Galluogi'r Bar Hygyrchedd

Gwaith Saer Sylfaenol

Disgrifiad o'r Rhaglen



Mae'r dystysgrif Lefel 1 hon yn cyflwyno myfyrwyr i sgiliau gwaith saer ac asiedydd.  Mae'n caniatáu i fyfyrwyr ddysgu, datblygu ac ymarfer y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cael gwaith a/neu ddilyn gyrfa mewn gwaith saer neu asiedydd.  Byddwch yn cynhyrchu amrywiaeth o uniadau gwaith coed cysylltiedig â gwaith saer sy'n cael eu defnyddio yn y diwydiant ac yn defnyddio gwahanol offer llaw ac offer pwer yn ddiogel.


Nodweddion y Rhaglen



Cynlluniwyd y cwrs hwn i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth myfyrwyr er mwyn eu galluogi i weithio yn y diwydiant yn eu crefft ddewisol.

Datblygwyd ef yn benodol i'w gyflwyno mewn amgylchedd hyfforddi gan ddefnyddio amodau efelychiadol ac mae'r profion wedi eu seilio ar y dysgwr yn dangos yr hyn y gall ei wneud fel unigolyn.

Caiff y cwrs ei gyflwyno gan staff tra chymwys a phrofiadol gan ddefnyddio cyfleusterau modern.

Hefyd, fel rhan o’r rhaglen, bydd dysgwyr yn cwblhau Sgiliau Hanfodol neu Sgiliau Sylfaenol.

Darperir cyfleoedd hefyd i sefyll TGAU mewn Cymraeg, Saesneg a Mathemateg ac i ddatblygu'r Gymraeg.


Dilyniant a Chyflogaeth



Mae cyfleoedd ar gyfer dilyniant yn cynnwys prentisiaethau neu gymwysterau llawn amser eraill sy’n gysylltiedig ag adeiladu a fydd yn darparu datblygiad a dealltwriaeth bellach o grefftau yn y diwydiant adeiladu.


Cynnwys y Rhaglen



Mae pob uned yn cynnwys dwy ran sy’n cwmpasu gwybodaeth o’r pwnc a sgiliau ymarferol:

Cyflwyniad i Iechyd a Diogelwch mewn adeiladu

Llunio uniadau haneru

Llunio uniadau rhigol

Llunio uniadau bagl

Llunio uniadau mortais a thyno pwt

Mae’r cwrs hwn hefyd yn cynnwys cyflwyno Cymwysterau Sgiliau Hanfodol neu Sgiliau Sylfaenol.


Asesu'r Rhaglen



Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu sy'n cynnwys cwestiynau gwybodaeth ysgrifenedig, profion ar-lein a phrofion sgiliau ymarferol.


Gofynion y Rhaglen



Er nad oes yna unrhyw ofynion mynediad ffurfiol, bydd angen i fyfyrwyr feddu ar lefel dda o sgiliau rhifedd a llythrennedd.   Dylai ymgeiswyr fod â diddordeb yn y grefft a ddewiswyd a byddai tystiolaeth o allu ymarferol yn fantais.


Costau Ychwanegol



Bydd angen i fyfyrwyr ddod o hyd a phrynu eu Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) eu hunain sy'n cynnwys Bŵts Diogelwch, Sbectol Diogelwch, Het Galed a Dillad Llachar.

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £45 cyn cofrestru.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.