Skip to main content

Astudiaethau Sylfaen mewn Celf, Dylunio a'r Cyfryngau Lefel 3

Cipolwg

  • Llawn Amser

  • Un flwyddyn yn llawn amser

  • Campws Ffynnon Job

Mae celf a dylunio yn cynnig sianel unigryw ar gyfer hunanfynegiant ac mae’n helpu unigolion i gyfleu eu meddyliau, eu hemosiynau a'u syniadau mewn ffyrdd gweledol sy’n ysgogol ac arloesol.

Mae ein rhaglen fywiog yn cynnig profiad diagnostig sy’n eich annog i arbrofi a gwneud dewisiadau gwybodus ar gyfer astudiaethau ac ymarfer creadigol yn y dyfodol.

Mae'n gweithredu fel pont rhwng eich astudiaethau lefel tri (Safon Uwch a chyfwerth) a blwyddyn gyntaf gradd.  Gallwch archwilio ystod eang o sgiliau a fydd yn eich helpu i ddod yn feddyliwr ochrol, hyblyg wrth baratoi ar gyfer lle mewn addysg uwch a chyflogaeth.

Byddwch yn astudio mewn amgylchedd creadigol sy’n symbylu dyfeisgarwch, arbrofi a dadansoddi. Caiff y rhaglen ei dysgu yn Ysgol Gelf Caerfyrddin y coleg sy’n ganolbwynt creadigrwydd a chewch hefyd eich gofod stiwdio eich hun i wneud gwaith prosiect. 

Nodweddion y Rhaglen

Byddwch yn archwilio pob maes cwricwlwm o fewn celf a dylunio cyn dewis pa lwybr arbenigol sy'n addas i'ch diddordebau personol chi.  Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau wrth weithio gydag amrywiaeth o ddeunyddiau a phrosesau a fydd yn eich helpu i gynhyrchu a datblygu syniadau a chanlyniadau.

Bydd ein darlithoedd astudiaethau cyd-destunol yn cefnogi eich astudiaethau. Mae'r elfen gyffrous hon o'r cwrs yn helpu i gynyddu eich hyder i feddwl yn greadigol a beirniadol, myfyrio personol a gwybodaeth bynciol o arferion hanesyddol a chyfoes.

Cyflwynir y rhaglen bum diwrnod yr wythnos am 35 o wythnosau ac nid oes ffioedd dysgu.

Cynnwys y Rhaglen

Rhennir y rhaglen yn dri cham:

Cam Un: Rydych chi'n mynychu ystod o weithdai i'ch cyflwyno i brosesau a ffyrdd o weithio. 

Cam Dau:  Rydych chi’n dewis ac yn dilyn eich llwybr arbenigol dewisol; i'ch cefnogi i adeiladu portffolio sy'n briodol i'ch cwrs astudio mewn addysg uwch neu gyflogaeth.

Cam Tri: Rydych chi'n aros o fewn eich llwybr arbenigol dewisol ond mae'r pwyslais ar uchelgais, unigoliaeth ac annibyniaeth. Byddwch yn cynnig ac yn datblygu eich arddangosfa diwedd y flwyddyn.

Dilyniant a Chyflogaeth

Bydd tiwtoriaid lefel gradd ac arbenigwyr pwnc yn eich dysgu, y mae gan y rhan fwyaf ohonynt eu hymarfer eu hunain a gallant rannu eu profiadau gyda chi. Byddwn yn eich helpu i adeiladu portffolio pwnc-benodol a bydd defnyddio cyfleusterau arbenigol yn eich cyflwyno i ffyrdd o weithio er mwyn paratoi ar gyfer astudio gradd neu fynd ymlaen i gyflogaeth.

Mae llawer o’n myfyrwyr yn mynd ymlaen i brifysgolion ledled y DU neu’n dewis symud ymlaen yn uniongyrchol i raglenni gradd yn Ysgol Gelf Caerfyrddin, y byddwch chi’n gymwys i gael bwrsariaeth dilyniant mewnol o £1000 ar eu cyfer.

Dull asesu

Rhaid i chi basio'r holl feini prawf ar bob cam i symud ymlaen i gamau dilynol.

Asesir unedau yn fewnol. Byddwch hefyd yn creu prosiect mawr terfynol a gaiff ei gymedroli’n allanol gan CBAC.  Bydd y canlyniad yn rhoi gradd diploma derfynol o ragoriaeth, teilyngdod neu pas.

Gofynion Mynediad

Bydd angen i bob ymgeisydd ddod â phortffolio o waith celf a dylunio i’w cyfweliad.  Caiff addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn ei asesu yn y cyfweliad.   

Bydd angen i ymgeisydd ar gyfer y cwrs feddu ar:  Gymhwyster Lefel 3 (gwell pe bai’n ymwneud â chelf) a 5 TGAU graddau A* - C neu gyfwerth, sy’n cynnwys naill ai Saesneg Iaith neu Gymraeg (Iaith gyntaf) a mathemateg. Gellir derbyn myfyrwyr hŷn heb gymwysterau yn amodol ar gyfweliad llwyddiannus a chyflwyniad o waith celf.

Costau Ychwanegol

Mae yna ffi stiwdio o £150 ar gyfer y cwrs hwn.  Bydd hyn yn darparu deunyddiau sylfaenol i chi ddatblygu gwaith ymarferol yn ein gweithdy a'n cyfleusterau stiwdio.  Fodd bynnag, mae’n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer deunyddiau arbenigol, printio ac ar gyfer teithiau’n gysylltiedig â’r cwrs. 

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.