


Clearing slider

Clearing slider

Clirio 2021
TEITL Y CWRS | HYD | CÔD UCAS | |
---|---|---|---|
Gradd Sylfaen mewn Astudiaethau Gofal Cymdeithasol | 2 years | L500 | Gweld Gwybodaeth am y Cwrs |
Tystysgrif AU mewn Dylunio 3D a Rhith-wirionedd | Blwyddyn | CA3D | Gweld Gwybodaeth am y Cwrs |
Tystysgrif AU mewn Celf a Dylunio Amlddisgyblaethol | Blwyddyn | CAMU | Gweld Gwybodaeth am y Cwrs |
Tystysgrif AU mewn Cerameg a Gemwaith: Gwneuthurwr 3D | Blwyddyn | CACJ | Gweld Gwybodaeth am y Cwrs |
Tystysgrif AU mewn Celf Gysyniadol a Darlunio | Blwyddyn | CACA | Gweld Gwybodaeth am y Cwrs |
Tystysgrif AU mewn Cerflunio: Castio, Cerfio, Llunio | Blwyddyn | CASC | Gweld Gwybodaeth am y Cwrs |
Tystysgrif AU mewn Ffotograffiaeth | Blwyddyn | CAPH | Gweld Gwybodaeth am y Cwrs |
Tystysgrif AU mewn Ffasiwn: Dylunio a Llunio | Blwyddyn | CAPD | Gweld Gwybodaeth am y Cwrs |
Tystysgrif AU mewn Celfyddyd Gain: Peintio, Lluniadu a Gwneud Printiau | Blwyddyn | CAFC | Gweld Gwybodaeth am y Cwrs |
Tystysgrif AU Tecstilau: Gwau, Gwehyddu a Chyfryngau Cymysg | Blwyddyn | CATX | Gweld Gwybodaeth am y Cwrs |
Peirianneg Fecanyddol | 1 year | 8N50 | Gweld Gwybodaeth am y Cwrs |
Gradd Sylfaen mewn Astudiaethau Plentyndod (FdSc/CStud) | 2 years | L521 | Gweld Gwybodaeth am y Cwrs |
Astudiaethau Gofal Cymdeithasol (BASCS) | 1 year | 3D4C | Gweld Gwybodaeth am y Cwrs |
Gradd Sylfaen mewn Cynghori (FdCoun) | 2 years | B23K | Gweld Gwybodaeth am y Cwrs |
Cynghori (BSc Coun) | 1 year | P85G | Gweld Gwybodaeth am y Cwrs |
BA (Anrh) mewn Dylunio 3D a Rhith-wirionedd (BA Anrh) | 3 Years | W290 | Gweld Gwybodaeth am y Cwrs |
Celf a Dylunio Amlddisgyblaethol (BA/A&D) | 3 years | W000 | Gweld Gwybodaeth am y Cwrs |
Cerameg a Gemwaith: Gwneuthurwr 3D (BA/TDDMCP) | 3 years | WW27 | Gweld Gwybodaeth am y Cwrs |
BA (Anrh) Celf Gysyniadol a Darlunio (BA Anrh) | 3 years | W221 | Gweld Gwybodaeth am y Cwrs |
Ffasiwn: Dylunio A Llunio Dillad (BA/FADC) | 3 years | W2H0 | Gweld Gwybodaeth am y Cwrs |
Celfyddyd Gain: Peintio, Lluniadu a Gwneud Printiau (BA/FAPDP) | 3 years | W101 | Gweld Gwybodaeth am y Cwrs |
Ffotograffiaeth (BA/PHO) | 3 years | W640 | Gweld Gwybodaeth am y Cwrs |
Cerflunio: Castio, Cerfio, Llunio (BA/FAS) | 3 years | W130 | Gweld Gwybodaeth am y Cwrs |
Tecstilau: Gwau, Gwehyddu a Chyfryngau Cymysg (BA/TADC) | 3 years | W232 | Gweld Gwybodaeth am y Cwrs |
Gradd Sylfaen mewn Amaethyddiaeth (FdscAmaeth) | 2 Years | 3H2W | Gweld Gwybodaeth am y Cwrs |
Gradd Sylfaen mewn Amaethyddiaeth (FdSc Agri) | 2 Years | 3H2F | Gweld Gwybodaeth am y Cwrs |
Amaethyddiaeth (BSc Agri) | 3 Years | G4HW | Gweld Gwybodaeth am y Cwrs |
Amaethyddiaeth | 1 Year | G4HT | Gweld Gwybodaeth am y Cwrs |
Gradd Sylfaen Gwyddor Anifeiliaid (Animal Sci) | 2 years | 73B8 | Gweld Gwybodaeth am y Cwrs |
HND Cyfrifiadura Cymhwysol (HND A Comp) | 2 years | 8N49 | Gweld Gwybodaeth am y Cwrs |
Cyfrifiadura Cymhwysol (BSc A Comp) | 3 years | 2D3T | Gweld Gwybodaeth am y Cwrs |
Hyfforddiant a Pherfformiad Pel Droed (FD FOOT) | 2 years | CC60 | Gweld Gwybodaeth am y Cwrs |
Hyfforddiant a Pherfformiad Pel Droed Top-Up (BSC Foot) | 1 year | CC61 | Gweld Gwybodaeth am y Cwrs |
Hyfforddiant a Pherfformiad Rygbi (FD Rugby) | 2 years | C60C | Gweld Gwybodaeth am y Cwrs |
Hyfforddiant a Pherfformiad Rygbi Top-Up (BSC Rugby) | 1 year | C61C | Gweld Gwybodaeth am y Cwrs |
Gradd Sylfaen Hyfforddiant a Pherfformiad Chwaraeon (FdSc/SCP) | 2 years | C611 | Gweld Gwybodaeth am y Cwrs |
Gradd Sylfaen Hyfforddiant a Pherfformiad Chwaraeon Top-Up (BSc/SCP) | 1 year | CX6C | Gweld Gwybodaeth am y Cwrs |
Gradd Sylfaen Gwyddor Anifeiliaid | 2 years | 73B8 | Gweld Gwybodaeth am y Cwrs |
BSc (Anrh) Ymddygiad a Lles Anifeiliaid (BSc Animal) | 3 years | 02XD | Gweld Gwybodaeth am y Cwrs |
Ymddygiad a Lles Anifeiliaid Top-Up (BSc Animal) | 1 year | 02XX | Gweld Gwybodaeth am y Cwrs |
Gradd Sylfaen Perfformiad Chwaraeon Ceffylau (FdSc) | 2 years | 73E1 | Gweld Gwybodaeth am y Cwrs |
Dewch I Wybod Mwy am ein Coleg
FAQs
Beth yw Clirio?
Clirio yw'r broses lle gall myfyrwyr wneud cais uniongyrchol i'w prifysgol neu'u coleg dewisol am gwrs. Dim ond unwaith y flwyddyn y bydd clirio yn digwydd ac mae'n dechrau ar y diwrnod y daw'r canlyniadau Safon Uwch allan ac yn para tan ganol mis Medi.
Ar gyfer pwy y mae Clirio?
Mae clirio ar eich cyfer chi os yw eich opsiynau gwreiddiol wedi cael eu cau i lawr, naill ai oherwydd bod eich prifysgolion dewis pendant a dewis yswiriant wedi'ch gwrthod, oherwydd bod eich canlyniadau yn is na'r disgwyl, neu oherwydd eich bod wedi gwrthod pob cynnig, o bosibl oherwydd bod eich canlyniadau yn well na'r disgwyl. Yn y bôn, mae Clirio yn golygu chwilio o'r newydd ar ddalen lân o bapur. Ni allwch gadw eich opsiynau gwreiddiol ar agor a mynd i'r system Glirio. Mae pobl yr oedd eu ceisiadau UCAS gwreiddiol yn rhy hwyr hefyd yn mynd yn syth i'r system Glirio.
Sut wyf yn gwybod os wyf yn gymwys?
Y lle gorau i wirio eich statws yw'r system Track ar y safle UCAS - http://www.ucas.com/. Bydd Track yn sylwi'n awtomatig os ydych yn ffitio'r bil Clirio a bydd yn dangos eich rhif Clirio.
Pa gyrsiau gallaf eu hystyried?
Unrhyw rai yr ydych yn eu hoffi. Mae hyn yn ddechrau newydd. Nid oes rhaid i chi gyfyngu eich hun i bynciau a chyrsiau sydd yn debyg i'ch dewisiadau gwreiddiol. Fodd bynnag, bydd angen i chi ddod i benderfyniad ynglŷn â pha fath o gwrs rydych chi'n anelu ato. I wneud hyn, siaradwch am y peth gydag athrawon neu ymgynghorwyr gyrfa yn yr ysgol neu'r coleg.
Beth yw Clirio ac Addasu?
Bob blwyddyn bydd rhai ymgeiswyr yn cael canlyniadau arholiad gwell na'r disgwyl. Mae'r Cyfnod Addasu yn caniatáu i ymgeiswyr sydd wedi bodloni a rhagori ar amodau eu cynnig dewis pendant i ailystyried ble a beth y maent am astudio. Mae hyn yn golygu y gallwn roi ystyriaeth i chi am le, ar gwrs sydd â lleoedd gwag, tra byddwch yn cadw eich cynnig yn eich sefydliad dewisol. Byddwch dim ond yn colli eich cynnig gwreiddiol yn eich sefydliad dewisol gwreiddiol pan fyddwch yn derbyn cynnig mewn sefydliad arall yn ffurfiol, o fewn y cyfnod addasu o 5 diwrnod.
Mae Addasu ar gael o'r diwrnod canlyniadau Safon Uwch tan 1 Medi. Mae cyfnod Addasu unigolyn (5 diwrnod calendr) yn dechrau pan fydd ei ddewis pendant amodol (CF) yn newid i ddewis pendant diamod (UF).
Am ragor o fanylion am y Cyfnod Addasu ac i gofrestru am Addasu ewch i'r wefan UCAS.
Ni wnes i gais i brifysgol neu goleg ac mae fy nghanlyniadau yn dda iawn ac rwyf am fynd nawr - beth ddylwn ei wneud?
Y peth pwysig i'w gofio yw bod modd i chi ein ffonio ni'n uniongyrchol yng Ngholeg Sir Gâr a llawer o brifysgolion a cholegau eraill o 16eg Awst er mwyn gweld beth sydd ar gael, felly mae'n werth meddwl am pa fath o gwrs yr ydych eisiau ei wneud a ble. Yna codwch y ffôn - mae gan wefan UCAS ganllaw i Glirio ar http://www.ucas.com/ neu cymerwch olwg drwy'r wefan hon i weld beth sydd ar gael ar Colegsirgar.ac.uk
Beth fydd yn digwydd pan fyddaf yn ffonio?
Os byddwch yn ffonio'r Coleg byddwch yn siarad yn gyntaf â'r staff Derbyn a fydd wedyn yn eich rhoi drwodd i'r aelod o staff academaidd yn y maes pwnc yr ydych eisiau ei astudio. Byddant yn gallu rhoi cyngor i chi ac yn y rhan fwyaf o achosion byddant yn gallu rhoi penderfyniad i chi ar unwaith. Ond peidiwch â theimlo dan bwysau i dderbyn y cynnig cyntaf yr ydych yn ei gael. Gallwch bob amser esbonio eich bod yn edrych ar rai opsiynau eraill a gwneud trefniant i ffonio nôl yn nes ymlaen. Yng Ngholeg Sir Gâr rydym yn gwybod bod myfyrwyr yn gorfod pwyso a mesur y gwahanol bosibiliadau ar y cam hwn ac mae er budd pawb bod pobl yn dewis y cyrsiau sydd fwyaf addas iddynt.
Cysylltwch â ni ar 01554 748174
Pa mor hir y mae'r llinellau ffôn ar agor?
Byddwch yn gallu cysylltu â'r Uned Dderbyn ar yr adegau canlynol:
Dydd Llun i ddydd Iau o 8.45am - 5pm
ac ar ddydd Gwener 8.45am – 4.30pm
Alla i anfon e-bost atoch?
Gallwch - anfonwch e-bost atom i'r cyfeiriad hwn: Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Cofiwch gynnwys y gair Clirio yn nhestun yr e-bost.
Ni chefais y graddau ar gyfer y cwrs y gwnes gais amdano ac rwyf yn edrych o gwmpas. Beth ddylwn i wneud?
Yn gyntaf gwiriwch gyda'ch prifysgol neu'ch coleg dewisol i gadarnhau nad ydynt yn cynnig lle i chi - peidiwch â chymryd yn ganiataol nad fyddant yn eich derbyn dim ond am nad ydych wedi cael y graddau. Os na fyddant yn eich derbyn, yna bydd angen i chi chwilio am gyrsiau eraill i'w hastudio, efallai mewn prifysgol wahanol, a ffonio o gwmpas. Un peth defnyddiol i'w gofio pan fyddwch yn ffonio yw cael eich rhif Clirio wrth law.
Rwyf wedi gwneud yr alwad ffôn ac rwyf wedi cael cynnig lle. Beth sydd yn digwydd nawr?
Byddwn yn anfon llythyr atoch yn syth yn cadarnhau eich lle ac yn gofyn i chi anfon eich ffurflen gais Glirio wreiddiol, os oes gennych un, nôl atom. Os nad ydych eisoes wedi gwneud cais i UCAS eleni, byddwn yn anfon ffurflen Cofnod o Dderbyniad Blaenorol (Record of Prior Acceptance) UCAS atoch er mwyn i chi ei llenwi a'i dychwelyd i ni.
Beth yw eich Côd UCAS?
Coleg Sir Gâr/Carmarthenshire College Côd – C22
Methu Dod O Hyd I Ateb?
Cysylltwch â Ni ar 01554 748174 neu Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
