Cynlluniwyd y cwrs hwn i’ch ysbrydoli ac i ennyn brwdfrydedd ynoch i ystyried gyrfa yn y sector chwaraeon
Trwy gydol y flwyddyn cewch gyfle i ennill gwybodaeth a dealltwriaeth ehangach am y diwydiant chwaraeon, a fydd yn tanategu ac yn gwella eich sgiliau fel mabolgampwr uchelgeisiol. Ei nod yw eich paratoi ar gyfer cyfleoedd astudio pellach ac mae’n darparu cam ar y ffordd i L3 Chwaraeon, L3 Gwasanaethau Cyhoeddus neu L3 Antur Awyr Agored.
Nod y cwrs yw cysylltu addysg â byd gwaith mewn ffyrdd sy’n ennyn diddordeb, sy’n berthnasol ac yn ymarferol, ochr yn ochr â datblygu sgiliau hanfodol megis llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol. Cewch fynediad i gyfleusterau a chyfarpar safon ddiwydiannol megis ein cae chwarae 4G, ein neuadd chwaraeon a’n swît ffitrwydd. Hefyd fe’ch anogir i ymgysylltu â’n Hacademïau Chwaraeon sy’n anelu at ddatblygu athletwyr a chwaraewyr mewn ystod o chwaraeon.
Llawn Amser
2 Flynedd
Campws Graig
Mae’r meysydd astudio yn cynnwys ffitrwydd ar gyfer chwaraeon ac ymarfer, chwaraeon ymarferol, anatomeg a ffisioleg, ffordd o fyw, lles ac arwain gweithgareddau chwaraeon. Hefyd byddwch yn datblygu sgiliau rhyngbersonol trosglwyddadwy fel gweithio gydag eraill, datrys problemau, astudio annibynnol a sgiliau dysgu/meddwl. Bydd myfyrwyr hefyd yn datblygu sgiliau mewn trefnu, cynllunio dilyniant personol ac ymchwil ar lefel briodol.
Cewch eich gwahodd i gymryd rhan mewn prosiectau gyda chlybiau, ysgolion a grwpiau cymunedol lleol er mwyn cael cipolwg ar gyfleoedd cyflogaeth o fewn y sector. Bydd y cyfle i redeg ac arwain digwyddiadau o’r fath yn datblygu hyder a sgiliau cyfathrebu.
Mae’r cwrs yn cynnwys 12 uned, a all gynnwys:
Hefyd mae’r cwrs yn cynnwys sesiynau datblygu sgiliau a rhaglen diwtorial.
Cynlluniwyd y cwrs hwn i’ch ysbrydoli ac i ennyn brwdfrydedd ynoch i ystyried gyrfa yn y sector chwaraeon
Trwy gydol y flwyddyn cewch gyfle i ennill gwybodaeth a dealltwriaeth ehangach am y diwydiant chwaraeon, a fydd yn tanategu ac yn gwella eich sgiliau fel mabolgampwr uchelgeisiol. Ei nod yw eich paratoi ar gyfer cyfleoedd astudio pellach ac mae’n darparu cam ar y ffordd i L3 Chwaraeon, L3 Gwasanaethau Cyhoeddus neu L3 Antur Awyr Agored.
Nod y cwrs yw cysylltu addysg â byd gwaith mewn ffyrdd sy’n ennyn diddordeb, sy’n berthnasol ac yn ymarferol, ochr yn ochr â datblygu sgiliau hanfodol megis llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol. Cewch fynediad i gyfleusterau a chyfarpar safon ddiwydiannol megis ein cae chwarae 4G, ein neuadd chwaraeon a’n swît ffitrwydd. Hefyd fe’ch anogir i ymgysylltu â’n Hacademïau Chwaraeon sy’n anelu at ddatblygu athletwyr a chwaraewyr mewn ystod o chwaraeon.
Mae’r 2 uned graidd yn cynnwys arholiad ar-lein ac fe’u hasesir yn allanol. Caiff yr asesiadau sy’n weddill eu dyfeisio gan diwtoriaid y cwrs, a’u hasesu’n fewnol.
Asesir pob uned i gyrraedd proffil pas, teilyngdod neu ragoriaeth. Rhaid i fyfyrwyr fodloni meini prawf asesu penodol er mwyn cyflawni pob marc.
Bydd angen o leiaf tri TGAU graddau A*-C arnoch, sy’n cynnwys naill ai Saesneg iaith, Cymraeg (iaith gyntaf) neu fathemateg. Derbynnir dilyniannau o lefel un chwaraeon yn ogystal.
Asesir yr holl fyfyrwyr ar sail unigol a chynigir cyfle iddynt i ddod am gyfweliad.
Mae Saesneg a Mathemateg yn rhan annatod o'r cwrs. Bydd myfyrwyr nad ydynt wedi cael y graddau angenrheidiol ar C neu uwch hyd yn hyn yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio ar gyfer naill ai TGAU, Cymwysterau Agored neu Sgiliau Hanfodol yn dibynnu ar raddau TGAU blaenorol.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Oherwydd y gofynion ffitrwydd ar y cwrs, bydd yn ofynnol i ddysgwyr gael cit chwaraeon. Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.