Gosod Trydanol Lefel 3

Disgrifiad o'r Rhaglen



Mae’r diploma Lefel 3 hwn yn datblygu diagnosio a chywiro namau ynghyd â sgiliau archwilio, profi a chomisiynu. Mae'n caniatáu i fyfyrwyr ddysgu, datblygu ac ymarfer y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cael gwaith fel trydanwr.  Byddwch yn cwblhau amrywiaeth o dasgau cysylltiedig â gwaith trydanol sy'n cael eu gwneud yn y diwydiant ac yn defnyddio gwahanol offer llaw ac offer pwer yn ddiogel.


Nodweddion y Rhaglen



Cynlluniwyd y cwrs hwn i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth myfyrwyr er mwyn eu galluogi i weithio yn y diwydiant yn eu crefft ddewisol.

Datblygwyd ef yn benodol i'w gyflwyno mewn amgylchedd hyfforddi gan ddefnyddio amodau efelychiadol ac mae'r profion wedi eu seilio ar y dysgwr yn dangos yr hyn y gall ei wneud fel unigolyn.

Caiff y cwrs ei gyflwyno gan staff tra chymwys a phrofiadol gan ddefnyddio cyfleusterau modern.

Hefyd, fel rhan o’r rhaglen, bydd dysgwyr yn cwblhau Sgiliau Hanfodol.

Darperir cyfleoedd hefyd i sefyll TGAU mewn Cymraeg, Saesneg a Mathemateg ac i ddatblygu'r Gymraeg.

 


Dilyniant a Chyflogaeth



Bydd myfyrwyr yn gallu symud ymlaen i raglen brentisiaeth yn amodol ar gyfweliad a chyflogaeth a fydd yn darparu datblygiad pellach a dealltwriaeth o'r diwydiant adeiladu.


Cynnwys y Rhaglen



Mae pob uned yn cynnwys dwy ran sy’n cwmpasu gwybodaeth o’r pwnc a sgiliau ymarferol:

Iechyd a Diogelwch mewn peirianneg gwasanaethau adeiladu

Deall egwyddorion a gofynion sylfaenol systemau technoleg amgylcheddol

Egwyddorion gwyddor drydanol

Gosodiadau trydanol: diagnosio a chywiro namau

Gosodiadau trydanol: archwilio, profi a chomisiynu

Dylunio system drydanol

Ymwybyddiaeth o yrfaoedd mewn peirianneg gwasanaethau adeiladu

Mae’r cwrs hwn hefyd yn cynnwys cyflwyno Cymwysterau Sgiliau Hanfodol.


Asesu'r Rhaglen



Asesu'r Rhaglen

Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu sy'n cynnwys cwestiynau gwybodaeth ysgrifenedig, profion ar-lein a phrofion sgiliau ymarferol.


Gofynion y Rhaglen



Cyfweliad ffurfiol ac yn ddelfrydol bydd myfyrwyr wedi cwblhau diploma L2 mewn gosod trydanol ac yn meddu ar lefelau llythrennedd a rhifedd da.  Rhoddir ystyriaeth yn ogystal i fyfyrwyr hyn yn amodol ar gyfweliad ffurfiol. Dylai ymgeiswyr fod â diddordeb yn y grefft ddewisol a byddai tystiolaeth o allu ymarferol yn fantais.