Mae’r cwrs hwn yn brentisiaeth lefel tri sydd wedi cael ei ddatblygu i ganiatáu i’r rheiny sydd mewn dysgu’n seiliedig ar waith i arddangos a gwella eu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth galwedigaethol mewn crefft adeiladu o’u dewis. Mae’r brentisiaeth yn caniatáu i ddysgwyr arddangos ystod eu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth galwedigaethol naill ai mewn gwaith plymwr a gwresogi neu lwybrau gosodiadau electrodechnegol.
Mae’r cwrs wedi’i anelu at ddysgwyr sydd naill ai wedi cyflawni’r lefel dau sylfaen mewn adeiladu a pheirianneg gwasanaethau adeiladu neu byddan nhw’n cwblhau’r dysgu a’r asesiadau lefel dau craidd mewn adeiladu a pheirianneg gwasanaethau adeiladu tra ar eu prentisiaeth.
Pan gaiff ei gymryd fel rhan o brentisiaeth bydd y cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i gael eu profi’n gymwys i gael cyflogaeth yn eu crefft ddewisol yn ogystal â mynd ymlaen i astudio cyrsiau adeiladu lefel tri eraill sy’n berthnasol i’w crefft ddewisol.
Opsiynau:
Llawn Amser
18 Mis
Campws Rhydaman
Fel prentis, neilltuir ymgynghorydd hyfforddi i chi a fydd yn cadw golwg arnoch ac yn rhoi cymorth i chi ar hyd eich taith ar y fframwaith hwn, gan weithio’n agos gyda’ch cyflogwr a’ch tiwtoriaid yn y coleg.
Disgwylir i chi fynychu’r coleg i ddysgu eich gwybodaeth greiddiol. Hefyd cynhelir asesiadau yn y coleg a’r gweithle’n rheolaidd. Mae'r cwrs hwn yn seiliedig ar waith ymarferol a theori hefyd
Bydd dysgwyr yn datblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u dealltwriaeth o’u crefft peirianneg gwasanaethau adeiladu ddewisol fel y ceir yn y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol.
Yn ogystal bydd dysgwyr yn cwblhau dwy uned graidd yn cwmpasu’r sector peirianneg gwasanaethau adeiladu ac ymarfer yn y sector yng Nghymru.
Bydd y cymhwyster yn gludadwy ar draws y DU ac mae wedi’i anelu at ddatblygu gallu dysgwyr i ateb gofynion y sector peirianneg gwasanaethau adeiladu yng Nghymru.
Ar gwblhau, bydd y cymhwyster yn darparu’r sgiliau a’r wybodaeth sy’n ofynnol i’r dysgwr allu gweithio yn y crefftau gwresogi ac awyru neu’r crefftau gosodiadau electrodechnegol ar draws y DU.
Mae’r gwahanol bwyntiau mynediad i’r cymhwyster hwn yn golygu bod y llwybrau asesu’n amrywio.
Hefyd mae’n bosibl y bydd rhaid i’r dysgwr gymryd y dysgu a’r asesiadau lefel dau sylfaen mewn adeiladu a pheirianneg gwasanaethau adeiladu tra ar ei brentisiaeth os nas cyflawnwyd eisoes.
Os yw’r dysgwr wedi cyflawni’r dilyniant lefel dau mewn peirianneg gwasanaethau adeiladu yn yr un llwybr crefft, mae rhaid iddo gwblhau’n llwyddiannus:
Os yw’r dysgwr yn cymryd y cymhwyster lefel tri hwn fel rhan o’i brentisiaeth heb yn gyntaf gyflawni’r dilyniant lefel dau mewn peirianneg gwasanaethau adeiladu yn yr un llwybr crefft mae rhaid iddo gwblhau’n llwyddiannus:
Dull Asesu (Gwaith Plymwr a Gwresogi)
Mae’r gwahanol bwyntiau mynediad i’r cymhwyster hwn yn golygu bod y llwybrau asesu’n amrywio.
Hefyd mae’n bosibl y bydd rhaid i’r dysgwr gymryd y dysgu a’r asesiadau lefel dau sylfaen mewn adeiladu a pheirianneg gwasanaethau adeiladu tra ar ei brentisiaeth os nas cyflawnwyd eisoes.
Os yw’r dysgwr wedi cyflawni’r dilyniant lefel dau mewn peirianneg gwasanaethau adeiladu yn yr un llwybr crefft mae rhaid iddo gwblhau’n llwyddiannus:
Os yw’r dysgwr yn cymryd y cymhwyster lefel tri hwn fel rhan o’i brentisiaeth heb yn gyntaf gyflawni’r dilyniant lefel dau mewn peirianneg gwasanaethau adeiladu yn yr un llwybr crefft, mae rhaid iddo gwblhau’n llwyddiannus:
Bydd angen i fyfyrwyr ddod o hyd i, a phrynu, eu cyfarpar diogelu personol (PPE) eu hunain sy'n cynnwys bŵts diogelwch, sbectol diogelwch, het galed a dillad llachar.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau ychwanegol os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.