Skip to main content

Disgrifiad o'r Rhaglen

Mae chwaraeon yn un o feysydd pwnc mwyaf dynamig Coleg Sir Gâr ac rydym yn falch i gynnig rhaglenni gradd cyffrous, arloesol mewn chwaraeon. Mae'r BSc atodol blwyddyn mewn Hyfforddiant a Pherfformiad Rygbi wedi'i gynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd eisoes wedi cyflawni Gradd Sylfaen neu 240 credyd mewn disgyblaeth gysylltiedig.

Mae’r rhaglen hon wedi ei chynllunio i sicrhau profiad dysgu cyfredol a thrwyadl o safbwynt academaidd sy’n bodloni anghenion y diwydiant lleol.  Mae gan y rhaglen gysylltiadau cryf â thimau proffesiynol elit megis Y Scarlets a thimau lled-broffesiynol fel Llanymddyfri, Cwins Caerfyrddin a Llanelli lle mae gan fyfyrwyr y cyfle i ennill profiad diwydiannol ar y lefel uchaf. 

Hefyd mae’r radd yn elwa o gysylltiadau cymunedol a adeiladwyd yn yr adran dros nifer o flynyddoedd, gan leoli myfyrwyr mewn ysgolion lleol a gyda swyddogion datblygu rygbi Undeb Rygbi Cymru sy’n rhoi cipolwg ar lwybrau cyflogaeth posibl.

Yn unigryw mae'r cwrs wedi'i leoli ym mhrifysgol PCYDDS Caerfyrddin a chaiff ei gyflwyno gan Goleg Sir Gâr felly byddwch yn fyfyrwyr PCYDDS ac yn fyfyrwyr Coleg Sir Gâr hefyd.

Cipolwg

  Llawn Amser / Rhan Amser

  Blwyddyn yn Llawn amser, 2 flynedd yn Rhan-amser

  UWTSD Caerfyrddin

Nodweddion y Rhaglen

Mae'r meysydd astudio yn cynnwys Hyfforddi Rygbi, Dadansoddi Rygbi a Chryfder a Chyflyru. Hefyd byddwch yn datblygu sgiliau rhyngbersonol trosglwyddadwy fel sgiliau ymchwil uwch, datrys problemau, dysgu annibynnol a sgiliau meddwl yn feirniadol wrth baratoi at yrfa mewn rygbi. Mae gan y rhaglen elfen ddysgu’n seiliedig ar waith hefyd fel y gall myfyrwyr ennill profiad hanfodol yn eu maes diddordeb.

Mae'r maes pwnc yn elwa o gael cyfleusterau ardderchog sy'n cynnwys labordy chwaraeon o’r radd flaenaf, swît ddadansoddi, neuadd chwaraeon, swît cryfder a chyflyru ac arwyneb 3G bob tywydd.

Cynnwys y Rhaglen

Lefel 6

  • Arsylwi a Dadansoddi Perfformiad Rygbi 
  • Hyfforddi Perfformiad Uchel mewn Rygbi
  • Cryfder a Chyflyru 3
  • Dysgu Seiliedig ar Waith 3
  • Astudiaeth Annibynnol

Dilyniant a Chyflogaeth

Mae’r cwrs hwn yn anelu at baratoi myfyrwyr ar gyfer symud ymlaen i yrfa mewn rygbi, chwaraeon ac addysg gorfforol.  Gall llwybrau gyrfa posibl gynnwys Gweinyddwr Rygbi/Chwaraeon, Hyfforddwr, Swyddog Datblygu, Dadansoddwr Rygbi, Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru, Athro Addysg Gorfforol neu Ddarlithydd Coleg.

Gall llwybrau gyrfa amgen gynnwys y gwasanaethau brys, y lluoedd arfog, a gwaith ieuenctid.

Asesu'r Rhaglen

Asesir y modiwlau trwy gyfuniad o aseiniadau, astudiaethau achos, llyfrau log ac asesiadau sgiliau ymarferol.

Gofynion y Rhaglen

Mae hwn yn gwrs blwyddyn sydd wedi'i gynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd wedi cyflawni Gradd Sylfaen neu 240 credyd ar lefel Addysg Uwch (120 ar Lefel 4 a 120 ar Lefel 5) mewn disgyblaeth gysylltiedig.

Costau Ychwanegol

Nid oes ffi ychwanegol, fodd bynnag, mae’n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer cyfarpar personol/cit chwaraeon a theithiau’n berthnasol i’r cwrs.

Fframwaith Priodoleddau Graddedigion


Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion. Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau.

Dysgwch ragor am y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.