Mae’r Diploma Estynedig Cenedlaethol Lefel 3 Pearson BTEC mewn Chwaraeon, Ffitrwydd a Hyfforddiant Personol yn gymhwyster a gydnabyddir gan y diwydiant (CIMSPA/REPS). Mae'n canolbwyntio'n bennaf ar symud ymlaen i gyflogaeth fel hyfforddwr personol ac mae'n cefnogi dysgwyr i sefydlu eu busnes hyfforddiant personol a hyfforddi ymarfer eu hunain.
Bydd gan ddysgwyr hefyd y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i ddarparu sesiynau hyfforddi a rhaglenni hyfforddi i gleientiaid i gyd-fynd â'u hanghenion penodol. Bydd dysgwyr yn ennill gwybodaeth ac arbenigedd ychwanegol sy'n caniatáu iddynt ddarparu gwasanaethau eraill sy’n gysylltieidg â chwaraeon neu ffitrwydd i'r cleientiaid y maent yn eu hyfforddi'n bersonol, megis tylino chwaraeon a phrofion ffitrwydd.
Cewch fynediad i gyfleusterau a chyfarpar safon ddiwydiannol megis ein cae chwarae 4G, neuadd chwaraeon, campfa ffitrwydd, swît ddadansoddi a hwb perfformiad. Hefyd fe’ch anogir i ymgysylltu â’n Hacademïau Chwaraeon sy’n anelu at ddatblygu athletwyr a chwaraewyr mewn ystod o chwaraeon.
Llawn Amser
2 Flynedd
Campws Graig
Mae meysydd astudio yn cynnwys Datblygu Sgiliau Ffitrwydd, Datblygu Sgiliau Hyfforddwr Personol, Maetheg ar gyfer Perfformiad Corfforol a Thylino Chwaraeon Gweithredol.
Byddwch yn datblygu’r sgiliau canlynol:
Mae’r cwrs yn cynnwys 12 uned, a all gynnwys:
Y prif ffocws yw symud ymlaen i gyflogaeth fel hyfforddwr personol ac mae'n cefnogi dysgwyr i sefydlu eu busnes hyfforddiant personol a hyfforddi ymarfer eu hunain.
Gall dysgwyr symud ymlaen o'r cymhwyster hwn i raglenni gradd addysg uwch, fel BA (Anrh) mewn Iechyd a Ffitrwydd a BSc (Anrh) mewn Diet, Ffitrwydd a Lles.
Fel arall, gall dysgwyr symud ymlaen i gymhwyster atgyfeirio meddygol Lefel 4, fel Diploma mewn Atgyfeirio Ymarfer.
Caiff yr holl asesiadau eu cynllunio a'u hasesu'n fewnol, gyda samplo allanol yn digwydd ar gais.
Asesir pob uned i gyrraedd proffil pas, teilyngdod neu ragoriaeth. Rhaid i fyfyrwyr fodloni meini prawf asesu penodol er mwyn cyflawni pob marc.
Bydd angen o leiaf 5 TGAU graddau A*-C/9-4 arnoch, gan gynnwys naill ai Cymraeg (Iaith Gyntaf) neu Saesneg Iaith a Mathemateg. Mae cael TGAU Addysg Gorfforol yn fanteisiol, ond nid yn hanfodol. Derbynnir dilyniannau o Lefel 2 Chwaraeon gyda phroffil TT. Nid yw profiad blaenorol mewn gweithgareddau awyr agored yn hanfodol ond mae awydd i roi cynnig ar weithgareddau newydd yn ddymunol. Asesir pob dysgwr ar sail unigolyn unigol trwy gyfweliad.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a phrynu'r cit awyr agored sylfaenol i'w ddefnyddio mewn gweithgareddau awyr agored a theithiau coleg wythnosol.