Mae chwaraeon yn un o feysydd pwnc mwyaf dynamig Coleg Sir Gâr ac rydym yn falch i gynnig rhaglenni gradd cyffrous, arloesol mewn chwaraeon. Mae’r FdSc mewn Hyfforddiant a Pherfformiad Chwaraeon yn rhaglen seiliedig ar waith ymarferol er mwyn paratoi myfyrwyr am yrfa yn y diwydiant chwaraeon.
Mae’r rhaglen hon wedi ei chynllunio i sicrhau profiad dysgu cyfredol a thrwyadl o safbwynt academaidd sy’n bodloni anghenion y diwydiant lleol. Mae gan y rhaglen gysylltiadau cryf â thimau proffesiynol elit megis Y Scarlets a Chlwb Pêl-droed Dinas Abertawe, lle mae gan fyfyrwyr y cyfle i ennill profiad diwydiannol ar y lefel uchaf.
Hefyd mae’r radd yn elwa o gysylltiadau cymunedol a adeiladwyd yn yr adran dros nifer o flynyddoedd, gan leoli myfyrwyr mewn ysgolion lleol gyda swyddogion datblygu chwaraeon NGB sy’n rhoi cipolwg ar lwybrau cyflogaeth posibl.
Yn unigryw mae'r cwrs wedi'i leoli ym mhrifysgol PCYDDS Caerfyrddin a chaiff ei gyflwyno gan Goleg Sir Gâr felly byddwch yn fyfyrwyr PCYDDS ac yn fyfyrwyr Coleg Sir Gâr hefyd.
Llawn Amser / Rhan Amser
2 Flynedd / 4 Blynedd
Campws Graig
Mae'r meysydd astudio yn cynnwys Hyfforddi Chwaraeon, Dadansoddi Chwaraeon a Chryfder a Chyflyru. Hefyd byddwch yn datblygu sgiliau rhyngbersonol trosglwyddadwy fel sgiliau ymchwil uwch, datrys problemau, dysgu annibynnol a sgiliau meddwl yn feirniadol wrth baratoi at yrfa mewn chwaraeon. Mae gan y rhaglen elfen ddysgu’n seiliedig ar waith hefyd fel y gall myfyrwyr ennill profiad hanfodol yn eu maes diddordeb.
Mae'r maes pwnc yn elwa o gael cyfleusterau ardderchog sy'n cynnwys labordy chwaraeon o’r radd flaenaf, swît ddadansoddi, neuadd chwaraeon, swît cryfder a chyflyru ac arwyneb 3G bob tywydd.
Lefel 4
Lefel 5
Bydd myfyrwyr hefyd yn astudio dau Fodiwl Nodweddion Graddedigion PCYDDS - Dysgu yn y Cyfnod Digidol (Lefel 4) a Chreadigrwydd a Chreu Gwerth (Lefel 5)
Mae’r cwrs hwn yn anelu at baratoi myfyrwyr ar gyfer symud ymlaen i’n BSc mewn Hyfforddi a Pherfformiad Chwaraeon (blwyddyn atodol) neu yrfa mewn chwaraeon ac addysg gorfforol.
Gall llwybrau gyrfa posibl gynnwys Gweinyddwr Chwaraeon, Hyfforddwr/Cyfarwyddwr, Swyddog Datblygu, Dadansoddwr Chwaraeon, Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru, Athro Addysg Gorfforol neu Ddarlithydd Coleg.
Gall llwybrau gyrfa amgen gynnwys y gwasanaethau brys, y lluoedd arfog, a gwaith ieuenctid.
Asesir y modiwlau trwy gyfuniad o aseiniadau, astudiaethau achos, llyfrau log ac asesiadau sgiliau ymarferol.
Bydd arnoch angen o leiaf 48 pwynt UCAS, fodd bynnag rydym yn awyddus i farnu pob ymgeisydd ar sail teilyngdod drwy gyfweliad ffurfiol. Rhoddir ystyriaeth yn ogystal i ddysgwyr hŷn sydd â phrofiad perthnasol.
Nid oes ffi ychwanegol, fodd bynnag, mae’n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer cyfarpar personol/cit chwaraeon a theithiau’n berthnasol i’r cwrs.
Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion. Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau.
Dysgwch ragor am y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion