Skip to main content

Cipolwg

  • Llawn Amser neu Ran-amser

  • 3 blynedd yn llawn amser; mae astudio’n rhan-amser ar gael

  • Campws Jobs Well

Cod UCAS: C22

Cod y Cwrs: W000

Mae'r rhaglen radd BA (Anrh) mewn Celf a Dylunio Amlddisgyblaethol hon yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu eu gradd bwrpasol eu hunain, gan ddewis cyfuniad o fodiwlau a ddewiswyd o ddwy o'n graddau arbenigol sy'n targedu eu doniau a'u diddordebau penodol eu hunain. Er enghraifft, Cerflunio a Dylunio 3D Digidol, Ffasiwn a Thecstilau, Celfyddyd Gain a Ffotograffiaeth.

Wrth reswm, gall fod yn anodd i fyfyrwyr ddewis gradd os oes ganddynt gryfderau artistig, diddordebau a galluoedd amrywiol, a gall dewis un radd arbenigol olygu eu bod yn ildio un diddordeb er mwyn dilyn un arall. Gall y syniad felly y gallant gyfuno eu doniau dan ymbarél gradd Amlddisgyblaethol apelio’n fawr.

Fodd bynnag, nid yw hi’n radd i ymgymryd â hi heb ystyried hynny’n ofalus. Rhaid i’r myfyriwr Amlddisgyblaethol fod yn dda wrth reoli amser a bod yn drefnus iawn. Dylai fod yn barod i gymdeithasu a rhyngweithio gydag amrywiaeth o grwpiau myfyrwyr gan y bydd ei amserlen bersonol yn croesi i mewn i wahanol raglenni arbenigol.  Mae’r rhyngweithio hwn rhwng dwy ddisgyblaeth wahanol yn datblygu cyfleoedd ar gyfer arloesi, mae’n galluogi myfyrwyr i weithio ar draws cyd-destunau celf a dylunio ac mae’n arwain at ymarfer creadigol amrywiol, cyffrous ac amlochrog.

Nodweddion y Rhaglen

Mae Ysgol Gelf Caerfyrddin yn adnabyddus am ei hawyrgylch ‘deuluol’.  Rydym yn cynnig polisi drws agored lle anogir myfyrwyr i drafod modiwlau arfaethedig gyda thiwtoriaid profiadol cyn ffurfioli eu rhaglen astudio. Mae maint y dosbarthiadau’n fach ac mae’r cyswllt â’r tiwtor heb ei ail. Byddwch yn cael man gwaith unigol a mynediad i stiwdios a gweithdai penodol sy’n gysylltiedig â’r adrannau rydych chi’n bwriadu astudio ar eu traws. Cyfeiriwch at y Disgrifiad o’r Rhaglen a’r Nodweddion sy'n benodol i'ch dwy adran gradd arbenigol ddewisol i gael rhagor o wybodaeth.

Mae’r cwrs yn cefnogi datblygiad eich ymarfer stiwdio gyda phwyslais ar grefft a sgil. Mae darlithoedd a deialog gyd-destunol yn eich galluogi i leoli eich hun a'ch ymarfer o safbwynt hanes celf a meddwl beirniadol cyfoes, fel y bydd gennych yr offer i ymchwilio i'ch diddordebau eich hun a’u mapio.  Mae cyfleoedd aml ar gyfer arddangosfeydd cyhoeddus, digwyddiadau, cystadlaethau a phrosiectau byw (yn dibynnu ar fodiwlau a ddewisir) yn eich paratoi'n broffesiynol ar gyfer ystod eang o yrfaoedd posib.

Mae’r holl sgiliau hyn yn drosglwyddadwy ar draws ystod o gyd-destunau proffesiynol.   Mae myfyrwyr yn mynychu gweithdai yn ystod eu blwyddyn gyntaf lle maen nhw’n dysgu sgiliau trwy arbrofi mewn amgylchedd dysgu cynhwysol ac ymlaciol.

Cynnwys y Rhaglen

Blwyddyn 1 - Blwyddyn yn seiliedig ar sgiliau a gyflwynir drwy gyfres o weithdai dan arweiniad tiwtor. Ymgymerir â gweithdai yn nwy raglen y graddau arbenigol y mae gennych ddiddordeb ynddynt.

Blwyddyn 2 - Blwyddyn ddatblygiadol a ddyfeisiwyd i ganiatáu i chi gymhwyso'r sgiliau a enillwyd ym mlwyddyn un i nodi cryfderau personol a meysydd diddordeb o fewn ystod o gyd-destunau sy'n berthnasol i'r diwydiant.

Blwyddyn 3 - Briff personol a gyd-drafodwyd sy'n eich galluogi i atgyfnerthu eich ymarfer ac adeiladu portffolio er mwyn paratoi ar gyfer dilyniant ac uchelgeisiau personol yn y dyfodol, gan orffen gyda chyfle i arddangos eich gwaith mewn sioe radd derfynol.

Dilyniant a Chyflogaeth

Mae hyn wedi’i ddylanwadu gan feysydd arbenigol y ddwy raglen radd ddewisol. Artist neu ddylunydd llawrydd gyda'r potensial ar gyfer ymarfer cyfryngau cymysg, entrepreneur, addysgwr, rheoli dylunio, artist cymunedol, rheoli digwyddiadau, therapydd celf, gweinyddiaeth gelf, curadur arddangosfeydd, astudiaeth ôl-raddedig (MA, PhD), ac ati.

Dull asesu

Asesir yn barhaus trwy sesiynau crynhoi gweithdai, trafodaethau beirniadol, asesiad ffurfiannol a chrynodol gydag adborth clywedol ac ysgrifenedig.

Gofynion Mynediad

Pwyntiau sgôr tariff a dderbynnir: O leiaf 96 pwynt neu allu portffolio cyfatebol ar gyfer ymgeiswyr hŷn.

Gweithdrefnau dethol

Mae angen i bob ymgeisydd wneud cais ar-lein drwy UCAS, ein cod Sefydliad UCAS yw C22 a chod y cwrs yw W000. Gwneir cynigion yn seiliedig ar y cais UCAS, graddau disgwyliedig (os yw'n berthnasol), geirda UCAS a chyfweliad un i un. Mae Cyfarwyddwyr Rhaglenni yn cyfweld pob ymgeisydd ac yn trafod eich portffolio o waith celf a’ch uchelgeisiau gyda chi. Mae hyn yn rhan hanfodol o'n proses ddethol i sicrhau bod y cwrs yn iawn i chi a'ch bod chi'n iawn ar gyfer y cwrs. Oherwydd datblygu perthynas â chi o'r cychwyn cyntaf, mae ein cyfraddau tynnu’n ôl yn fach iawn. Rydym yn ymdrechu'n barhaus i droi myfyrwyr yn ymarferwyr proffesiynol llwyddiannus.

Mae croeso i ymgeiswyr hŷn sydd â phrofiad blaenorol perthnasol ac fe'u hystyrir ar sail unigol. Bydd myfyrwyr rhyngwladol yn cael eu cyfweld trwy fideo-gynadledda.

Costau Ychwanegol

Does dim ffi Stiwdio ychwanegol. Fodd bynnag, mae’n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer deunyddiau arbenigol, printio ac ar gyfer teithiau’n gysylltiedig â’r cwrs. 

Fframwaith Priodoleddau Graddedigion

Nod y Fframwaith hwn yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth bwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credyd fesul lefel ar hyd eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion.  Mae modiwlau’r Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a dangos tystiolaeth, o ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar yrfaoedd sy’n gysylltiedig â’ch maes pwnc chi. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys gallu digidol, ymchwil a rheoli prosiect, yn ogystal â’r fath gymwyseddau personol â chyfathrebu, creadigrwydd, hunanfyfyrio, gwytnwch a datrys problemau. 

Dewch i wybod mwy am y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.