Gosod Trydanol Lefel 1

Disgrifiad o'r Rhaglen



Mae'r diploma lefel 1 hwn yn cyflwyno myfyrwyr i sgiliau trydanol cyffredinol.  Mae'n caniatáu i fyfyrwyr ddysgu, datblygu ac ymarfer y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cael gwaith a/neu ddilyn gyrfa fel trydanwr.  Byddwch yn ymgymryd ag amrywiaeth o weithgareddau cysylltiedig â gwaith trydanol i gynnwys gweithio gyda cheblau, gosod platiau socedi a switshis golau a chynhyrchu diagramau cylched.


Nodweddion y Rhaglen



Cynlluniwyd y cwrs hwn i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth myfyrwyr er mwyn eu galluogi i weithio yn y diwydiant yn eu crefft ddewisol.

Datblygwyd ef yn benodol i'w gyflwyno mewn amgylchedd hyfforddi gan ddefnyddio amodau efelychiadol ac mae'r profion wedi eu seilio ar y dysgwr yn dangos yr hyn y gall ei wneud fel unigolyn.

Caiff y cwrs ei gyflwyno gan staff tra chymwys a phrofiadol gan ddefnyddio cyfleusterau modern.

Hefyd, fel rhan o’r rhaglen, bydd dysgwyr yn cwblhau Sgiliau Hanfodol neu Sgiliau Sylfaenol.

Darperir cyfleoedd hefyd i sefyll TGAU mewn Cymraeg, Saesneg a Mathemateg ac i ddatblygu'r Gymraeg.

 


Dilyniant a Chyflogaeth



Mae cyfleoedd ar gyfer dilyniant yn cynnwys prentisiaethau neu gymhwyster diploma lefel 2 llawn amser a fydd yn darparu datblygiad pellach a dealltwriaeth o'r diwydiant adeiladu.


Cynnwys y Rhaglen



Mae pob uned yn cynnwys dwy ran sy’n cwmpasu gwybodaeth o’r pwnc a sgiliau ymarferol:

Strwythur y diwydiant adeiladu

Arferion gwaith diogel sylfaenol

Mesurau amgylcheddol a chynaladwyedd mewn cartrefi domestig

Paratoi safle ar gyfer gweithio yn y diwydiant adeiladu

Technegau ffabrigo ar gyfer gosod trydanol

Gwyddor drydanol a thechnoleg

Mae’r cwrs hwn hefyd yn cynnwys cyflwyno Cymwysterau Sgiliau Hanfodol neu Sgiliau Sylfaenol.


Asesu'r Rhaglen



Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu sy'n cynnwys cwestiynau gwybodaeth ysgrifenedig, profion ar-lein a phrofion sgiliau ymarferol.


Gofynion y Rhaglen



Er nad oes yna unrhyw ofynion mynediad ffurfiol, bydd angen i fyfyrwyr feddu ar lefel dda o sgiliau rhifedd a llythrennedd.   Dylai ymgeiswyr fod â diddordeb yn y grefft ddewisol a byddai tystiolaeth o allu ymarferol yn fantais.