chyfweliad un i un. Mae Cyfarwyddwyr y Rhaglen yn cyfweld pob ymgeisydd ac yn trafod eich portffolio gwaith celf a'ch uchelgeisiau gyda chi. Mae hyn yn rhan hollbwysig o'n proses ddewis i sicrhau bod y cwrs yn iawn i chi a'ch bod chi yn iawn i'r cwrs. O ganlyniad i'r ffaith ein bod yn meithrin perthynas gyda chi o'r dechrau mae ein cyfraddau gadael yn isel. Rydym yn ymdrechu'n barhaus i droi myfyrwyr yn ymarferwyr proffesiynol llwyddiannus.

Rydym yn croesawu ymgeiswyr hyn â phrofiad blaenorol perthnasol ac yn eu hystyried yn unigol. Bydd myfyrwyr rhyngwladol yn cael eu cyfweld trwy fideo-gynadledda.

Cyfryngau Cymdeithasol

https://www.facebook.com/Carmarthenschoolofartfashion/

https://www.facebook.com/CarmarthenSchoolOfArt

https://www.instagram.com/fashion_csoa/

https://www.instagram.com/carmarthenschoolofart/

Costau Ychwanegol


Nid oes unrhyw ffi Stiwdio ychwanegol.  Fodd bynnag, mae'n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer deunyddiau arbenigol, argraffu ac ar gyfer teithiau’n berthnasol i’r cwrs.

Fframwaith Priodoleddau Graddedigion


Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion. Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau.

Dysgwch ragor am y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.