Skip to main content

Cipolwg

  • Llawn Amser / Rhan-amser

  • 1 flwyddyn yn llawn amser, dwy flynedd yn rhan-amser

  • Campws Jobs Well

Cod UCAS: C22

Cod y Cwrs: CA3D

Wedi'i ddatblygu o dechnolegau newydd diwydiant creadigol sy'n esblygu, caiff dysgwyr ar y cwrs dylunio 3D ac animeiddio lefel pedwar hwn eu hannog i archwilio syniadau arloesol tra’n ennill sgiliau cyfunol mewn celf, dylunio a thechnoleg. Cipio, creu a chanlyniadau modelau ac amgylcheddau 3D digidol, gan ganolbwyntio’n benodol ar lwyfannau Realiti Rhithwir a phwyslais ar sgiliau. Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar amrywiaeth o brosiectau ymarferol sy'n cynnwys modelu 3D, animeiddio, realiti rhithwir a realiti estynedig, gan greu canlyniadau ar gyfer amrywiaeth o lwyfannau cyfoes.

Gellir astudio’r cymhwyster hwn yn llawn amser dros un flwyddyn academaidd, neu’n rhan-amser dros ddwy flynedd a bydd yn galluogi’r myfyrwyr hynny na allant ymrwymo i astudio ar gyfer gradd BA Anrhydedd lawn i gael dealltwriaeth o’r sgiliau sylfaenol sy'n ofynnol mewn Dylunio 3D Digidol ac Animeiddio a’u dysgu.

Nodweddion y Rhaglen

Gallwch ddisgwyl rhaglen amrywiol o aseiniadau sy’n tynnu sylw at bwysigrwydd sgiliau technegol o fewn y diwydiant. Caiff myfyrwyr fynediad i gyfleusterau rhagorol gydag ystafelloedd cyfrifiadurol o safon uchel gyda'r fersiynau diweddaraf o feddalwedd safon y diwydiant ac adnoddau blaengar gan gynnwys cyfarpar Realiti Rhithwir, sganiwr laser 3D llaw, cyfarpar ffotogrametreg a chamerâu 360 proffesiynol. A gyda dosbarthiadau bach, caiff myfyrwyr ddigon o fynediad i'r cyfleusterau hyn.

Mae’r rhaglen yn sicrhau bod myfyrwyr yn dangos dealltwriaeth sylfaenol dda o gymwysiadau Dylunio 3D a Realiti Rhithwir sy’n berthnasol i’r diwydiant.

Mae’r defnydd o’r sgiliau yn niferus, o greu asedau ar gyfer y diwydiant gemau fideo a VFX i ail-adeiladu digidol ar gyfer y sector treftadaeth.

Cynnwys y Rhaglen

Mae’r cwrs Tystysgrif Addysg Uwch yn flwyddyn seiliedig ar sgiliau a gyflwynir trwy gyfres o weithdai, gan gynnwys Datblygu Iaith Weledol, Delweddu: Cysyniad a Phroses, Prosesau Digidol, Ymarfer Digidol Creadigol (a ddefnyddir yn y diwydiant 3D), Cyflwyniad i Animeiddio 3D, Dysgu yn yr Oes Ddigidol a Phrosiect Creadigol.

Dilyniant a Chyflogaeth

Ar ôl cwblhau’r Dystysgrif Addysg Uwch yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i lefel 5 y radd lawn os ydych yn dewis gwneud hynny.

Ar ôl cwblhau’r Radd BA (Anrh) lawn:- mae’r sector 3D yn ffynnu ar hyn o bryd, wedi'i danio gan ddatblygiadau mewn technoleg a'r llwyfannau sy'n tyfu’n wastadol lle gellir rhoi cyd-destun i’r sgiliau hyn. Mae’r rhain yn cynnwys y diwydiant chwarae gemau cyfrifiadurol; Ffilm/Teledu; delweddu pensaernïol; treftadaeth; argraffu 3D; hysbysebu; peirianneg; darlunio a llawer mwy.

Dull asesu

Asesir yn barhaus trwy sesiynau crynhoi gweithdai, trafodaethau beirniadol, asesiad ffurfiannol a chrynodol gydag adborth clywedol ac ysgrifenedig.

Gofynion Mynediad

Pwyntiau sgôr tariff a dderbynnir: O leiaf 96 pwynt neu allu portffolio cyfatebol ar gyfer ymgeiswyr hŷn.

Mae angen i bob ymgeisydd llawn amser wneud cais ar-lein drwy UCAS.

Dylai myfyrwyr rhan-amser wneud cais drwy system ymgeisio’r coleg https://www.colegsirgar.ac.uk/index.php/en/application-form 

Mae Cyfarwyddwyr Rhaglenni yn cyfweld pob ymgeisydd ac yn trafod eich portffolio o waith celf a’ch uchelgeisiau gyda chi. Mae hyn yn rhan hanfodol o'n proses ddethol i sicrhau bod y cwrs yn iawn i chi a'ch bod chi'n iawn ar gyfer y cwrs.

Costau Ychwanegol

Does dim ffi Stiwdio ychwanegol. Fodd bynnag, mae’n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer deunyddiau arbenigol, printio ac ar gyfer teithiau’n gysylltiedig â’r cwrs. 

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.