Skip to main content

Disgrifiad o'r Rhaglen


Côd UCAS: C22

Côd y Cwrs: CATX

Ychwanegiad diweddar i'n portffolio o raglenni lefel prifysgol yw'r Dystysgrif Addysg Uwch.

Mae hwn yn gymhwyster annibynnol Lefel 4 sydd yn y bôn yn flwyddyn gyntaf ein Rhaglenni Gradd.  Gellir astudio’r cwrs yn llawn amser dros un flwyddyn academaidd, neu’n rhan-amser dros ddwy flynedd a bydd yn galluogi’r myfyrwyr hynny na allant ymrwymo i astudio ar gyfer gradd BA Anrhydedd lawn i gael dealltwriaeth o’r sgiliau sylfaenol sy'n ofynnol mewn Tecstilau: Gwau, Gwehyddu a Chyfryngau Cymysg a dysgu amdanynt.

Yn unigryw yng Nghymru, y cyfle i archwilio prosesau gwehyddu, gwau a chyfryngau cymysg; lluniadu a dylunio digidol i ffurfio sylfaen ar gyfer datblygu. Mae briffiau ar sail sgiliau yn caniatáu i fyfyrwyr gynhyrchu gwaith ar gyfer amrywiaeth o gyd-destunau'r farchnad e.e. ffabrigau ffasiwn, dyluniwr-gwneuthurwr/crefft, ategolion, tecstilau ar gyfer y tu mewn a chelf tecstilau.

Mae myfyrwyr yn dysgu sgiliau trosglwyddadwy e.e. llythrennedd digidol, meddalwedd CAD a sgiliau cyfathrebu.  Anelwn at feithrin sgiliau ymarferol gyda thrylwyredd academaidd a phroffesiynoldeb.

Cipolwg

  Llawn Amser / Rhan-Amser

  Blwyddyn yn llawn amser, 2 flynedd yn rhan-amser

  Campws Ffynnon Job

Nodweddion y Rhaglen


Mae hon yn rhaglen sydd ag adnoddau da iawn gyda chyfleusterau gweithdy sy'n cynnwys: gwyddiau llaw traddodiadol (ar gael i bob myfyriwr), gwyddiau a yrrir gan gyfrifiadur, cudynnu matiau, peiriannau gwau domestig a diwydiannol, labordy llifynnau, torri â laser, weldio â laser ac asio uwchsonig; ochr yn ochr â chyfarpar printio, addurno a phwytho safonol. Defnyddir ystod eang o feddalwedd dylunio masnachol ar lwyfannau Mac a PC. Mae pob myfyriwr yn cael ei drin fel unigolyn ac yn cael ei annog i greu gwaith sy'n adlewyrchu ei ddiddordebau a'i ddyheadau unigryw.  Mae gan fyfyrwyr fannau gwaith pwrpasol mewn stiwdio olau ac awyrog sydd â’r holl gyfarpar. Mae maint dosbarthiadau yn fach sy'n caniatáu lefel uchel o ryngweithio gyda thiwtoriaid a mynediad hawdd i adnoddau.

Cynnwys y Rhaglen


Blwyddyn yn seiliedig ar sgiliau a gyflwynir trwy gyfres o weithdai. Mae'r cwrs yn cynnwys saith modiwl gan gynnwys Tecstilau Lluniedig, Cyfryngau Cymysg, Datblygu Iaith Weledol, Prosesau Digidol, Arfer Digidol Creadigol (a ddefnyddir o fewn tecstilau), Dysgu yn yr Oes Ddigidol a Phrosiect Creadigol.

Dilyniant a Chyflogaeth


Ar ôl i fyfyrwyr gwblhau’r Dystysgrif Addysg Uwch yn llwyddiannus, fe allent symud ymlaen i lefel 5 y radd lawn os ydynt yn dewis gwneud hynny.   Fel arall, maent yn gadael gyda sgiliau dylunio ac ymarferol arbenigol ochr yn ochr â sgiliau trosglwyddadwy i ddefnyddio fel sail ar gyfer cam nesaf eu datblygiad gyrfa.

Ar ôl cwblhau'r Radd BA (Anrh) lawn (Lefel 5 a 6) mae ystod eang o gyfleoedd gyrfa a dilyniant ar gael fel: dylunydd/artist tecstilau, gwaith arddangosfeydd celf neu waith gosod, dylunio - llawrydd neu'n fewnol, dylunydd/gwneuthurwr, gweithiwr celf cymunedol, curadur arddangosfeydd, athro/darlithydd, ymchwilydd, astudiaeth ôl-raddedig (MA, PhD) i enwi ond ychydig.

Asesu'r Rhaglen


Asesir yn barhaus trwy sesiynau crynhoi gweithdai, tiwtorialau a thrafodaethau beirniadol, asesiad ffurfiannol a chrynodol gydag adborth clywedol ac ysgrifenedig.

Gofynion y Rhaglen


Pwyntiau sgôr tariff a dderbynnir: O leiaf 96 pwynt neu allu portffolio cyfatebol ar gyfer ymgeiswyr hŷn.

Mae angen i bob ymgeisydd llawn amser wneud cais ar-lein drwy UCAS.

Dylai myfyrwyr rhan-amser wneud cais drwy system ymgeisio’r coleg.

Mae Cyfarwyddwyr Rhaglenni yn cyfweld pob ymgeisydd i drafod ei bortffolio creadigol a’i uchelgeisiau. Mae hyn yn rhan hanfodol o'n proses ddethol i sicrhau bod pob darpar fyfyriwr yn addas ar gyfer y cwrs a bod y cwrs yn addas iddo.

Cyfryngau Cymdeithasol

https://www.facebook.com/ColegsirgarTextiles

https://www.facebook.com/CarmarthenSchoolOfArt

https://www.instagram.com/textiles_csoa

https://www.instagram.com/carmarthenschoolofart

Costau Ychwanegol


Nid oes ffi Stiwdio ychwanegol.  Darperir deunyddiau hanfodol ar gyfer cwblhau briffiau modiwl ac mae gan yr adran storfa edafedd â stoc dda.  Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd myfyrwyr yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer deunyddiau arbenigol, printio ac ar gyfer teithiau’n berthnasol i’r cwrs.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.