Mae'r llwybr hwn yn darparu fframwaith prentisiaeth Galwedigaethau Trywel a gytunwyd yn genedlaethol ar gyfer llwybr dysgu seiliedig ar waith i gyflogaeth yn y diwydiant adeiladu, gan ddefnyddio cymwysterau sy'n cyfuno sgiliau ymarferol a gwybodaeth.
Bydd dysgwyr sy’n cwblhau prentisiaeth Galwedigaethau Trywel yn gwneud gwaith mewn meysydd megis:
Gosod allan a chodi adeileddau gwaith maen cymhleth, atgyweirio a chynnal a chadw adeileddau gwaith maen a gwneud bricwaith addurnol a chyfnerth.
Fel prentis, neilltuir ymgynghorydd hyfforddi i chi a fydd yn cadw golwg arnoch ac yn rhoi cymorth i chi ar hyd eich taith ar y fframwaith hwn, gan weithio’n agos gyda’ch cyflogwr a’ch tiwtoriaid yn y coleg.
Bydd disgwyl i chi fynychu’r coleg un dydd yr wythnos ar gyfer gwybodaeth greiddiol, a bydd asesu hefyd yn digwydd yn y coleg neu’r gweithle yn rheolaidd. Mae'r cwrs hwn yn seiliedig ar waith ymarferol a theori.
Mae’r Diploma NVQ Lefel 3 mewn Galwedigaethau Trywel yn cynnwys:
Byddai dilyniant o’r fframwaith hwn yn arwain i brentisiaeth uwch lefel 4 mewn disgyblaeth gysylltiedig ag adeiladu neu HNC mewn Rheolaeth a Thechnoleg Adeiladu.
Bydd y llwybr hwn yn datblygu eich sgiliau ar gyfer gwaith fel Briciwr L3 cymwysedig.
Ar gwblhau'r rhaglen hon yn llwyddiannus, bydd Prentisiaid yn cyflawni'r canlynol -
Diploma NVQ Lefel 3 mewn Galwedigaethau Trywel
Diploma Lefel 3 mewn Gosod Brics
Cymhwyster Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif ar lefel 2
Hawliau a Chyfrifoldebau Cyflogwr
Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu sy'n cynnwys cwestiynau gwybodaeth ysgrifenedig, profion ar-lein a phrofion sgiliau ymarferol.
Caiff unedau eu hasesu trwy bortffolio NVQ a/neu yn ymarferol yn y gweithle trwy arsylwi arferion gwaith. Yn ogystal bydd profion ysgrifenedig a phrofion ar-lein ar gyfer gwybodaeth theori’r cymwysterau NVQ a diploma yn cael eu sefyll yn y coleg.
Er nad oes yna unrhyw ofynion mynediad ffurfiol, bydd angen i fyfyrwyr feddu ar lefel dda o sgiliau rhifedd a llythrennedd. Dylai ymgeiswyr fod â diddordeb yn y grefft ddewisol a byddai tystiolaeth o allu ymarferol yn fantais. Yn ychwanegol, rhaid i brentisiaid: