Gosod Brics Lefel 1

Disgrifiad o'r Rhaglen



Mae'r diploma lefel 1 hwn yn cyflwyno myfyrwyr i sgiliau gosod brics cyffredinol.  Mae'n caniatáu i fyfyrwyr ddysgu, datblygu ac ymarfer y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cael gwaith a/neu ddilyn gyrfa mewn gosod brics.  Byddwch yn ymgymryd ag amrywiaeth o weithgareddau cysylltiedig â gosod brics i gynnwys gosod gwaith blociau, bricwaith, a gosod allan. Hefyd, bydd uned egwyddorion adeiladu adeiladau, gwybodaeth a chyfathrebu yn rhoi cyflwyniad i chi i dechnoleg adeiladu. 


Nodweddion y Rhaglen



Cynlluniwyd y cwrs hwn i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth myfyrwyr er mwyn eu galluogi i weithio yn y diwydiant yn eu crefft ddewisol.

Datblygwyd ef yn benodol i'w gyflwyno mewn amgylchedd hyfforddi gan ddefnyddio amodau efelychiadol ac mae'r profion wedi eu seilio ar y dysgwr yn dangos yr hyn y gall ei wneud fel unigolyn.

Caiff y cwrs ei gyflwyno gan staff tra chymwys a phrofiadol gan ddefnyddio cyfleusterau modern.

Hefyd, fel rhan o’r rhaglen, bydd dysgwyr yn cwblhau Sgiliau Hanfodol neu Sgiliau Sylfaenol.

Darperir cyfleoedd hefyd i sefyll TGAU mewn Cymraeg, Saesneg a Mathemateg ac i ddatblygu'r Gymraeg.


Dilyniant a Chyflogaeth



Mae cyfleoedd ar gyfer dilyniant yn cynnwys prentisiaethau neu gymhwyster diploma lefel 2 llawn amser a fydd yn darparu datblygiad pellach a dealltwriaeth o'r diwydiant adeiladu.  


Cynnwys y Rhaglen



Mae pob uned yn cynnwys dwy ran sy’n cwmpasu gwybodaeth o’r pwnc a sgiliau ymarferol:

Egwyddorion adeiladu adeiladau, gwybodaeth a chyfathrebu

Cyfrannu at osod allan ac adeiladu adeileddau gwaith maen hyd at gwrs gwrthleithder

Gwneud gweithgareddau gosod blociau

Gwneud gweithgareddau gosod brics

Gwneud gweithgareddau waliau ceudod

Iechyd a Diogelwch a lles mewn adeiladu

Mae’r cwrs hwn hefyd yn cynnwys cyflwyno Cymwysterau Sgiliau Hanfodol neu Sgiliau Sylfaenol.


Asesu'r Rhaglen



Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu sy'n cynnwys cwestiynau gwybodaeth ysgrifenedig, profion ar-lein a phrofion sgiliau ymarferol.  


Gofynion y Rhaglen



Er nad oes yna unrhyw ofynion mynediad ffurfiol, bydd angen i fyfyrwyr feddu ar lefel dda o sgiliau rhifedd a llythrennedd.  Dylai ymgeiswyr fod â diddordeb yn y grefft a ddewiswyd a byddai tystiolaeth o allu ymarferol yn fantais.