Skip to main content

Cipolwg

  • Llawn Amser / Rhan-amser

  • 1 flwyddyn yn llawn amser, dwy flynedd yn rhan-amser

  • Campws Jobs Well

Cod UCAS: C22 

Cod y Cwrs: CACJ 

Mae’r cwrs cerameg hwn yn golygu dysgu drwy wneud ac arbrofi gyda deunyddiau.  Cyflwynir gweithdai ymarferol, sy'n dysgu prosesau traddodiadol a chyfoes mewn cerameg i grwpiau bach, lle mae myfyrwyr yn archwilio eu syniadau a'u potensial dylunio trwy broses cerameg fynegiannol, dylunio a gwneud. 

Mae’r cymhwyster lefel pedwar annibynnol hwn yn galluogi’r myfyrwyr hynny na allant ymrwymo i astudio ar gyfer gradd BA anrhydedd lawn i gael dealltwriaeth o’r sgiliau sylfaenol sy'n ofynnol yn eu pwnc dewisol a’u dysgu.  

Nodweddion y Rhaglen

Mae Ysgol Gelf Caerfyrddin yn adnabyddus am ei hawyrgylch ‘deuluol’, a’i pholisi drws agored. Mae maint y dosbarthiadau’n fach ac mae’r cyswllt â’r tiwtor heb ei ail. Mae’r cwrs yn cefnogi datblygiad eich ymarfer stiwdio gyda phwyslais ar grefft a sgil. Byddwch yn cael eich man gwaith unigol eich hun a mynediad i weithdai cerameg pwrpasol. Mae'r rhain yn cynnwys mannau pwrpasol ar gyfer castio slip a gwaith plastr, castio, taflu, labordy gwydro, amrywiaeth helaeth o odynau nwy a thrydan, raku a chyfleusterau tanio mewn pydew a thechnoleg argraffu decal ceramig a metel o'r radd flaenaf.

Cynnwys y Rhaglen

Blwyddyn yn seiliedig ar sgiliau a gyflwynir trwy gyfres o weithdai, gan gynnwys Prosesau a Chynnyrch Cerameg, Ymchwilio i Ddefnyddioldeb, Datblygu Iaith Weledol, Dysgu yn yr Oes Ddigidol a Phrosiect Creadigol.

Dilyniant a Chyflogaeth

Ar ôl i chi gwblhau’r Dystysgrif Addysg Uwch yn llwyddiannus, fe allech chi symud ymlaen i lefel 5 y radd lawn os byddwch yn dewis gwneud hynny.

Ar ôl cwblhau'r Radd BA (Anrh) lawn (blwyddyn 2 a 3) y swyddi sydd ar gael yw dylunydd gwneuthurwr 3D annibynnol, artist neu ddylunydd cerameg, crochenydd stiwdio, gwneuthurwr modelau ar gyfer theatr a ffilm, artist cymhwysol, addysgwr, curadur arddangosfeydd, gweinyddwr celfyddydau, gweithiwr celf cymunedol, therapydd celf, ymchwilydd, astudiaeth ôl-raddedig (MA, PhD), arloeswr ac ati.

Dull asesu

Asesir yn barhaus trwy sesiynau crynhoi gweithdai, trafodaethau beirniadol, asesiad ffurfiannol a chrynodol gydag adborth clywedol ac ysgrifenedig.

Gofynion Mynediad

Pwyntiau sgôr tariff a dderbynnir: O leiaf 96 pwynt neu allu portffolio cyfatebol ar gyfer ymgeiswyr hŷn.

Mae angen i bob ymgeisydd llawn amser wneud cais ar-lein drwy UCAS.

Mae Cyfarwyddwyr Rhaglenni yn cyfweld pob ymgeisydd ac yn trafod eich portffolio o waith celf a’ch uchelgeisiau gyda chi. Mae hyn yn rhan hanfodol o'n proses ddethol i sicrhau bod y cwrs yn iawn i chi a'ch bod chi'n iawn ar gyfer y cwrs.

Costau Ychwanegol

Does dim ffi Stiwdio ychwanegol. Fodd bynnag, mae’n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer deunyddiau arbenigol, printio ac ar gyfer teithiau’n gysylltiedig â’r cwrs. 

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.