Ychwanegiad diweddar i'n portffolio o raglenni lefel prifysgol yw'r Dystysgrif Addysg Uwch.
Mae hwn yn gymhwyster annibynnol Lefel 4 sy'n cwmpasu blwyddyn gyntaf ein Rhaglen Radd. Gellir astudio’r cwrs yn llawn amser dros un flwyddyn academaidd, neu’n rhan-amser dros ddwy flynedd a bydd yn galluogi’r myfyrwyr hynny na allant ymrwymo i astudio ar gyfer gradd BA Anrhydedd lawn i gael dealltwriaeth o’r sgiliau sylfaenol sy'n ofynnol mewn Ffasiwn: Dylunio a Llunio a dysgu amdanynt.
Nod y rhaglen yw datblygu galluoedd a hyder myfyrwyr wrth ddylunio a llunio dillad trwy brofiad a phrosesau a arweinir gan arfer sy'n meithrin datblygiad hunaniaeth ddylunio unigol. Yn Ysgol Gelf Caerfyrddin, mae maint y dosbarthiadau’n fach ac mae’r cyswllt â’r tiwtor heb ei ail.
Cipolwg
Llawn Amser / Rhan-Amser
Blwyddyn yn llawn amser, 2 flynedd yn rhan-amser
Campws Ffynnon Job
Nodweddion y Rhaglen
Gallwch ddisgwyl rhaglen amrywiol o aseiniadau sy’n tynnu sylw at bwysigrwydd sgiliau technegol o fewn y diwydiant. Mae’r cwrs yn aelod-goleg o Gyngor Ffasiwn Prydain sy’n nodedig ac sy’n rhoi mynediad i golegau a myfyrwyr i brosiectau ac interniaethau gwerthfawr yn y diwydiant.
Cynnwys y Rhaglen
Blwyddyn yn seiliedig ar sgiliau a gyflwynir trwy gyfres o weithdai. Mae'r flwyddyn yn cynnwys saith modiwl gan gynnwys Prosesau Cynhyrchu a Dylunio, Dylunio a Llunio Dillad, Datblygu Iaith Weledol, Prosesau Digidol ac Arfer Digidol Creadigol (a ddefnyddir o fewn ffasiwn), Dysgu yn yr Oes Ddigidol a Phrosiect Creadigol.
Dilyniant a Chyflogaeth
Ar ôl i chi gwblhau’r Dystysgrif Addysg Uwch yn llwyddiannus, fe allech chi symud ymlaen i lefel 5 y radd lawn os byddwch yn dewis gwneud hynny.
Ar ôl cwblhau'r Radd BA (Anrh) lawn (blwyddyn 2 a 3) y swyddi sydd ar gael yw dylunio ffasiwn, darlunio ffasiwn, prynu ffasiwn, rhagfynegi tueddiadau, steilio, marsiandïaeth weledol, dylunio gwisgoedd ffilm/teledu, torri patrymau, technoleg dillad, cynorthwyydd samplu, athro/darlithydd ac astudiaeth ôl-raddedig (MA, PhD.) Mae llwyddiant graddedigion yn uchel, gyda llawer o fyfyrwyr yn datblygu eu labeli ffasiwn eu hunain, tra bod eraill wedi dod o hyd i gyflogaeth yn dylunio mewn tai dylunio mwy neu yn y sector ffasiwn ehangach.
Asesu'r Rhaglen
Asesir yn barhaus trwy sesiynau crynhoi gweithdai, trafodaethau beirniadol, asesiad ffurfiannol a chrynodol gydag adborth clywedol ac ysgrifenedig.
Gofynion y Rhaglen
Pwyntiau sgôr tariff a dderbynnir: O leiaf 96 pwynt neu allu portffolio cyfatebol ar gyfer ymgeiswyr hŷn.
Mae angen i bob ymgeisydd llawn amser wneud cais ar-lein drwy UCAS.
Mae Cyfarwyddwyr Rhaglenni yn cyfweld pob ymgeisydd ac yn trafod eich portffolio o waith celf a’ch uchelgeisiau gyda chi. Mae hyn yn rhan hanfodol o'n proses ddethol i sicrhau bod y cwrs yn iawn i chi a'ch bod chi'n iawn ar gyfer y cwrs.
Nid oes ffi Stiwdio ychwanegol. Fodd bynnag, mae’n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer deunyddiau arbenigol, printio ac ar gyfer teithiau’n berthnasol i’r cwrs.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.