Ychwanegiad diweddar i'n portffolio o raglenni lefel prifysgol yw'r Dystysgrif Addysg Uwch.
Mae hwn yn gymhwyster annibynnol Lefel 4 sydd yn y bôn yn flwyddyn gyntaf ein Rhaglen Radd. Bydd y cwrs yn galluogi’r myfyrwyr hynny na allant ymrwymo i astudio ar gyfer gradd BA Anrhydedd lawn i gael dealltwriaeth o’r sgiliau sylfaenol sy'n ofynnol a dysgu amdanynt yn eu pwnc dewisol a dysgu amdanynt.
Datblygwyd y cwrs newydd a chyffrous hwn mewn ymateb i’r diwydiannau creadigol sy’n ehangu sy’n dylanwadu ar ein byd heddiw. Os oes gennych ddiddordeb mewn dylunio gemau a dylunio cysyniad cymeriad, dylunio amgylchedd ar gyfer ffilm neu ddarluniad mae ein cwrs Tystysgrif Addysg Uwch mewn Celf Gysyniadol a Darlunio yn fan cychwyn perffaith i chi.
Cipolwg
Llawn Amser / Rhan-Amser
Blwyddyn yn llawn amser, 2 flynedd yn rhan-amser
Campws Ffynnon Job
Nodweddion y Rhaglen
Mae Ysgol Gelf Caerfyrddin yn adnabyddus am ei hawyrgylch ‘deuluol’, a’i pholisi drws agored. Mae maint y dosbarthiadau’n fach ac mae’r cyswllt â’r tiwtor heb ei ail.
Gallwch ddisgwyl rhaglen amrywiol o aseiniadau sy’n tynnu sylw at bwysigrwydd sgiliau technegol o fewn y diwydiant. Mae gan fyfyrwyr fynediad i gyfleusterau gydag ystafelloedd cyfrifiadurol o safon uchel gyda’r fersiynau diweddaraf o feddalweddd safon y diwydiant (gan gynnwys Adobe Suite, Zbrush, Blender ac Autodesk). Mae adnoddau blaengar yn cynnwys cyfrifiaduron Apple Macintosh o’r radd flaenaf, Microsoft Surface Studio a Wacom Cintiq. A chyda dosbarthiadau bach, mae gan fyfyrwyr ddigon o fynediad i'r cyfleusterau hyn.
Blwyddyn yn seiliedig ar sgiliau a gyflwynir trwy gyfres o weithdai. Mae'r flwyddyn yn cynnwys saith modiwl gan gynnwys Datblygu Iaith Weledol, Delweddu 2D a 3D, Prosesau Digidol ac Arfer Digidol Creadigol, Darlunio Digidol Creadigol, Dysgu yn yr Oes Ddigidol a Phrosiect Creadigol.
Dilyniant a Chyflogaeth
Ar ôl i chi gwblhau’r Dystysgrif Addysg Uwch yn llwyddiannus, fe allech chi symud ymlaen i lefel 5 y radd lawn os byddwch yn dewis gwneud hynny.
Ar ôl cwblhau'r Radd BA (Anrh) lawn (blwyddyn 2 a 3), mae yna dwf aruthrol yn y byd celf gysyniadol a darlunio, gyda chyfleoedd niferus mewn diwydiant amrywiol. Mae’r rhain yn cynnwys swyddi yn y maes gemau, animeiddio a ffilm, gyda marchnadoedd posibl eraill megis darlunio ar gyfer llyfrau, comics, a meysydd eraill niferus sy’n gofyn am ymgeiswyr sydd â sgiliau lluniadu cryf a chreadigrwydd.
Asesu'r Rhaglen
Asesir yn barhaus trwy sesiynau crynhoi gweithdai, trafodaethau beirniadol, asesiad ffurfiannol a chrynodol gydag adborth clywedol ac ysgrifenedig.
Gofynion y Rhaglen
Pwyntiau sgôr tariff a dderbynnir: O leiaf 96 pwynt neu allu portffolio cyfatebol ar gyfer ymgeiswyr hŷn.
Mae angen i bob ymgeisydd llawn amser wneud cais ar-lein drwy UCAS.
Dylai myfyrwyr rhan-amser wneud cais drwy system ymgeisio’r coleg.
Mae Cyfarwyddwyr Rhaglenni yn cyfweld pob ymgeisydd ac yn trafod eich portffolio o waith celf a’ch uchelgeisiau gyda chi. Mae hyn yn rhan hanfodol o'n proses ddethol i sicrhau bod y cwrs yn iawn i chi a'ch bod chi'n iawn ar gyfer y cwrs.
Nid oes ffi Stiwdio ychwanegol. Fodd bynnag, mae’n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer deunyddiau arbenigol, printio ac ar gyfer teithiau’n berthnasol i’r cwrs.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.