Ychwanegiad diweddar i'n portffolio o raglenni lefel Prifysgol yw'r Dystysgrif Addysg Uwch.
Mae hwn yn gymhwyster annibynnol Lefel 4 sydd yn flwyddyn gyntaf ein Rhaglen Radd sy’n canolbwyntio ar brosesau, sgiliau a dealltwriaeth o ddeunyddiau cerflunio. Gellir astudio’r cwrs yn llawn amser dros un flwyddyn academaidd, neu’n rhan-amser dros ddwy flynedd a bydd yn galluogi’r myfyrwyr hynny na allant ymrwymo i astudio ar gyfer gradd BA Anrhydedd lawn.
Wedi'u haddysgu mewn stiwdios wedi’u cyfarparu’n dda drwy sesiynau ymarferol, mae myfyrwyr yn dysgu gweithio ym maes castio metel, modelu, ffabrigo, cerfio carreg a phren â llaw a darlunio mewn gweithdai pwrpasol mewn grwpiau bach gan ddysgu trwy brofiad ymarferol mewn amgylchedd cynhwysol diogel.
Cipolwg
Llawn Amser / Rhan-Amser
Blwyddyn yn llawn amser, 2 flynedd yn rhan-amser
Campws Ffynnon Job
Nodweddion y Rhaglen
Mae ein hysgol gelf bwrpasol yn cynnig gweithdai a stiwdios unigol i chi ar gyfer lluniadu’r byw, castio metel yn ein ffowndri, gwaith coed, gwaith plastr, cerfio carreg a ffabrigo metel.
Mae’r cwrs yn cynnal datblygiad eich ymarfer stiwdio gyda phwyslais ar ddysgu’r grefft a sgil o wneud cerflun o fewn fframwaith cysyniadol. Mae darlithoedd sy’n canolbwyntio ar astudiaethau cyd-destunol a deialog yn eich galluogi i leoli eich hun a'ch ymarfer o ran hanes celf a meddwl beirniadol cyfoes, er mwyn rhoi’r offer i chi fapio ac ymchwilio i'ch deunydd pwnc eich hun. Mae'r gallu meddwl creadigol hwn a addysgir sy'n gysylltiedig ag ymarfer cerfluniol celfyddyd gain yn dod yn fwy a mwy pwysig ym myd masnach a busnes.
Cynnwys y Rhaglen
Blwyddyn yn seiliedig ar sgiliau a gyflwynir trwy gyfres o weithdai.
Mae’r flwyddyn yn cynnwys saith modiwl: Modelu, Gwneud Mowldiau a Chastio, Ffabrigo Dur, Cerflunio â Chlai, Cerfio, Llunio a Ffabrigo, Datblygu Iaith Weledol, Dysgu yn yr Oes Ddigidol a Phrosiect Creadigol.
Dilyniant a Chyflogaeth
Ar ôl i chi gwblhau’r Dystysgrif Addysg Uwch yn llwyddiannus, fe allech chi symud ymlaen i lefel 5 y radd lawn os oeddech yn dewis gwneud hynny.
Ar ôl cwblhau'r Radd BA (Anrh) lawn (blwyddyn 2 a 3) mae myfyrwyr wedi symud ymlaen i lwybrau cyflogaeth amrywiol fel cerflunwyr / artistiaid hunan-gyflogedig, cynorthwywyr artistiaid, dylunwyr golygfeydd, therapyddion celf, adeiladwyr set, gweithwyr sector cyhoeddus, addysgwr, curadur arddangosfeydd, beirniad celf / newyddiadurwr, ymchwilydd, astudiaeth ôl-raddedig (MA, PhD), athronydd, arloeswr ac ati.
Asesu'r Rhaglen
Asesir yn barhaus trwy sesiynau crynhoi gweithdai, trafodaethau beirniadol, asesiad ffurfiannol a chrynodol gydag adborth clywedol ac ysgrifenedig.
Gofynion y Rhaglen
Pwyntiau sgôr tariff a dderbynnir: O leiaf 96 pwynt neu allu portffolio cyfatebol ar gyfer ymgeiswyr hŷn.
Mae angen i bob ymgeisydd llawn amser wneud cais ar-lein drwy UCAS.
Mae Cyfarwyddwyr Rhaglenni yn cyfweld pob ymgeisydd ac yn trafod eich portffolio o waith celf a’ch uchelgeisiau gyda chi. Mae hyn yn rhan hanfodol o'n proses ddethol i sicrhau bod y cwrs yn iawn i chi a'ch bod chi'n iawn ar gyfer y cwrs.
Nid oes ffioedd stiwdio ychwanegol. Fodd bynnag, mae’n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer deunyddiau arbenigol, printio ac ar gyfer teithiau’n berthnasol i’r cwrs.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.