Mae'r rhaglen lefel 1 hon yn cyflwyno myfyrwyr i sgiliau trydanol cyffredinol. Mae'n caniatáu i fyfyrwyr ddysgu, datblygu ac ymarfer y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cael gwaith a/neu ddilyniant gyrfa fel trydanwr. Byddwch yn ymgymryd ag amrywiaeth o weithgareddau cysylltiedig â gwaith trydanol i gynnwys gweithio gyda cheblau, gosod platiau socedi a switshis golau a chynhyrchu diagramau cylched.
Cipolwg
Llawn Amser
1 flwyddyn
Campws Rhydaman
Nodweddion y Rhaglen
Cynlluniwyd y cwrs hwn i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth myfyrwyr gan eu galluogi i symud ymlaen i’r diwydiant yn eu crefft ddewisol.
Datblygwyd ef yn benodol i'w gyflwyno mewn amgylchedd hyfforddi gan ddefnyddio amodau ffug ac mae'r profion wedi’u seilio ar y dysgwr yn dangos yr hyn y gall ei wneud fel unigolyn.
Caiff y cwrs ei gyflwyno gan staff tra chymwys a phrofiadol gan ddefnyddio cyfleusterau modern. Hefyd, fel rhan o’r rhaglen, bydd dysgwyr yn cwblhau sgiliau hanfodol neu sylfaenol.
Darperir cyfleoedd yn ogystal i sefyll TGAU mewn Cymraeg, Saesneg a mathemateg ac i ddatblygu'r iaith Gymraeg.
Cynnwys y Rhaglen
Bydd pob dysgwr yn cwblhau uned cyflwyniad i iechyd a diogelwch orfodol, unedau diwydiant cyffredinol a chymysgedd o unedau trydanol a gwaith plymwr penodol i'r grefft.
Dilyniant a Chyflogaeth
Mae cyfleoedd ar gyfer dilyniant yn cynnwys prentisiaethau neu gymwysterau llawn amser eraill sy’n gysylltiedig ag adeiladu a fydd yn darparu datblygiad pellach a dealltwriaeth o grefftau yn y diwydiant adeiladu.
Asesu'r Rhaglen
Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu sy'n cynnwys cwestiynau gwybodaeth ysgrifenedig, profion ar-lein a phrofion sgiliau ymarferol.
Gofynion y Rhaglen
TGAU graddau A* i G mewn Saesneg neu Gymraeg (iaith gyntaf) a mathemateg neu Adeiladu’r Amgylchedd Adeiledig L1/2 CBAC neu fyfyriwr hŷn. Yn ogystal, bydd angen i ymgeiswyr fynychu cyfweliad llwyddiannus. Dylai ymgeiswyr fod â diddordeb hefyd yn y grefft ddewisol a byddai tystiolaeth o allu ymarferol yn fantais.
Costau Ychwanegol
Bydd angen i fyfyrwyr ddod o hyd i, a phrynu, eu cyfarpar diogelu personol (PPE) eu hunain sy'n cynnwys bŵts diogelwch, sbectol diogelwch, het galed a dillad llachar.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau ychwanegol os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.