Mae’r cymhwyster lefel un hwn yn gwrs rhagflas cyffrous a fydd yn rhoi cipolwg i chi ar fyd y diwydiant harddwch.
Wrth ddysgu yn salon hyfforddi’r coleg, byddwch yn datblygu’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar gyfer eich llwybr gyrfa fel therapydd harddwch.
Mae’r cwrs hwn yn darparu cyfleoedd ymarferol i chi sy’n eich caniatáu i gwblhau eich aseiniadau a rhoi eich sgiliau ar waith mewn amgylchedd salon harddwch go iawn.
Drwy gydol y cwrs hwn, byddwch yn cael eich asesu trwy brofion sgiliau ymarferol ac aseiniadau ysgrifenedig a fydd yn rhedeg ochr yn ochr â'r modiwlau rydych yn eu hastudio.
Fel rhan o’r cwrs, mae’n ofynnol i chi ymgymryd â phrofiad gwaith a fydd yn eich caniatáu i ddefnyddio’r sgiliau trosglwyddadwy y byddwch yn eu dysgu yn y coleg.
Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer rhai sy’n gadael ysgol sydd â diddordeb mewn gyrfa fel harddwr/harddwraig ac mae’r cymhwyster yn rhoi dealltwriaeth gadarn am yr hyn sy'n gysylltiedig â’r sector harddwch.
Llawn Amser
1 flwyddyn
Campws Graig
Mae gan y coleg salon gweithredol sydd yn agored i’r cyhoedd, sy’n darparu amgylchedd gwaith go iawn i chi, ac yn caniatáu i chi gael ymdeimlad o sut y bydd yn teimlo i weithio yn y diwydiant.
Mae yna bwyslais ar eich cynorthwyo i ddod yn ddysgwr annibynnol trwy gynllunio, gosod targedau a datblygiad unigol.
Mae gan fyfyrwyr raglen ffyniannus o weithgareddau, teithiau a digwyddiadau sy’n cynnwys cymryd rhan mewn cystadlaethau cenedlaethol gyda llwybrau dilyniant i gystadlaethau rhyngwladol.
Cewch eich gwahodd i gymryd rhan mewn prosiectau gyda chlybiau, ysgolion a grwpiau cymunedol lleol er mwyn cael cipolwg ar gyfleoedd cyflogaeth o fewn y sector. Bydd y cyfle i redeg ac arwain digwyddiadau o’r fath yn datblygu hyder a sgiliau cyfathrebu.
Ochr yn ochr â’ch cymhwyster harddwch, cewch gyfle i wella eich graddau naill ai drwy ailsefyll pynciau TGAU neu Sgiliau Hanfodol mewn llythrennedd a rhifedd, a fydd yn eich galluogi i symud ymlaen i gyrsiau pellach yn ogystal â chynyddu eich hyder mewn opsiynau gyrfaol.
Pan fyddwch wedi cwblhau’r cymhwyster hwn yn llwyddiannus, cewch y cyfle i symud ymlaen i’r cymwysterau VTCT canlynol: •
Therapi Harddwch Lefel 2
Therapi Harddwch Lefel 2 - Colur
Gwasanaethau Ewinedd Lefel 2
Diploma Lefel 1 mewn Therapi Harddwch
Arsylwadau ymarferol mewn amgylchedd gwaith go iawn
Aseiniadau ysgrifenedig
Cwestiynu llafar
Arholiadau ar-lein
Bydd addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn yn cael ei asesu mewn cyfweliad a thrwy brawf sgiliau ymarferol.
Byddwch angen:
Agwedd gadarnhaol at ddysgu sgil alwedigaethol
O leiaf 4 TGAU graddau D-G sy’n cynnwys Cymraeg (iaith gyntaf) neu Saesneg, bydd mathemateg a gwyddoniaeth o fantais.
Mae Saesneg a Mathemateg yn rhan annatod o'r cwrs. Bydd myfyrwyr nad ydynt hyd yn hyn wedi cael y graddau C neu uwch angenrheidiol yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio ar gyfer naill ai TGAU neu Sgiliau Hanfodol, gan ddibynnu ar raddau TGAU blaenorol.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd gennych fynediad i ystod o gyfarpar ac adnoddau ond ar ben hynny, bydd angen prynu cynhyrchion traul ac iwnifform. Rhoddir y wybodaeth hon cyn eich dyddiad cychwyn.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol sy’n ymwneud â’ch cwrs.