Prentisiaethau L3 mewn Crefftau Adeiladu
Cipolwg
-
Rhan - Amser
-
1-2 flynedd
-
Campws Rhydaman
Mae prentisiaeth lefel tri City & Guilds mewn crefftau adeiladu wedi’i datblygu i ganiatáu i’r rheiny sydd mewn dysgu seiliedig ar waith ddangos a gwella eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u dealltwriaeth alwedigaethol o fewn crefft adeiladu o’u dewis.
Mae wedi’i anelu at ddysgwyr sydd naill ai wedi cyflawni’r lefel dau sylfaen mewn adeiladu a pheirianneg gwasanaethau adeiladu neu byddan nhw’n cwblhau’r dysgu a’r asesiadau lefel dau craidd mewn adeiladu a pheirianneg gwasanaethau adeiladu tra ar eu prentisiaeth.
Pan gaiff ei gymryd fel rhan o brentisiaeth, bydd y cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i gael eu profi’n gymwys i gael cyflogaeth yn eu crefft ddewisol yn ogystal â mynd ymlaen i astudio cyrsiau adeiladu lefel tri eraill sy’n berthnasol i’w crefft ddewisol.
Dewisiadau Opsiwn
- Gwaith Saer ar Safle
- Gosod Brics
- Paentio ac Addurno
- Plastro
Fel prentis, neilltuir ymgynghorydd hyfforddi i chi a fydd yn cadw golwg arnoch ac yn eich cefnogi ar hyd eich taith ar y fframwaith hwn, gan weithio’n agos gyda’ch cyflogwr a’ch tiwtoriaid yn y coleg.
Disgwylir i chi fynychu’r coleg i ddysgu gwybodaeth greiddiol. Hefyd cynhelir asesiadau yn y coleg a’r gweithle’n rheolaidd. Mae'r cwrs hwn yn seiliedig ar waith ymarferol a theori hefyd.
Bydd dysgwyr yn datblygu eu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth yn eu crefft ddewisol fel y ceir yn y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol.
Yn ogystal bydd dysgwyr yn cwblhau dwy uned graidd yn cwmpasu’r sector adeiladu ac ymarfer yn y sector yng Nghymru. Bydd y cymhwyster yn drosglwyddadwy ar draws y DU ac mae wedi’i anelu at ddatblygu gallu dysgwyr i ateb gofynion y sector adeiladu yng Nghymru, gan gynnwys gweithio gyda stoc adeiladau traddodiadol, newydd a chyn 1919 a deall technolegau newydd a datblygol, megis dronau ac argraffu 3D.
Ar gwblhau, bydd y cymhwyster yn rhoi i’r dysgwyr y sgiliau a’r wybodaeth sy’n ofynnol i’r dysgwr allu gweithio yn ei grefft ddewisol ar draws y DU.
Mae’r gwahanol bwyntiau mynediad i’r cymhwyster hwn yn golygu bod y llwybrau asesu’n amrywio.
Os yw’r dysgwr wedi cyflawni’r cymwysterau sylfaen a dilyniant, mae rhaid iddo gwblhau’n llwyddiannus:
- Un prawf aml-ddewis, wedi’i osod a’i farcio’n allanol.
- Un prosiect wedi’i osod gan y cyflogwr a’i asesu’n fewnol, yn cwmpasu ei faes crefft dewisol.
- Un drafodaeth broffesiynol wedi’i marcio’n allanol.
Os yw’r dysgwr wedi cyflawni’r cymhwyster sylfaen ond nid yw wedi cwblhau’r cymhwyster dilyniant, mae rhaid iddo gwblhau’n llwyddiannus:
- Dau brawf aml-ddewis, wedi’u gosod a’u marcio’n allanol.
- Un prosiect wedi’i osod gan y cyflogwr a’i asesu’n fewnol, yn cwmpasu ei faes crefft dewisol.
- Un drafodaeth broffesiynol wedi’i marcio’n allanol.
Os yw’r dysgwr yn dilyn y cymhwyster lefel tri hwn fel rhan o’i brentisiaeth heb yn gyntaf gyflawni’r cymhwyster sylfaen neu gymhwyster dilyniant, mae rhaid iddo gwblhau’n llwyddiannus:
- Tri phrawf aml-ddewis, wedi’u gosod a’u marcio’n allanol.
- Un prosiect wedi’i osod yn allanol a’i farcio’n fewnol.
- Un drafodaeth dan arweiniad wedi’i marcio’n fewnol.
- Un prosiect wedi’i osod gan y cyflogwr a’i asesu’n fewnol, yn cwmpasu ei faes crefft dewisol.
- Un drafodaeth broffesiynol wedi’i marcio’n allanol.
- Dylai dysgwyr for yn 16 oed a hŷn ac yn gweithio yn y sector adeiladu ar hyn o bryd.
- TGAU graddau A* i D mewn Saesneg neu Gymraeg (iaith gyntaf) a mathemateg neu gymhwyster lefel un cysylltiedig ag adeiladu neu L1/2 CBAC Adeiladu’r Amgylchedd Adeiledig neu lefel dau Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu neu lefel dau Dilyniant mewn Adeiladu.
- Croesewir ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn.
- Yn ogystal bydd angen i ymgeiswyr fynychu cyfweliad llwyddiannus.
Bydd angen i fyfyrwyr ddod o hyd i, a phrynu, eu cyfarpar diogelu personol (PPE) eu hunain sy'n cynnwys bŵts diogelwch, sbectol diogelwch, het galed a dillad llachar.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau ychwanegol os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.