Côd UCAS: C22
Côd Cwrs: W130
Mae’r rhaglen hon yn unigryw a sefydledig yn y DU gan roi’r cyfle i astudio cerflunio celfyddyd gain drwy ymarferion traddodiadol a deunyddiau digidol. Mae’r rhaglen yn galluogi ymchwilio i statws cerflunio yn y byd celfyddyd gain gyfoes a’i le sy’n esblygu’n barhaus oherwydd ffactorau cymdeithasol a gwleidyddol. Mae’r dirwedd leol yn chwarae rôl graff yn ein darpariaeth drwy gyfrwng ymarfer safle-benodol, gosodiadau, perfformiad ac ymarfer celfyddyd y tir. Bydd hyn yn eich annog a’ch galluogi i ffurfio dulliau arbrofol trwy amrywiaeth o ffurfiau celfyddydol. Caiff gweithdai dulliau a deunyddiau eu haddysgu’n ymarferol gan werthfawrogi pwysigrwydd meddwl trwy wneud.
Mae’r flwyddyn gyntaf wedi’i strwythuro o amgylch edrych ar sail sgiliau ar ystod eang o ddeunyddiau a phrosesau mewn gweithdai pwrpasol gyda grwpiau bach, gan ddysgu trwy brofiad ymarferol mewn amgylchedd cynhwysol diogel. Yn yr ail a’r drydedd flwyddyn, byddwch yn mynegi ac yn archwilio eich diddordebau artistig, cymdeithasol a phersonol yn annibynnol ac yn feirniadol, wedi eu llywio gan ymchwil benodol a hwylusir gan diwtoriaid sy’n arbenigwyr cydnabyddedig yn eu maes.
Mae pob myfyriwr yn mynd i’r afael â maes eang celfyddyd gain trwy ddarlithoedd ar ei hanes, ei diwylliant a’i safle cyfoes. Cefnogir hyn trwy drafod eich gwaith mewn tiwtorialau un i un, seminarau, beirniadaethau grŵp a thrawsgyrsiol. Byddwch yn dysgu sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer cyflogadwyedd yn y diwydiannau creadigol: mae gan lawer o gyn-fyfyrwyr yrfaoedd sefydledig yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Anogir deialog rhwng adrannau, gan gynnig cyfleoedd ar gyfer cydweithio ac ymarfer celf sy'n ymgysylltu â’r gymdeithas. Yn ogystal, bydd myfyrwyr wedi ffurfio iaith feirniadol hyderus wrth ymateb i ymarfer celf gyfoes erbyn diwedd eu hastudiaethau.
Llawn Amser / Rhan Amser
3 blynedd yn llawn amser, neu fwyafswm o 60 credyd fesul blwyddyn academaidd ar gyfer astudio rhan-amser.
Campws Ffynnon Job
Mae’r cwrs yn cefnogi datblygiad eich ymarfer stiwdio gyda phwyslais ar ddysgu’r grefft a’r sgil o wneud cerfluniau. Mae darlithoedd a deialog gyd-destunol yn eich galluogi i leoli eich hun a'ch ymarfer o safbwynt hanes celf a meddwl beirniadol cyfoes, er mwyn rhoi’r offer i chi ymchwilio i'ch diddordebau eich hun a’u mapio. Mae cyfleoedd cyson ar gyfer arddangosfeydd cyhoeddus a chynadleddau yn y DU a dramor yn eich paratoi'n broffesiynol ar gyfer ystod eang o yrfaoedd posib. Mae’r holl sgiliau hyn yn drosglwyddadwy ar draws ystod o gyd-destunau proffesiynol. Mae'r gallu i feddwl yn greadigol hwn a addysgir sy'n gysylltiedig ag ymarfer cerfluniol celfyddyd gain yn dod yn fwy a mwy pwysig ym myd masnach a busnes.
Blwyddyn 1 - Blwyddyn yn seiliedig ar sgiliau a gyflwynir drwy gyfres o weithdai dan arweiniad tiwtor ac astudiaeth annibynnol.
Blwyddyn 2 - Blwyddyn ddatblygiadol a ddyfeisiwyd i ganiatáu i chi gymhwyso'r sgiliau a enillwyd ym mlwyddyn un i nodi cryfderau personol a meysydd diddordeb o fewn ystod o gyd-destunau sy'n berthnasol i'r diwydiant.
Blwyddyn 3 - Briff personol a gyd-drafodwyd sy'n eich galluogi i atgyfnerthu eich ymarfer ac adeiladu portffolio er mwyn paratoi ar gyfer dilyniant ac uchelgeisiau personol yn y dyfodol, gan orffen gyda chyfle i arddangos eich gwaith mewn sioe radd derfynol.
Cerflunydd / artist hunangyflogedig, cynorthwy-ydd artist, entrepreneur, cynllunydd golygfeydd llwyfan, therapydd celf, adeiladwr setiau, gweithiwr sector cyhoeddus, addysgwr, curadur arddangosfa, beirniad celf / ymchwilydd newyddiadurol, astudiaeth ôl-raddedig (MA, PhD), athronydd, arloeswr ac ati.
Asesir yn barhaus trwy sesiynau gweithdy llawn, trafodaethau beirniadol, asesu ffurfiannol a chrynodol gydag adborth clywedol ac ysgrifenedig.
Gofynion mynediad
Derbynnir pwyntiau sgôr tariff: O leiaf 96 pwynt neu allu portffolio cyfwerth ar gyfer ymgeiswyr hyn.
Gweithdrefnau dewis
Mae angen i bob ymgeisydd wneud cais ar-lein trwy UCAS, ein côd Sefydliad UCAS yw C22 a chôd y cwrs yw W130. Bydd y cynigion yn cael eu gwneud ar sail y cais UCAS, graddau a ragwelir (os yn berthnasol), geirda UCAS a chyfweliad un i un. Mae Cyfarwyddwyr y Rhaglen yn cyfweld pob ymgeisydd ac yn trafod eich portffolio gwaith celf a'ch uchelgeisiau gyda chi. Mae hyn yn rhan hollbwysig o'n proses ddewis i sicrhau bod y cwrs yn iawn i chi a'ch bod chi yn iawn i'r cwrs. O ganlyniad i'r ffaith ein bod yn meithrin perthynas gyda chi o'r dechrau mae ein cyfraddau gadael yn isel. Rydym yn ymdrechu'n barhaus i droi myfyrwyr yn ymarferwyr proffesiynol llwyddiannus.
Rydym yn croesawu ymgeiswyr hyn â phrofiad blaenorol perthnasol ac yn eu hystyried yn unigol. Bydd myfyrwyr rhyngwladol yn cael eu cyfweld trwy fideo-gynadledda.
Cyfryngau Cymdeithasol
https://www.facebook.com/carmarthenschoolofartsculpture
https://www.facebook.com/CarmarthenSchoolOfArt
Nid oes unrhyw ffi Stiwdio ychwanegol. Fodd bynnag, mae'n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer deunyddiau arbenigol, argraffu ac ar gyfer teithiau’n berthnasol i’r cwrs.
Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion. Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau.
Dysgwch ragor am y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion