Skip to main content

Disgrifiad o'r Rhaglen


Côd UCAS: C22

Côd y Cwrs: CAMU

Ychwanegiad diweddar i'n portffolio o raglenni lefel prifysgol yw'r Dystysgrif Addysg Uwch.

Mae hwn yn gymhwyster annibynnol Lefel 4 sydd yn y bôn yn flwyddyn gyntaf ein Rhaglenni Gradd.  Bydd y cwrs yn galluogi’r myfyrwyr hynny na allant ymrwymo i astudio ar gyfer gradd BA Anrhydedd lawn i gael dealltwriaeth o’r sgiliau sylfaenol sy'n ofynnol  yn eu pwnc dewisol a dysgu amdanynt.  

Mae'r cwrs Celf a Dylunio Amlddisgyblaethol yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu eu cwrs pwrpasol eu hunain, gan ddewis cyfuniad o fodiwlau a ddewiswyd o ddwy o'n graddau arbenigol sy'n targedu eu doniau a'u diddordebau penodol eu hunain. Er enghraifft, cerflunio a darlunio digidol; ffasiwn a thecstilau; cerameg a gemwaith a ffotograffiaeth.

Cipolwg

  Llawn Amser / Rhan-Amser

  Blwyddyn yn llawn amser, 2 flynedd yn rhan-amser

  Campws Ffynnon Job

Nodweddion y Rhaglen


Mae Ysgol Gelf Caerfyrddin yn adnabyddus am ei hawyrgylch ‘deuluol’, a’i pholisi drws agored lle anogir myfyrwyr i drafod modiwlau arfaethedig gyda thiwtoriaid profiadol cyn ffurfioli eu rhaglen astudio. Mae maint y dosbarthiadau’n fach ac mae’r cyswllt â’r tiwtor heb ei ail. Cyfeiriwch at y Disgrifiad o’r Rhaglen a’r Nodweddion sy'n benodol i'ch dwy adran ddewisol Tystysgrif Addysg Uwch arbenigol i gael rhagor o wybodaeth.

Mae darlithoedd a deialog gyd-destunol yn eich galluogi i leoli eich hun a'ch ymarfer o ran hanes celf a meddwl beirniadol cyfoes, fel y bydd gennych yr offer i fapio ac ymchwilio i'ch diddordebau eich hun.

Cynnwys y Rhaglen


Blwyddyn yn seiliedig ar sgiliau a gyflwynir trwy gyfres o weithdai. Mae'r flwyddyn yn cynnwys chwe modiwl i gyd, mae tri yn orfodol ac yna mae myfyrwyr yn dewis tri ar draws y ddwy ddisgyblaeth o'u dewis.  Mae modiwlau gorfodol yn cwmpasu Datblygu Iaith Weledol, Dysgu yn yr Oes Ddigidol a Phrosiect Creadigol. Ar gyfer y tri modiwl opsiynol cyfeiriwch at fanylion cynnwys rhaglen y ddwy radd arbenigol sydd o ddiddordeb i chi.

Dilyniant a Chyflogaeth


Ar ôl i chi gwblhau’r Dystysgrif Addysg Uwch yn llwyddiannus, fe allech chi symud ymlaen i lefel 5 y radd lawn os byddwch yn dewis gwneud hynny. 

Ar ôl cwblhau'r Radd BA (Anrh) lawn (blwyddyn 2 a 3), mae hyn wedi’i ddylanwadu gan feysydd arbenigol y ddwy raglen radd ddewisol. Artist neu ddylunydd llawrydd gyda'r potensial ar gyfer ymarfer cyfryngau cymysg, entrepreneur, addysgwr, rheoli dylunio, artist cymunedol, rheoli digwyddiadau, therapydd celf, gweinyddiaeth gelf, curadur arddangosfeydd, astudiaeth ôl-raddedig (MA, PhD), ac ati.

Asesu'r Rhaglen


Asesir yn barhaus trwy sesiynau crynhoi gweithdai, trafodaethau beirniadol, asesiad ffurfiannol a chrynodol gydag adborth clywedol ac ysgrifenedig.

Gofynion y Rhaglen


Pwyntiau sgôr tariff a dderbynnir: O leiaf 96 pwynt neu allu portffolio cyfatebol ar gyfer ymgeiswyr hŷn.

Mae angen i bob ymgeisydd llawn amser wneud cais ar-lein drwy UCAS.

Dylai myfyrwyr rhan-amser wneud cais drwy system ymgeisio’r coleg.

Mae Cyfarwyddwyr Rhaglenni yn cyfweld pob ymgeisydd ac yn trafod eich portffolio o waith celf a’ch uchelgeisiau gyda chi. Mae hyn yn rhan hanfodol o'n proses ddethol i sicrhau bod y cwrs yn iawn i chi a'ch bod chi'n iawn ar gyfer y cwrs. 

Cyfryngau Cymdeithasol

https://www.facebook.com/CSOAMultidisc

https://www.facebook.com/CarmarthenSchoolOfArt

https://www.instagram.com/multidis_csoa

https://www.instagram.com/carmarthenschoolofart

Costau Ychwanegol


Nid oes ffi Stiwdio ychwanegol. Fodd bynnag, mae’n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer deunyddiau arbenigol, printio ac ar gyfer teithiau’n berthnasol i’r cwrs. 

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.