Skip to main content

Cipolwg

  • Llawn Amser / Rhan-amser

  • 1 flwyddyn yn llawn amser, 2 flynedd yn rhan-amser

  • Campws Ffynnon Job 

Cod UCAS: C22

Cod y Cwrs: CAMU

Mae hon yn ffordd hyblyg a chyffrous iawn o astudio lle gall y dysgwr ddatblygu ei gwrs ei hun o’r meysydd celf a dylunio sydd o ddiddordeb iddo.

Ychwanegiad diweddar i'n portffolio o raglenni lefel prifysgol yw'r dystysgrif addysg uwch. 

Mae hwn yn gymhwyster annibynnol lefel pedwar sydd yn y bôn yn flwyddyn gyntaf ein rhaglenni gradd.  Bydd y cwrs yn galluogi’r myfyrwyr hynny na allant ymrwymo i astudio ar gyfer gradd BA Anrhydedd lawn i gael dealltwriaeth o’r sgiliau sylfaenol sy'n ofynnol yn eu pwnc dewisol a dysgu amdanynt. 

Mae'r cwrs celf a dylunio amlddisgyblaethol yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu eu cwrs pwrpasol eu hunain, gan ddewis cyfuniad o fodiwlau a ddewiswyd o ddwy o'n graddau arbenigol sy'n targedu eu doniau a'u diddordebau penodol eu hunain. Er enghraifft, cerflunio a darlunio digidol; ffasiwn a thecstilau; cerameg a gemwaith a ffotograffiaeth.

Nodweddion y Rhaglen

Mae Ysgol Gelf Caerfyrddin yn adnabyddus am ei hawyrgylch ‘deuluol’, a’i pholisi drws agored lle anogir myfyrwyr i drafod modiwlau arfaethedig gyda thiwtoriaid profiadol cyn ffurfioli eu rhaglen astudio. Mae maint y dosbarthiadau’n fach ac mae’r cyswllt â’r tiwtor heb ei ail. Cyfeiriwch at y Disgrifiad o’r Rhaglen a’r Nodweddion sy'n benodol i'ch dwy adran ddewisol Tystysgrif Addysg Uwch arbenigol i gael rhagor o wybodaeth.

Mae darlithoedd a deialog gyd-destunol yn eich galluogi i leoli eich hun a'ch ymarfer o safbwynt hanes celf a meddwl beirniadol cyfoes, fel y bydd gennych yr offer i ymchwilio i'ch diddordebau eich hun a’u mapio.

Cynnwys y Rhaglen

Blwyddyn yn seiliedig ar sgiliau a gyflwynir trwy gyfres o weithdai, rhai’n orfodol ac mae rhai myfyrwyr wedyn yn dewis ar draws eu dwy ddisgyblaeth ddewisol.  Mae modiwlau gorfodol yn cwmpasu Datblygu Iaith Weledol, Dysgu yn yr Oes Ddigidol a Phrosiect Creadigol. Ar gyfer y modiwlau opsiynol cyfeiriwch at fanylion cynnwys rhaglen y ddwy radd arbenigol sydd o ddiddordeb i chi. 

Dilyniant a Chyflogaeth

Ar ôl i chi gwblhau’r Dystysgrif Addysg Uwch yn llwyddiannus, fe allech chi symud ymlaen i lefel 5 y radd lawn os byddwch yn dewis gwneud hynny.

Ar ôl cwblhau'r Radd BA (Anrh) lawn (blwyddyn 2 a 3), mae hyn wedi’i ddylanwadu gan feysydd arbenigol y ddwy raglen radd ddewisol. Artist neu ddylunydd llawrydd gyda'r potensial ar gyfer ymarfer cyfryngau cymysg, entrepreneur, addysgwr, rheoli dylunio, artist cymunedol, rheoli digwyddiadau, therapydd celf, gweinyddiaeth gelf, curadur arddangosfeydd, astudiaeth ôl-raddedig (MA, PhD), ac ati.

Dull asesu

Asesir yn barhaus trwy sesiynau crynhoi gweithdai, trafodaethau beirniadol, asesiad ffurfiannol a chrynodol gydag adborth clywedol ac ysgrifenedig.

Gofynion Mynediad

Pwyntiau sgôr tariff a dderbynnir: O leiaf 96 pwynt neu allu portffolio cyfatebol ar gyfer ymgeiswyr hŷn.

Mae angen i bob ymgeisydd llawn amser wneud cais ar-lein drwy UCAS.

Dylai myfyrwyr rhan-amser wneud cais drwy system ymgeisio’r coleg.

Costau Ychwanegol

Does dim ffi Stiwdio ychwanegol. Fodd bynnag, mae’n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer deunyddiau arbenigol, printio ac ar gyfer teithiau’n gysylltiedig â’r cwrs. 

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.