


Cyrsiau Chwaraeon
Croeso i Gyfadran y Diwydiannau Creadigol, Chwaraeon a Gwasanaethau Cymunedol. Mae ein cyfadran amrywiol, alwedigaethol yn cynnig ystod o gyrsiau sy’n cynnwys Celfyddydau Perfformio, Cyfryngau Creadigol, Technoleg Cerdd, Chwaraeon, Gwasanaethau Cyhoeddus, Gwallt a Harddwch.
Wedi eu lleoli ar Gampws y Graig, mae gan ein dysgwyr fynediad i gyfleusterau a chyfarpar o safon ddiwydiannol sy’n cynnwys ein Cae Chwarae 3G, Swît Dadansoddi Chwaraeon a Hwb Perfformiad yn ogystal â’n neuadd chwaraeon a swît ffitrwydd wedi’i chyfarparu’n gyflawn a adeiladwyd yn ddiweddar.
Mae’r darlithwyr yn y maes yn fedrus iawn yn eu pynciau, yn ymgysylltu gyda diwydiant ac yn ymgysylltu ag ef er mwyn sicrhau cwricwlwm cyfredol, perthnasol ac ysbrydoledig sy’n paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i addysg uwch a chyflogaeth.
Mae addysgu a dysgu rhagorol wrth wraidd popeth a gynigiwn ac mae ein cyfadran yn darparu profiad addysgol sy’n herio pob dysgwr i gyrraedd ei lawn botensial.
Mae’r gyfadran yn cynnig ystod eang o gyfleoedd cyfoethogi megis ein hacademi chwaraeon elit a rhaglen Gwobrau Dug Caeredin. Yn ogystal mae dysgwyr yn cael y cyfle i astudio dramor drwy ein prosiect Erasmus llwyddiannus iawn.
Gellir dod o hyd i restr o n cyrsiau isod:


