Plastro Lefel 1

Disgrifiad o'r Rhaglen



Mae'r dystysgrif Lefel 1 hon yn cyflwyno myfyrwyr i sgiliau plastro.  Mae'n caniatáu i fyfyrwyr ddysgu, datblygu ac ymarfer y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cael gwaith a/neu ddilyn gyrfa mewn plastro.  Byddwch yn cymysgu deunyddiau plastro, rhoi haenau llyfnu, paratoi arwynebau cefndir a rendro.


Nodweddion y Rhaglen



Cynlluniwyd y cwrs hwn i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth myfyrwyr er mwyn eu galluogi i weithio yn y diwydiant yn eu crefft ddewisol.

Datblygwyd ef yn benodol i'w gyflwyno mewn amgylchedd hyfforddi gan ddefnyddio amodau efelychiadol ac mae'r profion wedi eu seilio ar y dysgwr yn dangos yr hyn y gall ei wneud fel unigolyn.

Caiff y cwrs ei gyflwyno gan staff tra chymwys a phrofiadol gan ddefnyddio cyfleusterau modern.

Hefyd, fel rhan o’r rhaglen, bydd dysgwyr yn cwblhau Sgiliau Hanfodol neu Sgiliau Sylfaenol.

Darperir cyfleoedd hefyd i sefyll TGAU mewn Cymraeg, Saesneg a Mathemateg ac i ddatblygu'r Gymraeg.


Dilyniant a Chyflogaeth



Mae cyfleoedd ar gyfer dilyniant yn cynnwys prentisiaethau neu gymhwyster diploma lefel un llawn amser a fydd yn darparu datblygiad pellach a dealltwriaeth o'r diwydiant adeiladu.


Cynnwys y Rhaglen



Mae pob uned yn cynnwys dwy ran sy’n cwmpasu gwybodaeth o’r pwnc a sgiliau ymarferol:

Cyflwyniad i Iechyd a Diogelwch mewn adeiladu

Paratoi arwynebau cefndir a rendro

Paratoi arwynebau cefndir a rhoi haenau gorffennu

Cymysgu deunyddiau a rhoi haenau llyfnu

Cynhyrchu cydrannau o fowldiau

Mae’r cwrs hwn hefyd yn cynnwys cyflwyno Cymwysterau Sgiliau Hanfodol neu Sgiliau Sylfaenol.


Asesu'r Rhaglen



Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu sy'n cynnwys cwestiynau gwybodaeth ysgrifenedig, profion ar-lein a phrofion sgiliau ymarferol.  


Gofynion y Rhaglen



Er nad oes yna unrhyw ofynion mynediad ffurfiol, bydd angen i fyfyrwyr feddu ar lefel dda o sgiliau rhifedd a llythrennedd.   Dylai ymgeiswyr fod â diddordeb yn y grefft ddewisol a byddai tystiolaeth o allu ymarferol yn fantais.