Skip to main content

Cipolwg

  • Llawn Amser / Rhan-amser

  • 1 flwyddyn yn llawn amser, 2 flynedd yn rhan-amser

  • Campws Jobs Well

Cod UCAS: C22

Cod y Cwrs: CACA

Celf gysyniadol yw cynrychiolaeth weledol syniadau, dyluniadau a chysyniadau yng nghamau cynnar prosiect creadigol sy'n gwasanaethu fel offeryn archwilio gweledol a chyfathrebu.

Mae hwn yn gymhwyster annibynnol lefel pedwar sydd yn y bôn yn flwyddyn gyntaf ein rhaglenni gradd.  Bydd y cwrs yn galluogi’r myfyrwyr hynny na allant ymrwymo i astudio ar gyfer gradd BA Anrhydedd lawn i gael dealltwriaeth o’r sgiliau sylfaenol sy'n ofynnol yn eu pwnc dewisol a dysgu amdanynt.  

Datblygwyd y cwrs newydd a chyffrous hwn mewn ymateb i’r diwydiannau creadigol ehangol sy’n dylanwadu ar ein byd heddiw. Os oes gennych ddiddordeb mewn dylunio gemau a dylunio cysyniad cymeriad, dylunio amgylchedd ar gyfer ffilm neu ddarluniad mae ein cwrs Tystysgrif Addysg Uwch mewn Celf Gysyniadol a Darlunio yn fan cychwyn perffaith i chi.

Nodweddion y Rhaglen

Mae Ysgol Gelf Caerfyrddin yn adnabyddus am ei hawyrgylch ‘deuluol’, a’i pholisi drws agored. Mae maint y dosbarthiadau’n fach ac mae’r cyswllt â’r tiwtor heb ei ail. 

Gallwch ddisgwyl rhaglen amrywiol o aseiniadau sy’n tynnu sylw at bwysigrwydd sgiliau technegol o fewn y diwydiant. Caiff myfyrwyr fynediad i gyfleusterau rhagorol gydag ystafelloedd cyfrifiadurol o safon uchel gyda’r fersiynau diweddaraf o feddalweddd safon y diwydiant (gan gynnwys Adobe Suite, Zbrush, Blender ac Autodesk).  Hefyd mae adnoddau blaengar sy’n cynnwys cyfrifiaduron Apple Macintosh o’r radd flaenaf, Microsoft Surface Studio a Wacom Cintiq. A gyda dosbarthiadau bach, caiff myfyrwyr ddigon o fynediad i'r cyfleusterau hyn.

Cynnwys y Rhaglen

Blwyddyn yn seiliedig ar sgiliau a gyflwynir trwy gyfres o weithdai, gan gynnwys Datblygu Iaith Weledol, Delweddu: Cysyniad a Phroses, Prosesau Digidol ac Ymarfer Digidol Creadigol, Darlunio Digidol Creadigol, Dysgu yn yr Oes Ddigidol a Phrosiect Creadigol.

Dilyniant a Chyflogaeth

Ar ôl i chi gwblhau’r Dystysgrif Addysg Uwch yn llwyddiannus, fe allech chi symud ymlaen i lefel 5 y radd lawn os byddwch yn dewis gwneud hynny.

Ar ôl cwblhau'r Radd BA (Anrh) lawn (blwyddyn 2 a 3), mae yna dwf aruthrol yn y byd celf gysyniadol a darlunio, gyda chyfleoedd niferus mewn diwydiant amrywiol. Mae’r rhain yn cynnwys swyddi yn y maes gemau, animeiddio a ffilm, gyda marchnadoedd posibl eraill megis darlunio ar gyfer llyfrau, comics, a meysydd eraill niferus sy’n gofyn am ymgeiswyr sydd â sgiliau lluniadu cryf a chreadigrwydd.

Dull asesu

Asesir yn barhaus trwy sesiynau crynhoi gweithdai, trafodaethau beirniadol, asesiad ffurfiannol a chrynodol gydag adborth clywedol ac ysgrifenedig.

Gofynion Mynediad

Pwyntiau sgôr tariff a dderbynnir: O leiaf 96 pwynt neu allu portffolio cyfatebol ar gyfer ymgeiswyr hŷn.

Mae angen i bob ymgeisydd llawn amser wneud cais ar-lein drwy UCAS.

Dylai myfyrwyr rhan-amser wneud cais drwy system ymgeisio’r coleg.

Mae Cyfarwyddwyr Rhaglenni yn cyfweld pob ymgeisydd ac yn trafod eich portffolio o waith celf a’ch uchelgeisiau gyda chi. Mae hyn yn rhan hanfodol o'n proses ddethol i sicrhau bod y cwrs yn iawn i chi a'ch bod chi'n iawn ar gyfer y cwrs. 

Costau Ychwanegol

Does dim ffi stiwdio ychwanegol. Fodd bynnag, mae’n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer deunyddiau arbenigol, printio ac ar gyfer teithiau’n gysylltiedig â’r cwrs. 

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.