BA (Anrh) Celfyddyd Gain: Cerflunio
Cipolwg
-
Llawn Amser neu Ran-amser
-
3 blynedd yn llawn amser, neu fwyafswm o 60 credyd fesul blwyddyn academaidd ar gyfer astudio’n rhan-amser.
-
Campws Jobs Well
Cod UCAS: C22
Cod y Cwrs: W130
Mae’r rhaglen hon yn unigryw a sefydledig yn y DU gan roi’r cyfle i astudio celfyddyd gain cerflunio drwy ymarferion traddodiadol a deunyddiau digidol. Mae’r rhaglen BA (Anrh) mewn Celfyddyd Gain Cerflunio yn galluogi ymchwilio i statws cerflunio yn y byd celfyddyd gain gyfoes a’i le sy’n esblygu’n barhaus oherwydd ffactorau cymdeithasol a gwleidyddol. Mae’r dirwedd leol yn chwarae rôl graff yn ein darpariaeth drwy gyfrwng ymarfer safle-benodol, gosodiadau, perfformiad ac ymarfer celfyddyd y tir. Bydd hyn yn eich annog a’ch galluogi i ffurfio dulliau arbrofol trwy amrywiaeth o ffurfiau celfyddydol. Caiff gweithdai dulliau a deunyddiau eu haddysgu’n ymarferol gan werthfawrogi pwysigrwydd meddwl trwy wneud.
Mae’r flwyddyn gyntaf wedi’i strwythuro o amgylch edrych ar sail sgiliau ar ystod eang o ddeunyddiau a phrosesau mewn gweithdai pwrpasol gyda grwpiau bach, gan ddysgu trwy brofiad ymarferol mewn amgylchedd cynhwysol diogel. Yn yr ail a’r drydedd flwyddyn, byddwch yn mynegi ac yn archwilio eich diddordebau artistig, cymdeithasol a phersonol yn annibynnol ac yn feirniadol, wedi eu llywio gan ymchwil benodol a hwylusir gan diwtoriaid sy’n arbenigwyr cydnabyddedig yn eu maes.
Mae pob myfyriwr yn mynd i’r afael â maes eang celfyddyd gain trwy ddarlithoedd ar ei hanes, ei diwylliant a’i safle cyfoes. Cefnogir hyn trwy drafod eich gwaith mewn tiwtorialau un i un, seminarau, beirniadaethau grŵp a thrawsgyrsiol. Byddwch yn dysgu sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer cyflogadwyedd yn y diwydiannau creadigol: mae gan lawer o gyn-fyfyrwyr yrfaoedd sefydledig yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Anogir deialog rhwng adrannau, gan gynnig cyfleoedd ar gyfer cydweithio ac ymarfer celf sy'n ymgysylltu â’r gymdeithas. Yn ogystal, bydd myfyrwyr wedi ffurfio iaith feirniadol hyderus wrth ymateb i ymarfer celf gyfoes erbyn diwedd eu hastudiaethau.
Trwy ddewis astudio gyda ni, nid rhif yn unig ydych chi. Rydym yn ysgol gelf fechan, gyfeillgar, bwrpasol sy’n cynnig ystod eang o gyfleusterau cyfoes, arloesol a thraddodiadol.
Mae’r tiwtoriaid y byddwch yn gweithio gyda nhw yn artistiaid proffesiynol sydd â phroffiliau arddangos rhyngwladol cyfredol. Mae ein hysgol gelf yn cynnig stiwdios a gweithdai unigol i chi ar gyfer lluniadu’r byw, ffowndri ar gyfer castio metel mewn alwminiwm, efydd a haearn, gwaith coed, gwaith plastr, cerfio carreg a phren a cherflunio digidol. Mae’r cwrs yn cefnogi datblygiad eich ymarfer stiwdio gyda phwyslais ar ddysgu’r grefft a’r sgil o wneud cerfluniau. Mae darlithoedd a deialog gyd-destunol yn eich galluogi i leoli eich hun a'ch ymarfer o safbwynt hanes celf a meddwl beirniadol cyfoes, er mwyn rhoi’r offer i chi ymchwilio i'ch diddordebau eich hun a’u mapio.
Mae cyfleoedd cyson ar gyfer arddangosfeydd cyhoeddus a chynadleddau yn y DU a dramor yn eich paratoi'n broffesiynol ar gyfer ystod eang o yrfaoedd posib.
Mae’r holl sgiliau hyn yn drosglwyddadwy ar draws ystod o gyd-destunau proffesiynol. Mae'r gallu hwn i feddwl yn greadigol a addysgir sy'n gysylltiedig ag ymarfer cerfluniol celfyddyd gain yn dod yn fwy a mwy pwysig ym myd masnach a busnes.
Blwyddyn 1 - Blwyddyn yn seiliedig ar sgiliau a gyflwynir drwy gyfres o weithdai dan arweiniad tiwtor ac astudiaeth annibynnol.
Blwyddyn 2 - Blwyddyn ddatblygiadol a ddyfeisiwyd i ganiatáu i chi gymhwyso'r sgiliau a enillwyd ym mlwyddyn un i nodi cryfderau personol a meysydd diddordeb o fewn ystod o gyd-destunau sy'n berthnasol i'r diwydiant.
Blwyddyn 3 - Briff personol a gyd-drafodwyd sy'n eich galluogi i atgyfnerthu eich ymarfer ac adeiladu portffolio er mwyn paratoi ar gyfer dilyniant ac uchelgeisiau personol yn y dyfodol, gan orffen gyda chyfle i arddangos eich gwaith mewn sioe radd derfynol.
Cerflunydd/artist hunan-gyflogedig, cynorthwyydd artist, entrepreneur, dylunydd golygfeydd, therapydd celf, adeiladwr setiau, gweithiwr sector cyhoeddus, addysgwr, curadur arddangosfeydd, beirniad celf / newyddiadurwr ymchwilydd, astudiaeth ôl-raddedig (MA, PhD), athronydd, arloeswr ac ati.
Asesir yn barhaus trwy sesiynau crynhoi gweithdai, trafodaethau beirniadol, asesiad ffurfiannol a chrynodol gydag adborth clywedol ac ysgrifenedig.
Pwyntiau sgôr tariff a dderbynnir: O leiaf 96 pwynt neu allu portffolio cyfatebol ar gyfer ymgeiswyr hŷn.
Gweithdrefnau dethol
Mae angen i bob ymgeisydd wneud cais ar-lein drwy UCAS, ein cod Sefydliad UCAS yw C22 a chod y cwrs yw W130. Gwneir cynigion yn seiliedig ar y cais UCAS, graddau disgwyliedig (os yw'n berthnasol), geirda UCAS a chyfweliad un i un. Mae Cyfarwyddwyr Rhaglenni yn cyfweld pob ymgeisydd ac yn trafod eich portffolio o waith celf a’ch uchelgeisiau gyda chi. Mae hyn yn rhan hanfodol o'n proses ddethol i sicrhau bod y cwrs yn iawn i chi a'ch bod chi'n iawn ar gyfer y cwrs. Oherwydd datblygu perthynas â chi o'r cychwyn cyntaf, mae ein cyfraddau tynnu’n ôl yn fach iawn. Rydym yn ymdrechu'n barhaus i droi myfyrwyr yn ymarferwyr proffesiynol llwyddiannus.
Mae croeso i ymgeiswyr hŷn sydd â phrofiad blaenorol perthnasol ac fe'u hystyrir ar sail unigol. Bydd myfyrwyr rhyngwladol yn cael eu cyfweld trwy fideo-gynadledda.
Does dim ffi Stiwdio ychwanegol. Fodd bynnag, mae’n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer deunyddiau arbenigol, printio ac ar gyfer teithiau’n gysylltiedig â’r cwrs.
Nod y Fframwaith hwn yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth bwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credyd fesul lefel ar hyd eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion. Mae modiwlau’r Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a dangos tystiolaeth, o ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar yrfaoedd sy’n gysylltiedig â’ch maes pwnc chi. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys gallu digidol, ymchwil a rheoli prosiect, yn ogystal â’r fath gymwyseddau personol â chyfathrebu, creadigrwydd, hunanfyfyrio, gwytnwch a datrys problemau.
Dewch i wybod mwy am y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion