Mae'r cymhwyster technoleg ewinedd hwn wedi'i gynllunio ar gyfer y rheiny sydd ag uchelgais am yrfa yn y diwydiant therapi harddwch fel technegydd ewinedd cyflogedig neu hunangyflogedig.
Wrth ddysgu yn salon hyfforddi masnachol y coleg, byddwch yn datblygu’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar gyfer eich llwybr gyrfa fel technegydd ewinedd iau.
Yn ystod y cwrs cewch eich helpu i ddatblygu arbenigedd ymarferol a gwybodaeth hanfodol am y diwydiant.
Mae’r cwrs hwn yn darparu cyfleoedd ymarferol i chi sy’n eich caniatáu i gwblhau eich aseiniadau a rhoi eich sgiliau ar waith mewn amgylchedd salon harddwch go iawn.
Drwy gydol y cwrs hwn, byddwch yn cael eich asesu trwy brofion sgiliau ymarferol ac aseiniadau ysgrifenedig a fydd yn rhedeg ochr yn ochr â'r modiwlau rydych yn eu hastudio.
Mae'r cwrs hwn yn cynnwys yr holl elfennau gofynnol i weithio'n effeithiol fel technegydd ewinedd gan gynnwys darparu a chynnal gwelliannau ewinedd, triniaethau i’r dwylo, iechyd a diogelwch, gofal cleientiaid a chelf ewinedd.
Rhan-amser
Blwyddyn
Campws y Graig
Mae’r coleg yn rhedeg salon hyfforddi masnachol sydd yn agored i’r cyhoedd a fydd hwn yn darparu amgylchedd gwaith go iawn i chi, ac yn eich caniatáu i ennill, mewn amgylchedd cefnogol, ymdeimlad o sut y bydd yn teimlo i weithio yn y diwydiant.
Mae yna hefyd bwyslais ar eich cynorthwyo i ddod yn ddysgwr annibynnol trwy gynllunio, gosod targedau a datblygiad unigol.
Byddwch yn cymryd rhan mewn rhaglen ffyniannus o weithgareddau gan gynnwys teithiau a digwyddiadau ynghyd â chymryd rhan mewn cystadlaethau cenedlaethol gyda’r posibilrwydd o symud ymlaen i gystadlaethau rhyngwladol trwy WorldSkills y DU.
Mae'r cymhwyster hwn yn seiliedig ar safonau galwedigaethol cenedlaethol gwasanaethau ewinedd ac fe'i cydnabyddir gan gyrff proffesiynol blaenllaw'r DU fel un sy'n addas at y pwrpas o baratoi dysgwyr ar gyfer gyrfa fel technegydd ewinedd iau.
Bydd y cwrs yn cychwyn ym mis Medi gyda dyddiad cychwyn arall ym mis Chwefror a fydd yn cymryd 15 wythnos i'w gwblhau.
Bydd yn ofynnol i chi fynychu'r coleg am un noson yr wythnos ar ddydd Mercher, o 6pm i 9pm.
Mae'r cwrs hwn yn cynnwys unedau gorfodol a gyflwynir dros 15 wythnos:
Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar roi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch er mwyn symud ymlaen i gyrsiau lefelau uwch, prentisiaethau ac yn y pen draw i fyd gwaith fel technegydd ewinedd iau.
Mae ymgymryd â’r hyfforddiant cywir ar gychwyn eich gyrfa yn fuddsoddiad hirdymor gwych o ran eich rhagolygon gyrfa.
Gall cyfleoedd dilyniant eich arwain at gwrs lefel tri neu i mewn i salonau ewinedd neu harddwch masnachol, llongau mordeithio a hunangyflogaeth ac mae cymorth entrepreneuraidd ar gael yn y coleg i'r rheiny sy'n dymuno archwilio'r opsiwn hwn.
Fel rhan o'r rhaglen hon bydd y dulliau asesu canlynol yn cael eu defnyddio:
Bydd addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn yn cael ei asesu mewn cyfweliad ac mae’n bosib y bydd angen i chi gymryd prawf deheurwydd.
Mae angen agwedd gadarnhaol at ddysgu sgil alwedigaethol ac mae’n rhaid i chi fod yn awyddus i weithio gyda’r cyhoedd a meddu ar agwedd broffesiynol.
Mae arnom angen o leiaf pedwar TGAU ar raddau A* i D gyda dwy radd C, gydag un naill ai'n Gymraeg (iaith gyntaf) / Saesneg neu fathemateg. Neu rydym yn derbyn cwblhau cymhwyster galwedigaethol lefel un yn llwyddiannus mewn pwnc perthnasol.
Ffi’r cwrs rhan-amser hwn ar hyn o bryd yw £230.
Bydd gennych fynediad i ystod o gyfarpar ac adnoddau yn y coleg ond ar ben hynny, bydd angen prynu cynhyrchion traul ac iwnifform. Rhoddir y wybodaeth hon cyn eich dyddiad cychwyn a gellir rhoi cyngor yn y cyfweliad.