Mae'r cymhwyster lefel dau hwn wedi'i gynllunio ar gyfer y rheiny sydd ag uchelgais i gael gyrfa yn y diwydiant barbro.
Mae'n cwmpasu'r holl driniaethau barbro sylfaenol a bydd yn rhoi sail dda i chi allu symud ymlaen i gyrsiau pellach. Wrth ddysgu yn salon masnachol y coleg, byddwch yn datblygu’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar gyfer eich llwybr gyrfa fel barbwr.
Yn ystod y cwrs byddwch yn datblygu arbenigedd ymarferol a gwybodaeth hanfodol am y diwydiant.
Mae’r cwrs hwn yn darparu’r cyfleoedd ymarferol i chi gan eich caniatáu i gwblhau eich aseiniadau a rhoi eich sgiliau ar waith mewn amgylchedd salon barbro go iawn.
Drwy gydol y cwrs hwn, byddwch yn cael eich asesu trwy brofion sgiliau ymarferol ac aseiniadau ysgrifenedig a fydd yn rhedeg ochr yn ochr â'r modiwlau rydych yn eu hastudio.
Rhan-amser
1 flwyddyn
Campws y Graig
Mae’r coleg yn rhedeg salon hyfforddi masnachol sy’n agored i’r cyhoedd ac sy’n darparu amgylchedd gwaith go iawn i chi, yn eich caniatáu i gael ymdeimlad o sut y bydd yn teimlo i weithio yn y diwydiant.
Mae yna hefyd bwyslais ar eich cynorthwyo i ddod yn ddysgwr annibynnol trwy gynllunio, gosod targedau a datblygiad unigol.
Byddwch yn rhan o raglen ffyniannus o weithgareddau gan gynnwys teithiau a digwyddiadau ynghyd â chymryd rhan mewn cystadlaethau cenedlaethol sy’n gallu arwain at waith cystadleuaeth rhyngwladol.
Mae hwn yn gwrs rhan-amser a fydd yn cynnwys gweithio un noson yr wythnos yn salon y coleg.
Mae'r cwrs hwn yn cynnwys unedau gorfodol a gyflwynir dros flwyddyn yn rhan-amser:
Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar ddarparu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch er mwyn symud ymlaen i gwrs lefel uwch, prentisiaeth ond yn y pen draw i waith fel barbwr iau.
Mae ymgymryd â’r hyfforddiant cywir ar gychwyn eich gyrfa yn fuddsoddiad hirdymor gwych o ran eich rhagolygon gyrfa.
Bydd cyfleoedd gyrfaol yn eich galluogi i symud ymlaen naill ai i’r cwrs diploma lefel tri neu i mewn i’r salonau masnachol, siopau barbwr neu hunangyflogaeth.
Fel rhan o'r rhaglen hon bydd y dulliau asesu canlynol yn cael eu defnyddio:
Bydd addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn yn cael ei asesu mewn cyfweliad, fodd bynnag, mae angen agwedd gadarnhaol at ddysgu sgil alwedigaethol.
Mae arnom angen o leiaf pedwar TGAU ar raddau A* i D gyda dwy radd C, gydag un naill ai'n Gymraeg (iaith gyntaf) / Saesneg neu fathemateg. Neu rydym yn derbyn cwblhau cymhwyster galwedigaethol lefel un yn llwyddiannus mewn pwnc perthnasol.
Ffi’r cwrs rhan-amser hwn ar hyn o bryd yw £305.
Bydd gennych fynediad i ystod o gyfarpar ac adnoddau yn y coleg ond ar ben hynny, bydd angen prynu cynhyrchion traul ac iwnifform. Rhoddir y wybodaeth hon cyn eich dyddiad cychwyn a gellir rhoi cyngor yn y cyfweliad.
Trefnir amryw deithiau trwy gydol y flwyddyn academaidd sy'n ymwneud â'r diwydiant gwallt, y bydd gofyn i chi dalu cyfraniad tuag atynt.