Ychwanegiad diweddar i'n portffolio o raglenni lefel prifysgol yw'r Dystysgrif Addysg Uwch.
Mae hwn yn gymhwyster annibynnol Lefel 4 sy’n flwyddyn gyntaf ein Rhaglenni Gradd. Gellir astudio’r cwrs yn llawn amser dros un flwyddyn academaidd, neu’n rhan-amser dros ddwy flynedd a bydd yn galluogi’r myfyrwyr hynny na allant ymrwymo i astudio ar gyfer gradd BA Anrhydedd lawn i gael dealltwriaeth o’r sgiliau sylfaenol sy'n ofynnol mewn dylunio 3D digidol ac animeiddio a’u dysgu.
Wedi'i ddatblygu o dechnolegau newydd diwydiant creadigol sy'n esblygu, cewch eich annog i archwilio syniadau arloesol tra’n ennill sgiliau cyfunol mewn celf, dylunio a thechnoleg. Cipio, creu a chanlyniadau modelau ac amgylcheddau 3D digidol, gan ganolbwyntio’n benodol ar lwyfannau Rhith-wirionedd a phwyslais ar sgiliau. Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar amrywiaeth o brosiectau ymarferol sy'n cynnwys modelu 3D, animeiddio, rhith-wirionedd a realiti estynedig, gan greu canlyniadau ar gyfer amrywiaeth o lwyfannau cyfoes.
Cipolwg
Llawn Amser / Rhan-Amser
Blwyddyn yn llawn amser, 2 flynedd yn rhan-amser
Campws Ffynnon Job
Nodweddion y Rhaglen
Gallwch ddisgwyl rhaglen amrywiol o aseiniadau sy’n tynnu sylw at bwysigrwydd sgiliau technegol o fewn y diwydiant. Mae gan fyfyrwyr fynediad i gyfleusterau rhagorol gydag ystafelloedd cyfrifiadurol o safon uchel gyda'r fersiynau diweddaraf o feddalwedd safon y diwydiant ac adnoddau blaengar gan gynnwys cyfarpar VR, sganiwr laser 3D llaw, cyfarpar ffotogrametreg a chamerâu 360 proffesiynol. A chyda dosbarthiadau bach, mae gan fyfyrwyr ddigon o fynediad i'r cyfleusterau hyn.
Mae’r rhaglen yn sicrhau bod myfyrwyr yn dangos dealltwriaeth sylfaenol dda o gymwysiadau Dylunio 3D a Rhith-wirionedd sy’n berthnasol i’r diwydiant.
Mae’r cymwysiadau sgiliau yn niferus, o greu asedau ar gyfer y diwydiant gemau fideo a VFX i ail-adeiladu digidol ar gyfer y sector treftadaeth.
Cynnwys y Rhaglen
Mae’r Dystysgrif Addysg Uwch yn flwyddyn seiliedig ar sgiliau a gyflwynir trwy gyfres o weithdai. Mae'r flwyddyn yn cynnwys saith modiwl gan gynnwys Datblygu Iaith Weledol, Delweddu 2D a 3D, Prosesau Digidol, Arfer Digidol Creadigol (a ddefnyddir yn y diwydiant 3D), Cyflwyniad i Animeiddio 3D, Dysgu yn yr Oes Ddigidol a Phrosiect Creadigol.
Dilyniant a Chyflogaeth
Ar ôl cwblhau’r Dystysgrif Addysg Uwch yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i lefel 5 y radd lawn os ydych yn dewis gwneud hynny.
Ar ôl cwblhau’r Radd BA (Anrh) lawn:- mae’r sector 3D yn ffynnu ar hyn o bryd, wedi'i danio gan ddatblygiadau mewn technoleg a'r llwyfannau sy'n tyfu’n wastadol lle gellir rhoi cyd-destun i’r sgiliau hyn. Mae’r rhain yn cynnwys y diwydiant chwarae gemau cyfrifiadurol; Ffilm/Teledu; delweddu pensaernïol; treftadaeth; argraffu 3D; hysbysebu; peirianneg; darlunio a llawer mwy.
Asesu'r Rhaglen
Asesir yn barhaus trwy sesiynau crynhoi gweithdai, trafodaethau beirniadol, asesiad ffurfiannol a chrynodol gydag adborth clywedol ac ysgrifenedig.
Gofynion y Rhaglen
Pwyntiau sgôr tariff a dderbynnir: O leiaf 96 pwynt neu allu portffolio cyfatebol ar gyfer ymgeiswyr hŷn.
Mae angen i bob ymgeisydd llawn amser wneud cais ar-lein drwy UCAS.
Dylai myfyrwyr rhan-amser wneud cais drwy system ymgeisio’r coleg https://www.colegsirgar.ac.uk/index.php/en/application-form
Mae Cyfarwyddwyr Rhaglenni yn cyfweld pob ymgeisydd ac yn trafod eich portffolio o waith celf a’ch uchelgeisiau gyda chi. Mae hon yn rhan hanfodol o'n proses ddethol i sicrhau bod y cwrs yn iawn i chi a'ch bod chi'n iawn ar gyfer y cwrs.
Nid oes ffi Stiwdio ychwanegol. Fodd bynnag, mae’n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer deunyddiau arbenigol, printio ac ar gyfer teithiau’n berthnasol i’r cwrs.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.