Galluogi'r Bar Hygyrchedd

Plastro Lefel 2

Disgrifiad o'r Rhaglen



Mae’r diploma Lefel 2 hwn yn datblygu’r sgiliau plastro rendro a gorffennu ynghyd â systemau leinin sych bondin uniongyrchol a sgridiau tywod/sment. Mae'n caniatáu i fyfyrwyr ddysgu, datblygu ac ymarfer y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cael gwaith a/neu ddilyn gyrfa mewn plastro.  Byddwch yn cwblhau amrywiaeth o dasgau cysylltiedig â phlastro sy'n cael eu gwneud yn y diwydiant ac yn defnyddio gwahanol offer llaw ac offer pwer yn ddiogel.  Hefyd, bydd uned egwyddorion adeiladu adeiladau, gwybodaeth a chyfathrebu yn rhoi cyflwyniad i chi i dechnoleg adeiladu.


Nodweddion y Rhaglen



Cynlluniwyd y cwrs hwn i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth myfyrwyr er mwyn eu galluogi i weithio yn y diwydiant yn eu crefft ddewisol.

Datblygwyd ef yn benodol i'w gyflwyno mewn amgylchedd hyfforddi gan ddefnyddio amodau efelychiadol ac mae'r profion wedi eu seilio ar y dysgwr yn dangos yr hyn y gall ei wneud fel unigolyn.

Caiff y cwrs ei gyflwyno gan staff tra chymwys a phrofiadol gan ddefnyddio cyfleusterau modern.

Hefyd, fel rhan o’r rhaglen, bydd dysgwyr yn cwblhau Sgiliau Hanfodol.

Darperir cyfleoedd hefyd i sefyll TGAU mewn Cymraeg, Saesneg a Mathemateg ac i ddatblygu'r Gymraeg.


Dilyniant a Chyflogaeth



Mae cyfleoedd ar gyfer dilyniant yn cynnwys prentisiaethau neu gymwysterau llawn amser eraill sy’n gysylltiedig ag adeiladu a fydd yn darparu datblygiad a dealltwriaeth bellach o grefftau yn y diwydiant adeiladu.


Cynnwys y Rhaglen



Mae pob uned yn cynnwys dwy ran sy’n cwmpasu gwybodaeth o’r pwnc a sgiliau ymarferol:

Iechyd a Diogelwch a lles mewn adeiladu

Egwyddorion adeiladu adeiladau, gwybodaeth a chyfathrebu

Rhoi deunyddiau plastro ar ardaloedd mewnol.

Gosod leinin sych a bwrdd plastr ar ardaloedd mewnol

Gosod sgridiau tywod a sment

Rhoi deunyddiau bwrdd plastr ar gefndiroedd allanol

Cynhyrchu mowldiau gwrthdro ar gyfer gwaith ffibrog

Castio a sefydlogi gwaith plastro ffibrog

Mae’r cwrs hwn hefyd yn cynnwys cyflwyno Cymwysterau Sgiliau Hanfodol.


Asesu'r Rhaglen



Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu sy'n cynnwys cwestiynau gwybodaeth ysgrifenedig, profion ar-lein a phrofion sgiliau ymarferol.  


Gofynion y Rhaglen



Cyfweliad ffurfiol ac yn ddelfrydol bydd myfyrwyr wedi cwblhau diploma L1 mewn Plastro ac yn meddu ar lefelau llythrennedd a rhifedd da.  Rhoddir ystyriaeth yn ogystal i fyfyrwyr hyn yn amodol ar gyfweliad ffurfiol. Dylai ymgeiswyr fod â diddordeb yn y grefft ddewisol a byddai tystiolaeth o allu ymarferol yn fantais.


Costau Ychwanegol



Bydd angen i fyfyrwyr ddod o hyd a phrynu eu Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) eu hunain sy'n cynnwys Bŵts Diogelwch, Sbectol Diogelwch, Het Galed a Dillad Llachar.

 Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £45 cyn cofrestru.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.