Galluogi'r Bar Hygyrchedd

Disgrifiad o'r Rhaglen


Côd UCAS: C22

Côd Cwrs: W290

Mae Dylunio 3D ac Animeiddioyn rhaglen sydd wedi datblygu o dechnolegau datblygol mewn diwydiant creadigol sy’n esblygu’n barhaus. Mae’r cwrs yn annog myfyrwyr i archwilio syniadau arloesol a modernaidd tra’n ennill sgiliau cyfunol mewn celf, dylunio a thechnoleg. Bydd yna ffocws ar gipio, creu ac allbynnu modelau ac amgylcheddau 3D digidol, gan ganolbwyntio’n benodol ar lwyfannau Rhith-wirionedd. Gyda phwyslais ar sgiliau, mae'r cwrs yn canolbwyntio ar hanfodion dylunio 3D trwy amrywiaeth o brosiectau ymarferol sy'n cynnwys modelu 3D, animeiddio 3D, rhith-wirionedd a realiti estynedig; gan greu canlyniadau ar gyfer amrywiaeth o lwyfannau cyfoes. Mae’r defnydd o’r sgiliau yn niferus, o greu asedau ar gyfer y diwydiant gemau fideo a VFX i ail-adeiladu digidol ar gyfer y sector treftadaeth.

Mae maint y dosbarthiadau’n fach ac mae’r amser cyswllt â’r tiwtor heb ei ail. Mae’r rhaglen yn sicrhau bod myfyrwyr yn datblygu portffolio o waith dylunio 3D sy’n berthnasol i’r diwydiant.

Gallwch ddisgwyl rhaglen amrywiol o aseiniadau sy’n tynnu sylw at bwysigrwydd sgiliau technegol o fewn y diwydiant. Mae gan fyfyrwyr fynediad i gyfleusterau rhagorol gydag ystafelloedd cyfrifiadurol o safon uchel gyda'r fersiynau diweddaraf o feddalwedd safon y diwydiant ac adnoddau blaengar gan gynnwys cyfarpar VR, sganiwr laser 3D llaw, cyfarpar ffotogrametreg a chamerâu 360 proffesiynol. A gyda dosbarthiadau bach, mae gan fyfyrwyr ddigon o fynediad i'r cyfleusterau hyn.

Bydd y flwyddyn olaf yn rhoi cyfle i chi arddangos eich gwaith yn sioe y ‘Dylunwyr Newydd’ yn Llundain, ochr yn ochr â graddedigion cenedlaethol a rhyngwladol.

Cipolwg

  Llawn Amser / Rhan Amser

  3 Blynedd yn Llawn Amser  hyd at 6 Blynedd yn Rhan-amser

  Campws Ffynnon Job

Nodweddion y Rhaglen


Gallwch ddisgwyl rhaglen amrywiol o aseiniadau sy’n tynnu sylw at bwysigrwydd sgiliau technegol o fewn y diwydiant. Mae gan fyfyrwyr fynediad i gyfleusterau rhagorol gydag ystafelloedd cyfrifiadurol o safon uchel gyda'r fersiynau diweddaraf o feddalwedd safon y diwydiant ac adnoddau blaengar gan gynnwys cyfarpar VR, sganiwr laser 3D llaw, cyfarpar ffotogrametreg a chamerâu 360 proffesiynol. A chyda dosbarthiadau bach, mae gan fyfyrwyr ddigon o fynediad i'r cyfleusterau hyn.

Bydd y flwyddyn olaf yn rhoi cyfle i chi arddangos eich gwaith yn y sioe ‘Dylunwyr Newydd’ yn Llundain, ochr yn ochr â graddedigion cenedlaethol a rhyngwladol.

Cynnwys y Rhaglen


Blwyddyn 1 - Blwyddyn yn seiliedig ar sgiliau a gyflwynir drwy gyfres o weithdai dan arweiniad tiwtor ac astudiaeth annibynnol.

Blwyddyn 2 - Blwyddyn ddatblygiadol a ddyfeisiwyd i ganiatáu i chi gymhwyso'r sgiliau a enillwyd ym mlwyddyn un i nodi cryfderau personol a meysydd diddordeb o fewn ystod o gyd-destunau sy'n berthnasol i'r diwydiant. 

Blwyddyn 3 - Briff personol a gyd-drafodwyd sy'n eich galluogi i atgyfnerthu eich ymarfer ac adeiladu portffolio er mwyn paratoi ar gyfer dilyniant ac uchelgeisiau personol yn y dyfodol, gan orffen gyda chyfle i arddangos eich gwaith mewn sioe radd derfynol.

Dilyniant a Chyflogaeth


Mae’r sector 3D yn ffynnu ar hyn o bryd, wedi'i danio gan ddatblygiadau mewn technoleg a'r llwyfannau sy'n tyfu’n wastadol lle gellir rhoi cyd-destun i’r sgiliau hyn. Mae’r rhain yn cynnwys y diwydiant chwarae gemau cyfrifiadurol; Ffilm/Teledu; delweddu pensaernïol; treftadaeth; argraffu 3D; hysbysebu; peirianneg; darlunio a llawer mwy.

Asesu'r Rhaglen


Asesir yn barhaus trwy sesiynau crynhoi gweithdai, trafodaethau beirniadol, asesiad ffurfiannol a chrynodol gydag adborth clywedol ac ysgrifenedig.

Gofynion y Rhaglen


Gofynion mynediad

Pwyntiau sgôr tariff a dderbynnir: O leiaf 96 pwynt neu allu portffolio cyfatebol ar gyfer ymgeiswyr hŷn.

Gweithdrefnau dethol

Mae angen i bob ymgeisydd wneud cais ar-lein drwy UCAS. Ein Côd Sefydliad UCAS yw C22 a chôd y cwrs yw W290. Gwneir cynigion yn seiliedig ar y cais UCAS, graddau disgwyliedig (os yw'n berthnasol), geirda UCAS a chyfweliad un i un. Mae Cyfarwyddwyr Rhaglenni yn cyfweld pob ymgeisydd ac yn trafod eich portffolio o waith celf a’ch uchelgeisiau gyda chi. Mae hon yn rhan hanfodol o'n proses ddethol i sicrhau bod y cwrs yn iawn i chi a'ch bod chi'n iawn ar gyfer y cwrs. Oherwydd datblygu perthynas â chi o'r cychwyn cyntaf, mae ein cyfraddau tynnu’n ôl yn fach iawn Rydym yn ymdrechu'n barhaus i droi myfyrwyr yn ymarferwyr proffesiynol llwyddiannus.

Mae croeso i ymgeiswyr hŷn sydd â phrofiad blaenorol perthnasol ac fe'u hystyrir ar sail unigol. Bydd ymgeiswyr rhyngwladol yn cael eu cyfweld trwy fideo-gynadledda.

Cyfryngau Cymdeithasol:
https://www.facebook.com/BA3DdesignVR/
https://www.facebook.com/CarmarthenSchoolOfArt
https://www.instagram.com/3d_vr_csoa/
https://www.instagram.com/carmarthenschoolofart/

Costau Ychwanegol


Nid oes unrhyw ffi Stiwdio ychwanegol.  Fodd bynnag, mae'n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer deunyddiau arbenigol, argraffu ac ar gyfer teithiau’n berthnasol i’r cwrs.

Fframwaith Priodoleddau Graddedigion


Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion. Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau.

Dysgwch ragor am y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion