Lle mae eraill yn gweld risg, rydych chi’n gweld cyfle.
Rydych yn ffynnu ar newid.
Rydych yn dychmygu posibiliadau newydd: datrysiadau, cynhyrchion, y syniad mawr nesaf!
Nid yw dilyn eich cysyniad yn ddewis; mae'n gred ddwys sy'n eich dilyn chi i bobman.Ymddiriedwch yn y reddf honno.Porthwch hi.
P’un a ydych chi’n lansio menter newydd, neu’n ymuno â busnes sy’n dod i’r amlwg, rydych wedi dod i’r lle iawn.
Ymunwch â chymuned ddysgu wirioneddol fywiog.
Yn ychwanegol at ystod eang o gyfleoedd byddwn yn eich cefnogi i gael cyhoeddusrwydd, ennill sgiliau a chael profiad byd go iawn mewn dechrau busnes.Rydym yn cynnig hacathonau amlddisgyblaethol, mentora gan arbenigwyr yn y diwydiant, cyllid i ddechrau busnes, cystadlaethau a digwyddiadau gyda’n rhwydwaith entrepreneuraidd helaeth.
Siop entomoleg ar-lein yw Bug Box www.bugboxuk.co.ukMae Bug Box yn mewnforio, bridio a gwerthu pryfed egsotig ledled y Deyrnas Unedig ac Ewrop.
Fe wnaeth Cameron adeiladu ei fusnes Bug Box tra’n astudio’r cwrs Gwasanaethau Cyhoeddus Lefel 3 yng Ngholeg Sir Gâr.Ar ôl mynychu sgwrs fenter gan Becky Pask, penderfynodd Cameron fynd â’i freuddwyd o fod yn berchen ar fusnes ymhellach.
Fe wnaeth Becky gefnogi Cameron drwy greu cynllun busnes, cynnal ymchwil i’r farchnad, profi cyfleoedd masnachu ar draws Cymru a hyd yn oed fy nghyflwyno i Fusnes Cymru a Syniadau Mawr Cymru.Siop entomoleg ar-lein yw Bug Box sy’n mewnforio, bridio a gwerthu pryfed egsotig ledled y Deyrnas Unedig ac Ewrop.
Mae Cameron wedi casglu gwobrau megis Gwobr Entrepreneur Ifanc y Flwyddyn Radio Sir Gâr a Choleg Sir Gâr.Enillydd bwrsariaeth Hen Fechgyn Ysgol Ramadeg Llanelli a Chymdeithas Cyn-ddisgyblion y Graig, enillydd bwrsariaeth y Goleudy 2019 a chystadleuydd rownd derfynol yng ngwobr entrepreneur ifanc y flwyddyn a gwobr entrepreneur y flwyddyn yng Ngwobrau Busnes Bae Abertawe 2020.
Mae Bug Box hefyd wedi ymddangos yng Nghyfres 2 y BBC o Young, Welsh and Pretty Minted!
Cysylltwch â Becky Pask; Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.