Skip to main content

Disgrifiad o'r Rhaglen


Côd UCAS: C22

Côd Cwrs: WW27

Mae’r syniad o addurno’r corff wedi bodoli ac esblygu dros filoedd o flynyddoedd, gan amrywio o’r gweithredol i’r addurnol; cyfathrebu naratifau personol a datganiadau cymdeithasol mewn gwrthrychau gwisgadwy, atgofus.  Mae datblygiadau diwylliannol a chymhwyso dulliau i ddeunyddiau’n arloesol wedi bod wrth wraidd gwneud gemwaith bob amser a bydd myfyrwyr ar y cwrs hwn yn cael eu herio a’u hannog i feddwl yn arloesol a chreadigol am ystod o ddeunyddiau, gan ddefnyddio prosesau gwneud traddodiadol a datblygiadau newydd mewn technoleg. 

Hwn yw’r unig gwrs gradd gemwaith annibynnol yng Nghymru ac mae ei strwythur yn canolbwyntio ar sesiynau gweithdy ymarferol sy’n cael eu cyflwyno i grwpiau bach mewn gweithdai sydd â chyfarpar da.  Mae’r amser cyswllt â thiwtor heb ei ail a bydd myfyrwyr yn cael eu dysgu gan unigolion profiadol ac ymroddedig, pob un â'i ymarfer creadigol ei hun, sy’n cynnig safbwyntiau gwahanol.   Yn ystod y flwyddyn astudio gyntaf, bydd gan fyfyrwyr y cyfle i archwilio sgiliau ymarferol sy’n amrywio o ffurfio metel, ffabrigo, torri â laser, enamlo a chastio.  Ochr yn ochr â hyn, bydd myfyrwyr yn ymgymryd â gweithdai lluniadu a ystyrir yn hanfodol i ddatblygiad sgiliau dylunio ac arsylwi.  Byddant hefyd yn datblygu gwybodaeth ddamcaniaethol fanwl a gwybodus o faes gemwaith.     

Yn ystod yr ail flwyddyn astudio, mae ein tîm o staff uchel eu cymhelliant yn canolbwyntio ar gynorthwyo myfyrwyr i nodi eu llais creadigol unigol trwy gyfuniad o weithdai strwythuredig ac astudio’n annibynnol, gan fireinio sgiliau ymarferol a beirniadol hefyd sy’n cael eu cryfhau ymhellach trwy feirniadaethau grŵp gyda chymheiriaid a sesiynau tiwtorial un i un.   Erbyn y drydedd flwyddyn mae myfyrwyr yn gallu arbenigo mewn setiau sgiliau dethol, gan fireinio eu hunaniaeth greadigol unigryw mewn amgylchedd cefnogol, cynhwysol ochr yn ochr â datblygu sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer cyflogadwyedd yn y diwydiant creadigol, ymarfer stiwdio unigol neu greu darnau untro i’w harddangos.  .  Yn ogystal bydd gan fyfyrwyr y cyfle i arddangos eu gwaith blwyddyn olaf yn sioe’r Dylunwyr Newydd yn Llundain

Cipolwg

  Llawn Amser / Rhan Amser

  3 blynedd yn llawn amser; gellir astudio yn rhan-amser.

  Campws Ffynnon Job

Nodweddion y Rhaglen


Trwy ddewis astudio gyda ni, nid rhif yn unig ydych chi.  Rydym yn ysgol gelf fechan, gyfeillgar, bwrpasol sy’n cynnig ystod eang o gyfleusterau cyfoes, arloesol a thraddodiadol.  Mae’r staff, y byddwch chi’n gweithio’n agos â nhw, i gyd â’u hymarfer creadigol proffesiynol eu hunain, sy’n gyson â datblygiadau newydd yn y maes.  Bob blwyddyn byddwch chi’n cael eich man gwaith unigol eich hun a mynediad nid yn unig i weithdai gemwaith pwrpasol, ond hefyd i gyfleusterau o fewn meysydd eraill y coleg er mwyn hyrwyddo dull rhyngddisgyblaethol a chydweithredol tuag at wneud.  Mae’r rhain yn cynnwys mannau pwrpasol ar gyfer ffabrigo gemwaith, ffurfio metel, ysgythru, enamlo gyda thechnoleg argraffu decal modern, gwneud mowldiau gyda chyfleusterau castio metel mewnol, torri â laser a’r dechnoleg argraffu 3D safon uchel ddiweddaraf.  

Mae’r cwrs astudio’n cefnogi datblygiad eich ymarfer stiwdio unigol gyda phwyslais ar grefftwaith a sgil dylunio gemwaith. Mae darlithoedd a deialog gyd-destunol yn eich galluogi i leoli eich hun a'ch ymarfer o safbwynt hanes celf a meddwl beirniadol cyfoes, fel y bydd gennych yr offer i ymchwilio i'ch diddordebau eich hun a’u mapio, gan sicrhau creadigrwydd gwybodus. Anogir deialog rhwng adrannau, gan gynnig cyfleoedd ar gyfer cydweithio a gweithio arloesol.

Mae myfyrwyr yn cymryd rhan mewn teithiau, arddangosfeydd cyhoeddus, digwyddiadau a chystadlaethau arbenigol sy’n eu paratoi'n broffesiynol ar gyfer dyheadau gyrfa yn y dyfodol.  Mae’r sgiliau hyn i gyd yn drosglwyddadwy ar draws ystod o gyd-destunau proffesiynol lle mae meddwl beirniadol a chreadigol a addysgir, a gysylltir yn draddodiadol ag ymarfer celfyddydol, bellach yn cael eu ceisio’n gynyddol ym myd masnach a busnes. 

Cynnwys y Rhaglen


Blwyddyn 1 - Blwyddyn yn seiliedig ar sgiliau a gyflwynir drwy gyfres o weithdai dan arweiniad tiwtor ac ymarfer annibynnol.

Blwyddyn 2 - Blwyddyn ddatblygiadol a ddyfeisiwyd i ganiatáu i chi gymhwyso'r sgiliau a enillwyd ym mlwyddyn un i nodi cryfderau personol a meysydd diddordeb o fewn ystod o gyd-destunau sy'n berthnasol i'r diwydiant. 

Blwyddyn 3 - Briff personol a gyd-drafodwyd sy'n eich galluogi i atgyfnerthu eich ymarfer ac adeiladu portffolio er mwyn paratoi ar gyfer dilyniant ac uchelgeisiau personol yn y dyfodol, gan orffen gyda chyfle i arddangos eich gwaith mewn sioe radd derfynol.

Dilyniant a Chyflogaeth


Dylunydd-Wneuthurwr 3D annibynnol, artist neu ddylunydd cerameg a gemwaith, crochenydd stiwdio, gwneuthurwr modelau ar gyfer y theatr a ffilmiau, dylunydd ategolion, artist cymhwysol, addysgwr, curadur arddangosfeydd, prynwr adwerthu, gweinyddwr celfyddydau, gweithiwr celf cymunedol, therapydd celf, ymchwilydd, astudiaeth ôl-raddedig (MA, PhD), arloeswr ac ati.

Asesu'r Rhaglen


Asesir yn barhaus trwy sesiynau gweithdy llawn, trafodaethau beirniadol, asesu ffurfiannol a chrynodol gydag adborth clywedol ac ysgrifenedig.

Gofynion y Rhaglen


Gofynion mynediad

Derbynnir pwyntiau sgôr tariff: O leiaf 96 pwynt neu allu portffolio cyfwerth ar gyfer ymgeiswyr hyn.

Gweithdrefnau dewis

Mae angen i bob ymgeisydd wneud cais ar-lein trwy UCAS, ein côd Sefydliad UCAS yw C22, côd y cwrs WW27. Bydd y cynigion yn cael eu gwneud ar sail y cais UCAS, graddau a ragwelir (os yn berthnasol), geirda UCAS a chyfweliad un i un. Mae Cyfarwyddwyr y Rhaglen yn cyfweld pob ymgeisydd ac yn trafod eich portffolio gwaith celf a'ch uchelgeisiau gyda chi. Mae hyn yn rhan hollbwysig o'n proses ddewis i sicrhau bod y cwrs yn iawn i chi a'ch bod chi yn iawn i'r cwrs. O ganlyniad i'r ffaith ein bod yn meithrin perthynas gyda chi o'r dechrau mae ein cyfraddau gadael yn isel. Rydym yn ymdrechu'n barhaus i droi myfyrwyr yn ymarferwyr proffesiynol llwyddiannus.

Rydym yn croesawu ymgeiswyr hyn â phrofiad blaenorol perthnasol ac yn eu hystyried yn unigol. Bydd myfyrwyr rhyngwladol yn cael eu cyfweld trwy fideo-gynadledda.

 

Cyfryngau Cymdeithasol

https://www.facebook.com/ceramics.jewellery.csoa/

https://www.facebook.com/CarmarthenSchoolOfArt

https://www.instagram.com/ceramicsjewellery_csoa/

https://www.instagram.com/carmarthenschoolofart/

Costau Ychwanegol


Nid oes unrhyw ffi Stiwdio ychwanegol.  Fodd bynnag, mae'n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer deunyddiau arbenigol, argraffu ac ar gyfer teithiau’n berthnasol i’r cwrs.

Fframwaith Priodoleddau Graddedigion


Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion. Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau.

Dysgwch ragor am y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.