Skip to main content

Byddwch Actif.

Mae iechyd a lles ein dysgwyr yn flaenoriaeth uchel yng Ngholeg Sir Gâr. Cynlluniwyd y rhaglen Byddwch Actif i ddarparu ystod eang o weithgareddau er mwyn annog ein myfyrwyr i fod yn fwy actif.

Agwedd bwysig y rhaglen yw ei bod wedi’i chynllunio gennych chi, y myfyrwyr, felly y gweithgareddau yw’r pethau rydych chi eisiau eu gwneud. Boed hynny yn dodge ball, Soffa i 5k, sesiynau ffitrwydd yn ein Swît Ffitrwydd, dawns stryd, tenis bwrdd neu yoga – eich dewis chi yw a bydd y tîm Byddwch Actif yn gweithio’n galed i gyflenwi eich awgrymiadau.

Mae Byddwch Actif yn ymwneud â chael hwyl, does dim rhaid iddo fod yn gystadleuol, does dim hyd yn oed rhaid i chi wisgo cit arbennig ac mae’r cwbl yn rhad ac am ddim.

Pa un bynnag gampws rydych chi arno mae’r tîm Byddwch Actif yn awyddus i glywed pa weithgareddau hoffech chi gymryd rhan ynddynt.  Gofynnwch i’ch tiwtor am fwy o wybodaeth neu cysylltwch â’r tîm Byddwch Actif trwy e-bostio

Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Foto: Stephen Thomas
Foto: John Manley
Foto: John Manley

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.