Skip to main content

Cipolwg

  • Llawn Amser / Rhan-amser

  • 1 flwyddyn yn llawn amser, 2 flynedd yn rhan-amser

  • Campws Ffynnon Job 

Cod UCAS: C22

Cod y Cwrs: CACJ

Mae dylunio gemwaith yn broses greadigol gyffrous sy’n rhoi boddhad ac sy’n eich galluogi i gyfuno estheteg, crefftwaith, a mynegiant personol i greu darnau o waith celf unigryw y gellir eu gwisgo.

Mae hwn yn gymhwyster annibynnol lefel pedwar sydd yn y bôn yn flwyddyn gyntaf ein Rhaglenni Gradd.  Bydd y cwrs yn galluogi’r myfyrwyr hynny na allant ymrwymo i astudio ar gyfer gradd BA Anrhydedd lawn i gael dealltwriaeth o’r sgiliau sylfaenol sy'n ofynnol yn eu pwnc dewisol a dysgu amdanynt. 

Yn ystod y flwyddyn astudio gyntaf, caiff myfyrwyr y cyfle i archwilio sgiliau ymarferol sy’n amrywio o ffurfio metel, ffabrigo, torri â laser, enamlo a chastio.  Ochr yn ochr â hyn, bydd myfyrwyr yn ymgymryd â gweithdai lluniadu a ystyrir yn hanfodol i ddatblygiad sgiliau dylunio ac arsylwi.  Byddant hefyd yn datblygu gwybodaeth ddamcaniaethol fanwl a gwybodus am y maes gemwaith.     

Nodweddion y Rhaglen

Mae Ysgol Gelf Caerfyrddin yn adnabyddus am ei hawyrgylch ‘deuluol’, a’i pholisi drws agored. Mae maint y dosbarthiadau’n fach ac mae’r cyswllt â’r tiwtor heb ei ail. Mae’r cwrs yn cefnogi datblygiad eich ymarfer stiwdio gyda phwyslais ar grefft a sgil.  Byddwch yn cael eich man gwaith unigol eich hun a mynediad i weithdai cerameg a gemwaith pwrpasol. Mae’r rhain yn cynnwys mannau pwrpasol ar gyfer ffabrigo gemwaith, enamlo a chastio metel, torri â laser a thechnoleg argraffu decal metel o'r radd flaenaf.

Cynnwys y Rhaglen

Blwyddyn yn seiliedig ar sgiliau a gyflwynir trwy gyfres o weithdai, gan gynnwys Deunyddiau a Dulliau Gemwaith, Ymchwilio i Ddefnyddioldeb, Enamel, Ffurf ac Arwyneb, Datblygu Iaith Weledol, Dysgu yn yr Oes Ddigidol a Phrosiect Creadigol.

Dilyniant a Chyflogaeth

Ar ôl i chi gwblhau’r Dystysgrif Addysg Uwch yn llwyddiannus, fe allech chi symud ymlaen i lefel 5 y radd lawn os byddwch yn dewis gwneud hynny.

Ar ôl cwblhau’r radd BA (Anrh) lawn (blwyddyn 2 a 3) mae’r gyrfaoedd sydd ar gael yn cynnwys gemydd annibynnol, artist neu ddylunydd, dylunydd cyfwisgoedd, artist cymhwysol, addysgwr, curadur arddangosfeydd, prynwr adwerthu, gweinyddwr celfyddydau, gweithiwr celf cymunedol, therapydd celf, ymchwilydd, astudiaeth ôl-raddedig (MA, PhD), arloeswr ac ati.

Dull asesu

Asesir yn barhaus trwy sesiynau crynhoi gweithdai, trafodaethau beirniadol, asesiad ffurfiannol a chrynodol gydag adborth clywedol ac ysgrifenedig.

Gofynion Mynediad

Pwyntiau sgôr tariff a dderbynnir: O leiaf 96 pwynt neu allu portffolio cyfatebol ar gyfer ymgeiswyr hŷn.

Mae Cyfarwyddwyr Rhaglenni yn cyfweld pob ymgeisydd ac yn trafod eich portffolio o waith celf a’ch uchelgeisiau gyda chi. Mae hyn yn rhan hanfodol o'n proses ddethol i sicrhau bod y cwrs yn iawn i chi a'ch bod chi'n iawn ar gyfer y cwrs.

Costau Ychwanegol

Does dim ffi Stiwdio ychwanegol. Fodd bynnag, mae’n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer deunyddiau arbenigol, printio ac ar gyfer teithiau’n gysylltiedig â’r cwrs. 

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.